Newid mwyaf erioed i ffiniau Llywodraeth Leol wedi ei gadarnhau
Llywodraeth Cymru yn gwneud ei benderfyniad olaf ar newid ffiniau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniad ar Arolwg Etholiadol Sir y Fflint, gan ddod â’r newidiadau mwyaf sylweddol i ffiniau etholiadol yn hanes Llywodraeth Leol Cymru i ben.
Cyflwynodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru argymhellion ar gyfer pob un o’r 22 Prif Gyngor yng Nghymru i Lywodraeth Cymru mewn rhaglen adolygu a barhaodd rhwng 2017 a 2021.
Cafodd y rhaglen 10 mlynedd ei hatal dros dro wrth i Lywodraeth Cymru ystyried diwygiadau i lywodraeth leol yng Nghymru, gan roi 4 blynedd i’r Comisiwn gwblhau’r gwaith.
Anfonwyd y set gyntaf o argymhellion, ar gyfer Ceredigion a Gwynedd, at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yng nghanol 2018 a chwblhawyd y rhaglen gyda chyhoeddi'r argymhellion ar gyfer Sir Fynwy ar 8 Mehefin 2021.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried pob set o argymhellion ac wedi cyhoeddi penderfyniadau bron bob wythnos ers yr haf, gan ddechrau gyda'r penderfyniadau i dderbyn yr argymhellion ar gyfer cynghorau Rhondda Cynon Taf ac Abertawe ar 24 Mehefin.
Yn y mwyafrif helaeth o achosion, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo pob argymhelliad gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac eithrio rhai argymhellion ar enwau wardiau.
Dim ond ar gyfer 3 o'r 22 Adolygiad y gwnaed addasiadau i'r wardiau eu hunain. Ledled Cymru, derbyniodd Llywodraeth Cymru 757 o wardiau a argymhellir, a gwneud addasiadau i 5 argymhelliad (ac eithrio enwau wardiau).
Wrth sôn am gwblhau’r broses, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Lleol Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae’r penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru i dderbyn argymhellion y Comisiwn yn golygu y bydd gan bobl ledled Cymru fwy o gydraddoldeb etholiadol yn eu hetholiadau Llywodraeth Leol.
“Rydyn ni'n ddiolchgar i bob cyngor, eu cynghorwyr, a'r cyhoedd am eu cefnogaeth a'u hymgysylltiad wrth i ni gyflawni'r broses hon.
“Rydym eisoes yn cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid ar sut y gallwn wella'r broses yn y dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at gynyddu ein hymgysylltiad â'r cyhoedd a datblygu ein cydweithrediad â'n partneriaid Llywodraeth Leol wrth inni edrych tuag at y rownd nesaf o Arolygon yn dilyn yr etholiadau yn 2022.”
Disgwylir i'r holl argymhellion ddod i rym ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol 2022, yn ddarostyngedig i Orchmynion a wneir gan Lywodraeth Cymru.