Cadarnhau Diwygio Ffiniau Gwynedd
Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDLC
Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Gwynedd yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gydag un man newid i 2 enw ward yn y Gymraeg yn unig.
Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 6 Tachwedd 2018 ac mae’r Gweinidog dros Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau heddiw bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.
Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Gwynedd yn gweld gostyngiad yn ei nifer o gynghorwyr, o 75 i 69. Fe fydd yna 1,208 o bleidleiswyr ar gyfer bob aelod o’r cyngor ar gyfartaledd.
Yn ogystal a hyn, mi fydd y nifer o wardiau yn gostwng o 71 i 65, gyda 4 ohonynt yn ethol 2 gynghorydd.
Ni fydd unrhyw newid i 27 ward yn sgil y diwygio yma.
Cafodd 2 o’r argymhellion yn ymwneud â enw Cymraeg ar gyfer ward eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru.
Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:
“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion gyda man-newidiadau yn unig.
“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Gwynedd.
“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Gwynedd, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”
Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.
Y rhestr o wardiau Cadwedig:
- Aberdyfi
- Dolbenmaen
- Nefyn
- Abererch
- Dyffryn Ardudwy
- Penygroes
- Abermaw
- Efail-newydd/Buan
- Dwyrain Porthmadog
- Bala
- Glyder
- Gorllewin Porthmadog
- Bowydd a Rhiw
- Groeslon
- Gogledd Pwllheli
- Brithdir a Llanfachreth/Ganllwyd/Llanelltyd
- Llanaelhaearn
- De Pwllheli
- Corris/Mawddwy
- Llanberis
- Trawsfynydd
- Criccieth
- Llanrug
- Tregarth a Mynydd Llandygái
- Deiniolen
- Llanystumdwy
- Dewi
Argymhellion ni dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Argymhellodd y Comisiwn yr enw sengl Brithdir, Llanfachreth, Y Ganllwyd a Llanelltyd. Rhoddir yr enw Saesneg Brithdir a Llanfachreth / Ganllwyd / Llanelltyd i'r ward etholiadol ac enw Cymraeg Brithdir a Llanfachreth / Y Ganllwyd / Llanelltud. Mae hyn yn golygu bod enwau'r wardiau etholiadol yn aros fel ar hyn o bryd.
- Argymhellodd y Comisiwn yr enw ward sengl Cwm-y-Glo. Rhoddir yr enw Saesneg Cwm-y-Glo i'r ward etholiadol a'r enw Cymraeg Cwm-y-glo. Mae hyn yn golygu bod enwau'r wardiau etholiadol yn aros fel ar hyn o bryd.
Mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r penderfyniad i'w weld yma.