Cadarnhau Diwygio Ffiniau Sir Benfro

Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDLC.

Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Sir Benfro yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gyda man newidiadau i enwau ambell ward yn y Gymraeg yn unig.

Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 11 Gorffennaf 2019 ac mae’r gweinidog dros cyllid a llywodraeth leol wedi cadarnhau bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.

Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Sir Benfro yn cadw 60 o gynghorwyr. Fe fydd yna 1,574 o bleidleiswyr ar gyfer bob aelod o’r cyngor ar gyfartaledd.

Search hynny, mi fydd y nifer o wardiau on gostwng o 60 i 59, gyda 1 ohonynt yn ethol 2 cynghorydd.

Ni fydd unrhyw newid i 29 ward yn sgil y diwygio yma.

Cafodd ychydig o’r argymhellion yn ymwneud â enwau Cymraeg ar gyfer ambell ward eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru.

Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:

“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion gyda man-newidiadau yn unig.

“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Sir Benfro.

“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Sir Benfro, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”

Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.

Y rhestr o wardiau Cadwedig:

  • Burton
  • Abergwaun: Gogledd Ddwyrain
  • Abergwaun: Gogledd Orllewin
  • Wdig
  • Hwlffordd: Y Castell
  • Hwlffordd: Garth
  • Hwlffordd: Portfield
  • Hwlffordd: Prendergast
  • Hwlffordd: Priordy
  • Hundleton
  • Cilgeti/Begeli
  • Llanbedr Felffre
  • Llandyfái
  • Treletert
  • Llangwm
  • Martletwy
  • Pont Fadlen
  • Aberdaugleddau: Gorllewin
  • Arberth
  • Arberth Wledig
  • Neyland: Dwyrain
  • Neyland: Gorllewin
  • Penfro: Gogledd St. Mary
  • Doc Penfro: Farchnad
  • Solfach
  • Tyddewi
  • Llandudoch
  • Dinbych-y-Pysgod: Gogledd
  • Dinbych-y-Pysgod: De

Argymhellion ni dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Milford West yr enw Cymraeg Aberdaugleddau: Gorllewin. Bydd yr enw Cymraeg Gorllewin Aberdaugleddau yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Milford East yr enw Cymraeg Aberdaugleddau: Dwyrain. Bydd yr enw Cymraeg Dwyrain Aberdaugleddau yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Milford: North yr enw Cymraeg Aberdaugleddau: Gogledd. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd Aberdaugleddau yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Milford: Central yr enw Cymraeg Aberdaugleddau: Canol. Bydd yr enw Cymraeg Canol Aberdaugleddau yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Narberth: Rural yr enw Cymraeg Arberth: Gwledig. Bydd yr enw Cymraeg Arberth Wledig yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Narberth: Urban yr enw Cymraeg Arberth: Trefol. Bydd yr enw Cymraeg Arberth Drefol yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw etholiadol unigol The Havens. Bydd yr enw Cymraeg Yr Aberoedd yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg St Ishmael yr enw Cymraeg Llanisan yn Rhos. Bydd yr enw Cymraeg Llanisan-yn-Rhos yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Pembroke Dock: Central yr enw Cymraeg Doc Penfro: Canol. Bydd yr enw Cymraeg Canol Doc Penfro yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Pembroke Dock: Market yr enw Cymraeg Doc Penfro: Farchnad. Bydd yr enw Cymraeg Doc Penfro: Y Farchnad yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Haverfordwest: Castle yr enw Cymraeg Hwlffordd: Castell. Bydd yr enw Cymraeg Hwlffordd: Y Castell yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Haverfordwest: Priory yr enw Cymraeg Hwlffordd: Priordy. Bydd yr enw Cymraeg Hwlffordd: Y Priordy yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Lampeter Velfrey yr enw Cymraeg Llanbedr Efelffre. Bydd yr enw Cymraeg Llanbedr Felffre yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Neyland: East yr enw Cymraeg Neyland: Dwyrain. Bydd yr enw Cymraeg Dwyrain Neyland yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Neyland: West yr enw Cymraeg Neyland: Gorllewin. Bydd yr enw Cymraeg Gorllewin Neyland yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Tenby: North yr enw Cymraeg Dinbych-y-Pysgod: Gogledd. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd Dinbych-y-pysgod yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Tenby South yr enw Cymraeg Dinbych-y-Pysgod: De. Bydd yr enw Cymraeg De Dinbych-y- pysgod yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Fishguard North East yr enw Cymraeg Abergwaun: Gogledd Ddwyrain. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd-ddwyrain Abergwaun yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Fishguard: North West yr enw Cymraeg Abergwaun: Gogledd Orllewin. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd-orllewin Abergwaun yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  1. Cynhaliwyd yr arolwg gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn ôl Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
  2. Nid oes cysylltiad rhwng yr arolwg yma a’r Arolwg 2023 a ddechreuwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
  3. Mae’r adroddiad yr Argymhellion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Sir Benfro i'w weld yma, ynghyd â mapiau o bob ward arfaethedig: https://cffdl.llyw.cymru/adolygiadau/07-19/argymhellion-terfynol-ar-gyfer-sir-benfro
  4. Mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r penderfyniad i'w weld yma: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-adolygiad-o-ffiniau-etholiadol-awdurdodau-lleol-yr-wybodaeth-ddiweddaraf-4

Amser darllen amcangyfrifedig:

7 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: