Polisi ac Arfer wedi ei Gyhoeddi
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer gyfredol ar gyfer y rhaglen i arolygu ardaloedd y 22 prif gyngor mewn da bryd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.
Yn dilyn y Datganiad Ysgrifenedig a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 23 Mehefin 2016, mae’r Comisiwn wedi adolygu’r ddogfen Polisi ac Arfer i fodloni’r rhwymedigaethau fel y’u pennir mewn deddfwriaeth.
Mae’r ddogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer yn amlinellu amserlen arfaethedig y Comisiwn ar gyfer cynnal yr arolygon o brif gynghorau Cymru; ei bolisi ar Faint Cynghorau; a’r polisïau a gweithdrefnau y bydd yn eu cymhwyso wrth gynnal yr arolygon.