Cadarnhau Diwygio Ffiniau Conwy

Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDLC

Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Conwy yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gyda man newidiadau i enwau ambell ward yn y Gymraeg yn unig.

Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 23 Mai 2019 ac mae’r Gweinidog dros Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau heddiw bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.

Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Conwy yn gweld gostyngiad yn ei nifer o gynghorwyr, o 59 i 55. Fe fydd yna 1,625 o bleidleiswyr ar gyfer bob aelod o’r cyngor ar gyfartaledd.

Yn ogystal a hyn, mi fydd y nifer o wardiau on gostwng o 38 i 30, gyda 17 ohonynt yn ethol mwy nag un cynghorydd.

Mi fydd 10 ward yn ethol 2 gynghorydd, 6 ward yn ethol 3 cynghorydd, ac 1 ward yn ethol 4 cynghorydd.

Ni fydd unrhyw newid i 18 ward yn sgil y diwygio yma.

Cafodd ychydig o’r argymhellion yn ymwneud â enwau Cymraeg ar gyfer ambell ward eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru.

Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:

“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion gyda man-newidiadau yn unig.

“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Conwy.

“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Conwy, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”

Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.

Y rhestr o wardiau Cadwedig:

  • Betws yn Rhos
  • Bryn
  • Colwyn
  • Conwy
  • Craig-y-Don
  • Deganwy
  • Eirias
  • Glyn
  • Bae Cinmel
  • Llansanffraid
  • Llansannan
  • Llysfaen
  • Mochdre
  • Pandy
  • Penrhyn
  • Tywyn
  • Tudno
  • Uwch Conwy

Argymhellion ni dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Conwy Central yr enw Cymraeg Canol Pen-y-bont. Bydd yr enw Cymraeg Canol Conwy yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Cefn Glas yr enw unigol Cefn Glas. Bydd yr enw unigol Cefn-glas yn cael ei roi i'r ward etholiadol

Mae’r adroddiad yr Argymhellion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Conwy i'w weld yma, ynghyd â mapiau o bob ward arfaethedig.

Mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r penderfyniad i'w weld yma.

Amser darllen amcangyfrifedig:

4 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: