Cyhoeddi cynigion etholaethol diwygiedig y Senedd
Dewch o hyd i'r Cynigion Diwygiedig yma.
Heddiw (17 Rhagfyr 2024) mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi Cynigion Diwygiedig ar gyfer etholaethau Senedd newydd Cymru.
Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cyfarwyddo’r Comisiwn i wneud argymhellion ar gyfer 16 o etholaethau i ddisodli’r 40 etholaeth a 5 rhanbarth presennol.
Bydd yr etholaethau newydd hyn yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad Senedd 2026, a bydd 6 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol o bob un, gan ddefnyddio’r dull D’Hondt a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer rhestrau rhanbarthol y Senedd.
Bu’n rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru greu 16 etholaeth drwy baru 32 etholaeth seneddol y DU yng Nghymru, gan sicrhau bod pob etholaeth yn ffinio â’r un y mae wedi’i pharu â hi.
Yr 16 etholaeth a gynigir gan y Comisiwn yw:
- Bangor Conwy Môn
- Clwyd
- Fflint Wrecsam
- Gwynedd Maldwyn
- Ceredigion Penfro
- Sir Gâr
- Gorllewin Abertawe Gŵyr (Swansea West Gower)
- De Powys Tawe Nedd (South Powys Tawe Neath)
- Afan Ogwr Rhondda
- Merthyr Cynon Taf
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
- Mynwy Torfaen
- Casnewydd Islwyn
- De-ddwyrain Caerdydd Penarth (Cardiff South-east Penarth)
- Gogledd-orllewin Caerdydd (Cardiff North-west)
- Pen-y-bont Bro Morgannwg
Mae’r Comisiwn, mewn ymateb i’r Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol, wedi dewis newid y cyfluniad arfaethedig o etholaethau yn ardal Caerdydd, ac wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w enwau arfaethedig.
Derbyniodd y Comisiwn dros 3,700 o ymatebion yn ystod y Cyfnod Ymgynghori Cychwynnol. Roedd llawer o’r ymatebion a ddaeth i law yn mynegi anghytundeb cyffredinol neu gytundeb â’r Cynigion Cychwynnol, a bu llawer yn trafod materion y tu allan i gwmpas yr Arolwg.
Fodd bynnag, derbyniodd y Comisiwn hefyd gannoedd o awgrymiadau gwerthfawr gan y cyhoedd a rhanddeiliaid sydd wedi helpu i lunio’r Cynigion Diwygiedig.
Mae’r Comisiwn o’r farn mai dim ond os oes modd teithio drwyddi draw heb orfod gadael yr etholaeth y dylid meddwl am etholaethau fel rhai “cyffiniol” neu gymdogol.
Er enghraifft, nid oedd y Comisiwn yn ystyried Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd yn gynnig hyfyw gan nad oes modd teithio o un i'r llall ar y ffordd heb orfod mynd i mewn i Fangor Aberconwy.
Bu’r Comisiwn hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol, megis rhannu hanes, y Gymraeg, ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol mewn ymgais i gynnig etholaethau sy’n teimlo mor naturiol â phosibl i bobl ledled Cymru.
Fodd bynnag, nid yw'r Comisiwn yn ystyried effaith ei gynigion ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol.
Ar ôl cyhoeddi ei Gynigion Diwygiedig, mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru hefyd wedi agor ymgynghoriad 4 wythnos terfynol i geisio barn pobl ledled Cymru.
Mae’r Comisiwn yn awyddus i ddeall a oes cefnogaeth gyhoeddus i’r cynigion diwygiedig hyn neu a yw pobl yn teimlo y dylai eu hetholaeth seneddol gael ei pharu ag etholaeth wahanol yn lle hynny.
Mae’r Comisiwn hefyd yn edrych ymlaen at glywed barn y cyhoedd ar yr enwau etholaethau arfaethedig sydd wedi newid yn fawr.
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r Cynigion Diwygiedig, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae’r Cynigion Diwygiedig hyn yn gam sylweddol ar y daith i greu etholaethau newydd Cymru.
“Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’r miloedd o bobl a ymatebodd i’r Ymgynghoriad Cychwynnol, ac mae’n gwahodd pawb sydd â barn ar y cynigion hyn i roi eu barn i’r Comisiwn cyn 13 Ionawr 2025.
“Mae’r rheolau sydd yn eu lle ar gyfer yr arolwg hwn yn golygu na ellir newid rhai cynigion, ond yn dilyn yr adborth a gawsom gan y cyhoedd, rydym wedi gwneud addasiadau sylweddol i’r enwau arfaethedig, yn ogystal â newid cyfluniad etholaethau yn ardal Caerdydd. .
“Mae’r Comisiwn yn dal yn agored i wneud newidiadau pellach, yn dibynnu ar y cynrychiolaethau a gawn yn ystod yr ymgynghoriad hwn, felly rydym yn annog pawb i rannu eu barn cyn 13 Ionawr 2025.”
Daw’r Cyfnod Ymgynghori Diwygiedig i ben ar 13 Ionawr, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei Adroddiad ar Benderfyniadau Terfynol ddiwedd mis Mawrth 2025.
The Democracy and Boundary Commission Cymru has today (17 December 2024) published Revised Proposals for Wales’ new Senedd constituencies.
The Senedd Cymru (Members and Elections) Act instructs the Commission to make recommendations for 16 constituencies to replace the current 40 constituencies and 5 regions.
These new constituencies will take effect automatically at the 2026 Senedd election, and 6 Members of the Senedd will be elected from each one, using the D’Hondt method currently used for the Senedd’s regional lists.
The Democracy and Boundary Commission Cymru has had to create 16 constituencies by pairing Wales’ 32 UK parliamentary constituencies, ensuring that each constituency neighbours the one with which it is paired.
The 16 constituencies proposed by the Commission are:
- Bangor Conwy Môn
- Clwyd
- Fflint Wrecsam
- Gwynedd Maldwyn
- Ceredigion Penfro
- Sir Gâr
- Gorllewin Abertawe Gŵyr (Swansea West Gower)
- De Powys Tawe Nedd (South Powys Tawe Neath)
- Afan Ogwr Rhondda
- Merthyr Cynon Taf
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
- Mynwy Torfaen
- Casnewydd Islwyn
- De-ddwyrain Caerdydd Penarth (Cardiff South-east Penarth)
- Gogledd-orllewin Caerdydd (Cardiff North-west)
- Pen-y-bont Bro Morgannwg
The Commission has, in response to the Initial Consultation Period, elected to change the proposed configuration of constituencies in the Cardiff area, and has made significant changes to its proposed names.
The Commission received over 3,700 responses during the Initial Consultation Period. Many of the responses received expressed general disagreement or agreement with the Initial Proposals, and many discussed matters outside of the scope of the Review.
However, the Commission also received hundreds of valuable suggestions from the public and stakeholders which have helped shape the Revised Proposals.
The Commission considers that constituencies should only be thought of as “contiguous” or neighbouring if it is possible to travel throughout it without having to leave the constituency.
For example, the Commission did not consider Ynys Môn and Dwyfor Meirionnydd to be a viable proposal since it is not possible to travel from one to the other by road without having to enter Bangor Aberconwy.
The Commission also considered local ties, such as shared history, the Welsh language, and socio-economic considerations in an attempt to propose constituencies which feel as natural as possible to people across Wales.
The Commission does not however consider the impact of its proposals on future election results.
Having published its Revised Proposals, the Democracy and Boundary Commission Cymru has also opened a final 4-week consultation to seek the views of people across Wales.
The Commission is keen to understand whether there is public support for these revised proposals or whether people feel that their parliamentary constituency should instead be paired with a different constituency.
The Commission also looks forward to hearing the public’s views on the much-changed proposed constituency names.
Commenting on the publication of the Revised Proposals, Chief Executive of the Democracy and Boundary Commission Cymru, Shereen Williams MBE OStJ said:
“These Revised Proposals represent a significant step on the journey to creating Wales’s new constituencies.
“The Commission would like to thank the thousands of people who responded to the Initial Consultation, and invites everyone with a view on these proposals to let the Commission know their thoughts before 13 January 2025.
“The rules in place for this review mean that certain proposals can’t be changed, but following the feedback we received from the public, we have made significant adjustments to the proposed names, as well as changing the configuration of constituencies in the Cardiff area.
“The Commission remains open to making further changes, depending on the representations we receive during this consultation, so we urge everyone to share their views before 13 January 2025.”
The Revised Consultation Period closes on 13 January, and the Commission will publish its Final Decisions Report at the end of March 2025.