CFfDLC yn ymateb i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Mae’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru yn nodi gosod Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) heddiw (18 Medi).

Pe bai’r Bil yn cael ei basio, byddai’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru yn mabwysiadu’r cyfrifoldeb i gynnal arolygon cyfnodol o etholaethau Senedd Cymru, yn ogystal â’i gyfrifoldebau presennol sy’n ymwneud â Llywodraeth Leol. Byddai'r mesur yn gweld y Comisiwn yn cael ei ailenwi'n Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Yr arolwg cyntaf i’w gynnal gan y Comisiwn o dan y ddeddfwriaeth arfaethedig fyddai creu 16 o etholaethau’r Senedd drwy baru’r 32 o etholaethau seneddol a argymhellwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.

Byddai’r etholaethau newydd yn dod i rym erbyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

Byddai’r etholaethau hyn yn eu tro yn cael eu diwygio gan arolwg pellach i’w gwblhau mewn pryd ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2030.

Wrth ymateb i osod y bil, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Shereen Williams MBE OStJ DL:

“Mae’r Comisiwn yn croesawu gosod y Bil hwn ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill wrth i ni baratoi i fabwysiadu’r cyfrifoldeb am arolygon ffiniau Senedd Cymru, yn dibynnu ar gymeradwyo’r ddeddfwriaeth.

“Mae’r Comisiwn yn edrych ymlaen at chwarae ei ran i sicrhau bod democratiaeth a sefydliadau Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol, ac yn aros yn eiddgar am y sgwrs genedlaethol a fydd yn dechrau wrth i’r Comisiwn agor ei ymgynghoriadau ar yr arolwg cyntaf o ffiniau’r Senedd.”

  1. Mae datganiad Llywodraeth Cymru ar gael i’w ddarllen yma: Datganiad Ysgrifenedig: Y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (18 Medi 2023) | LLYW.CYMRU

Amser darllen amcangyfrifedig:

4 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: