Swydd: Aelod Annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

Swydd-ddisgrifiad ar gyfer Aelod Annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Mae’n ofynnol i’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (y Comisiwn) sicrhau bod ganddo drefniadau effeithiol ar waith i roi sicrwydd i Swyddog Cyfrifyddu’r Comisiwn ynglŷn â digonolrwydd trefniadau, o fewn y Comisiwn, ar gyfer llywodraethu corfforaethol, gan gynnwys archwilio mewnol ac allanol, rheoli risg, rheoli a rhagfynegi ariannol, a materion llywodraethu corfforaethol ehangach. Mae gan y Comisiwn Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg i ymgymryd â’r dasg hon.

Nod y Pwyllgor yw cynghori’r Comisiwn ar gyflawni ei gyfrifoldeb am lywodraethu trwyadl ac effeithiol, a chyflawni ei gyfrifoldebau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol.

Amgaeir copi o Gylch Gwaith y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.

Rhestrir aelodau presennol y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg isod:

Michael Imperato (Cadeirydd)

Frank Cuthbert (Dirprwy Gadeirydd)

Dianne Bevan (Aelod)

Disgrifiad o’r Rôl

  1. Atebolrwydd:
  • I’r Comisiwn
  • I Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
  1. Gweithgarwch a diben y rôl:

Cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a gwneud penderfyniadau

  • Rhoi sicrwydd i’r Swyddog Cyfrifyddu a sicrhau, ym mhob ffordd berthnasol, bod yr arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio’n briodol ar gyfer ei ddibenion perthnasol, ac yn unol â gofynion polisïau Llywodraeth Cymru.
  • Dangos annibyniaeth, uniondeb, a didueddrwydd wrth wneud penderfyniadau yn unol â gofynion cyfreithiol, cyfansoddiadol a pholisi.
  • Ystyried gofynion Cadeirydd y Pwyllgor a chyngor proffesiynol uwch reolwyr y Comisiwn, gan gynnwys y Prif Weithredwr, y Pennaeth Polisi a Rhaglenni a’r Pennaeth Busnes.
  • Cydymffurfio â Chod Ymddygiad y Comisiwn.
  • Gweithio yn unol â’r Cylch Gwaith ar gyfer y Pwyllgor.
  • Cyfrannu at ddatblygu’r blaengynllun gwaith ar gyfer y Pwyllgor.
  • Hyrwyddo rôl y Pwyllgor o fewn y Comisiwn.
  • Ymateb i unrhyw argymhellion a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
  • Cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant a datblygiad sy’n ofynnol ar gyfer y rôl.

Cyfrannu at waith y Pwyllgor yn ei rôl wrth:

Adolygu a chraffu ar faterion ariannol y Comisiwn

  • Gwneud argymhellion ynglŷn â materion ariannol y Comisiwn.
  • Adolygu ac asesu gallu’r Comisiwn i adrodd ar ei sefyllfa o ran gwariant a’r gyllideb yn effeithiol.
  • Goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod.
  • Gweithio gydag archwilwyr mewnol ac allanol.
  • Adolygu’r datganiadau ariannol a baratowyd gan yr awdurdod a’u cymeradwyo i’w llofnodi.

Cyfrannu at berfformiad effeithiol y Comisiwn

  • Adolygu ac asesu gallu’r Comisiwn i drin cwynion yn effeithiol.
  • Adolygu ac asesu gallu’r Comisiwn i drin ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn effeithiol.
  • Adolygu ac asesu effeithiolrwydd trefniadau Diogelwch TGCh y Comisiwn.

Adolygu ac asesu trefniadau Llywodraethu, Rheoli Risg a Rheolaeth y Comisiwn

  • Adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn.
  • Gwneud argymhellion i’r Comisiwn ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny.
  • Adolygu ac asesu’r risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â llywodraethu corfforaethol, a bod yn fodlon bod datganiadau sicrwydd y Comisiwn, gan gynnwys y datganiad llywodraethu blynyddol, yn adlewyrchu’r amgylchedd risg ac unrhyw weithgareddau sy’n ofynnol i’w wella.
  1. Gwerthoedd

Ymrwymo i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Pwyllgor Nolan a gwerthoedd y Comisiwn a’r gwerthoedd canlynol mewn swydd gyhoeddus:

  • Bod yn agored ac yn dryloyw
  • Gonestrwydd ac uniondeb
  • Atebolrwydd
  • Anhunanoldeb
  • Gwrthrychedd
  • Arweinyddiaeth
  • Goddefgarwch a pharch
  • Cydraddoldeb a thegwch
  • Gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol
  • Cynaliadwyedd
  1. Sgiliau/Profiad

Meini Prawf Hanfodol:

  • Profiad o reoli risg, rheoli perfformiad a rheolaeth ariannol gyda sgiliau dadansoddol cryf a’r gallu i amlygu materion/goblygiadau allweddol.
  • Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd llwyddiannus yn ogystal â herio ac ennyn hyder ystod eang o randdeiliaid.
  • Dealltwriaeth o’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus a’r gallu i ddefnyddio’ch profiad i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Meini Prawf Dymunol:

  • Profiad fel Cadeirydd neu aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC) yn y sector cyhoeddus neu breifat.

Mae'r penodiad hwn am 3 blynedd. Y tâl yw £198 y diwrnod.

Pwynt Cyswllt:


Shereen Williams, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Hastings House, Fitzalan Place, Caerdydd, CF24 0BL (Ffôn 029 2046 4819, Ffacs 029 2046 4823, E-bost: swyddi@ffiniau.cymru).

Dylid anfon ceisiadau (CV a llythyr eglurhaol sy’n cynnwys sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf) drwy e-bost at swyddi@ffiniau.cymru erbyn 11:59pm 05 Hydref 2023.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 75.78 KB

Amser darllen amcangyfrifedig:

Rhannwch y post hwn: