Cadarnhau Diwygio Ffiniau Caerffili

Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDLC

Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Caerffili yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gyda newidiadau i 5 o’r argymhellion.

Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 5 Tachwedd 2020 ac mae’r Gweinidog dros Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau heddiw bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.

Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Caerffili yn gweld gostyngiad yn ei nifer o gynghorwyr, o 73 i 69. Fe fydd yna 1,886 o bleidleiswyr ar gyfer bob aelod o’r cyngor ar gyfartaledd.

Yn ogystal a hyn, mi fydd y nifer o wardiau on gostwng o 33 i 31, gyda 25 ohonynt yn ethol mwy nag un cynghorydd.

Mi fydd 13 ward yn ethol 2 gynghorydd, 11 ward yn ethol 3 cynghorydd, ac 1 ward yn ethol 4 cynghorydd.

Ni fydd unrhyw newid i 24 ward yn sgil y diwygio yma.

Yn ysgrifennu yn y Datganiad Ysgrifennedig, dywedodd y Gweinidog ei bod yn fodlon bod y Comisiwn wedi cyd-fynd a gofynion y Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, a’r trefniadau manwl yn ei ddogfen Polisi ac Arfer y cytunwyd arni wrth ymgymryd â’r Arolwg Etholiadol o Gaerffili.

Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:

“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y mwyafrif o’n hargymhellion.

“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Caerffili.

“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Caerffili, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”

Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.

Y rhestr o wardiau Cadwedig:

  • Abercarn
  • Cwm Aber
  • Crosskeys
  • Crymlyn
  • Gilfach
  • Hengoed
  • Llanbradach
  • Maesycwmer
  • Nelson
  • Tredegar Newydd
  • Penmaen
  • Pontllanfraith
  • Risca West
  • Argoed
  • Coed-duon
  • Cwm Darran
  • Morgan Jones
  • Trecelyn
  • Penyrheol
  • Risca East
  • Sant Catwg
  • Sant Martin
  • Ynys-ddu
  • Ystrad Mynach

Argymhellion ni dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Trefniadau wardiau etholiadol

Mi fydd y wardiau etholiadol Hengoed, Llanbradach, Sant Catwg, Ystrad Mynach, a Crosskeys ac Ynysddu yn parhau fel y maent.

Enwau wardiau etholiadol

Argymhellodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw etholiadol unigol Abercarn. Bydd yr enw Cymraeg Aber-carn yn cael ei roi i’r ward etholiadol.

Argymhellodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw etholiadol unigol Maesycwmmer. Bydd yr enw Cymraeg Maesycwmwr yn cael ei roi i’r ward etholiadol.

Argymhellodd y Comisiwn yr enw unigol Pontllan-fraith. Bydd yr enw Cymraeg Pontllan-fraith a’r enw Saesneg Pontllanfraith yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.

Mae’r adroddiad yr Argymhellion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Caerffili i'w weld yma, ynghyd â mapiau o bob ward arfaethedig.

Mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r penderfyniad i'w weld yma.

Amser darllen amcangyfrifedig:

5 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: