CFfDLC yn ymateb i Bapur Gwyn y Llywodraeth
Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar weinyddu a diwygio etholiadol, a gyhoeddwyd ddoe (11 Hydref 2022) sy’n cynnwys sawl cynnig ar gyfer newid rôl a swyddogaeth y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru.
Mae newidiadau i’r ffordd y mae’r Comisiwn yn ymgysylltu â’r cyhoedd, ac addasiadau i’r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer Arolygon ymhlith yr argymhellion.
Mae cynnig hefyd yn y Papur Gwyn i ddiddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac i drosglwyddo ei swyddogaethau i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, dywedodd Cadeirydd y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru, Bev Smith:
“Mae’r Comisiwn yn croesawu Papur Gwyn y Llywodraeth ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â Gweinidogion a phartneriaid eraill wrth i drafodaethau barhau ar newidiadau i rôl a swyddogaeth y Comisiwn yn y dyfodol.
“Mae cynnwys pleidleiswyr cymwys fel ymgyngoreion gorfodol ar Arolygon y Comisiwn yn cefnogi cred y Comisiwn fod ymgysylltu â’r cyhoedd yn hanfodol i lwyddiant Arolygon, nid yn unig oherwydd mai pleidleiswyr cymwys yw’r bobl yr effeithir arnynt fwyaf gan newidiadau i drefniadau etholiadol lleol, ond oherwydd mai nhw sydd â’r gwybodaeth leol gorau hefyd sy'n hanfodol i ddatblygu cynigion da.
“Mae’r newidiadau arfaethedig i’r broses gwneud penderfyniadau yn adlewyrchu’r angen am eglurder i’r cyhoedd a’n partneriaid llywodraeth leol a bydd yn helpu i sicrhau bod Arolygon yn cael eu cynnal hyd at eu cwblhau mewn modd amserol.
“Mae’r Comisiwn yn ymfalchïo yn ei berthynas gref â phartneriaid llywodraeth leol ac yn ei annibyniaeth a’i ddidueddrwydd ac mae’n nodi gyda diddordeb y cynnig i drosglwyddo swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i’w ofal, yn dibynnu ar gytundeb y Senedd.”
- Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar gael i’w ddarllen yma: Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol | LLYW.CYMRU