CFFDLC yn chwilio am Gomisiynwyr

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn chwilio am 3 Comisiynydd a Chadeirydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Gomisiynydd, fe ddarganfyddwch yr holl fanylion angenrheidiol yn y dogfennau a'i hatodir.

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) yn Gorff annibynnol a Noddir gan Lywodraeth Cymru y mae ei ddyletswyddau statudol wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:

  • Sicrhau bod trefniadau etholiadol prif ardaloedd yn addas i'r diben – gan ddatblygu a chyflwyno rhaglen dreigl ddeng mlynedd o adolygiadau etholiadol.
  • Gwneud Gorchmynion mewn perthynas â chynigion gan brif gynghorau ar gyfer newidiadau i ardaloedd cymunedol yn dilyn eu hadolygiadau o ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol.
  • Fel y bo'n briodol, sicrhau bod ffiniau ardaloedd prif gynghorau yn addas i'r diben.
  • Cynnal lefel uchel o lywodraethiant corfforaethol ar gyfer y Comisiwn.

Yn ogystal â'i ddyletswyddau statudol, gall y Comisiwn gynnal adolygiadau neu ddarparu cyngor a gwybodaeth ar gais awdurdodau lleol neu yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.

O ran trefniadau prif ardaloedd, mae'r Comisiwn yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sydd, yn ei farn ef, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Er mwyn gwneud cais i fod yn Gomisiynydd, clicia yma.

Er mwyn gwneud cais i fod yn Gadeirydd, clicia yma.

Dyddiad cau: 16:00, 11 Hydref 2021

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 12.91 MB
  2. Maint ffeil: 12.91 MB

Amser darllen amcangyfrifedig:

Rhannwch y post hwn: