Cadarnhau Diwygio Ffiniau Sir Ddinbych
Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDLC.
Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Sir Ddinbych yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gyda man newidiadau i enwau ambell ward yn y Gymraeg yn unig.
Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 19 June 2019 ac mae’r gweinidog dros cyllid a llywodraeth leol wedi cadarnhau heddiw bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.
Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Sir Ddinbych yn gweld cynydd yn ei nifer o gynghorwyr, o 47 i 48. Fe fydd yna 1,589 o bleidleiswyr ar gyfer bob aelod o’r cyngor ar gyfartaledd.
Search hynny, mi fydd y nifer o wardiau on gostwng o 30 i 29, gyda 16 ohonynt yn ethol mwy nag un cynghorydd.
Mi fydd 13 ward yn ethol 2 gynghorydd tra bod 3 ward yn ethol 3 cynghorydd.
Ni fydd unrhyw newid i 23 ward yn sgil y diwygio yma.
Cafodd ychydig o’r argymhellion yn ymwneud â enwau Cymraeg ar gyfer ambell ward eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru.
Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:
“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion gyda man-newidiadau yn unig.
“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Sir Ddinbych.
“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Sir Ddinbych, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”
Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.
Y rhestr o wardiau Cadwedig:
- Bodelwyddan
- Dinbych Isaf
- Dyserth
- Efenechtyd
- Llandyrnog
- Llanfair Dyffryn Clwyd Gwyddelwern
- Llangollen
- Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch
- Canol Prestatyn
- Dwyrain Prestatyn
- Prestatyn Gallt Melyd
- Gogledd Prestatyn
- De Orllewin Prestatyn
- Rhuddlan
- Dwyrain Y Rhyl
- De Y Rhyl
- De Orllewin Y Rhyl
- Gorllewin Y Rhyl
- Rhuthun
- Dwyrain Llanelwy
- Gorllewin Llanelwy
- Trefnant
- Tremeirchion
Argymhellion ni dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw Efenechtyd. Bydd yr enw unigol Efenechdyd yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Prestatyn Gallt Melyd. Bydd yr enw Cymraeg Prestatyn Alltmelyd yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg De Orllewin Prestatyn. Bydd yr enw Cymraeg De-orllewin Prestatyn yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Dwyrain Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg Dwyrain y Rhyl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg De Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg De’r Rhyl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg De Orllewin Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg De-orllewin y Rhyl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Gorllewin Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg Gorllewin y Rhyl yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Trellewelyn Y Rhyl. Bydd yr enw Cymraeg Y Rhyl Trellewelyn yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynhaliwyd yr arolwg gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn ôl Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
- Nid oes cysylltiad rhwng yr arolwg yma a’r Arolwg 2023 a ddechreuwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
- Mae’r adroddiad yr Argymhellion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Sir Ddinbych i'w weld yma, ynghyd â mapiau o bob ward arfaethedig: https://cffdl.llyw.cymru/adolygiadau/06-19/argymhellion-terfynol-ar-gyfer-sir-ddinbych
- Mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r penderfyniad i'w weld yma: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-adolygiad-o-ffiniau-etholiadol-awdurdodau-lleol-yr-wybodaeth-ddiweddaraf-4