Cadarnhau Diwygio Ffiniau Sir Fynwy

Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDLC

Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Sir Fynwy yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gydag man newidiadau i ambell enw ward yn y Gymraeg yn unig.

Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 8 Mehefin 2021 ac mae’r Gweinidog dros Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau heddiw bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.

Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Sir Fynwy yn gweld cynydd yn ei nifer o gynghorwyr, o 45 (yn sgil yr Arolwg Cymunedol) i 46. Fe fydd yna 1,599 o bleidleiswyr ar gyfer bob aelod o’r cyngor ar gyfartaledd.

Yn ogystal a hyn, mi fydd y nifer o wardiau yn parhau i fod yn 39, gyda 7 ohonynt yn ethol 2 gynghorydd.

Ni fydd unrhyw newid i 31 ward yn sgil y diwygio yma.

Cafodd nifer bach o’r argymhellion yn ymwneud â enw Cymraeg ar gyfer ward eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru.

Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:

“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion gyda man-newidiadau yn unig.

“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Sir Fynwy.

“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Sir Fynwy, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”

Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.

Y rhestr o wardiau Cadwedig:

  • Bulwark a Thornwell
  • Caer-went
  • Castell Caldicot
  • Caldicot Cross
  • Cantref
  • Croesonen
  • Crucornau
  • Devauden
  • Llanddewi
  • Gobion Fawr
  • Goetre Fawr
  • Grofield
  • Lansdown
  • Llanelli
  • Llangybi Fawr
  • Llandeilo Gresynni
  • Dwyrain Magwyr
  • Gorllewin Magwyr
  • Y Maerdy
  • Osbaston
  • Overmonnow
  • Y Park
  • Pen-y-fâl
  • Porth Sgiwed
  • Rhaglan
  • Rogiet
  • Hafren
  • Drenewydd Gelli-farch
  • St Arvans
  • West End
  • Wyesham

Argymhellion ni dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Castell Caldicot a’r enw Saesneg Caldicot Castle. Bydd yr enw Cymraeg Castell Cil-y-coed a’r enw Saesneg Caldicot Castle yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw unigol Caldicot Cross. Bydd yr enw Cymraeg Croes Cil-y-coed a’r enw Saesneg Caldicot Cross yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Porth Sgiwed a’r enw Saesneg Portskewett. Bydd yr enw Cymraeg Porthsgiwed a’r enw Saesneg Portskewett yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw unigol St Arvans. Bydd yr enw Cymraeg Llanarfan a’r enw Saesneg St Arvans yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw ward etholiadol unigol St Kingsmark. Bydd yr enw Cymraeg Llangynfarch a’r enw Saesneg St Kingsmark yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.

Mae’r adroddiad yr Argymhellion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Sir Fynwy i'w weld yma, ynghyd â mapiau o bob ward arfaethedig.

Mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r penderfyniad i'w weld yma.

Amser darllen amcangyfrifedig:

5 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: