Cadarnhau Diwygio Ffiniau Casnewydd
Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDLC
Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Casnewydd yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gydag un man newid i enw ward yn y Gymraeg yn unig.
Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 14 Awst 2020 ac mae’r Gweinidog dros Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau heddiw bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.
Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Casnewydd yn gweld cynydd yn ei nifer o gynghorwyr, o 50 i 51. Fe fydd yna 2,146 o bleidleiswyr ar gyfer bob aelod o’r cyngor ar gyfartaledd.
Yn ogystal a hyn, mi fydd y nifer o wardiau on cynyddu o 20 i 21, gydag 18 ohonynt yn ethol mwy nag un cynghorydd.
Mi fydd 7 ward yn ethol 2 gynghorydd, 10 ward yn ethol 3 cynghorydd, ac 1 ward yn ethol 4 cynghorydd.
Ni fydd unrhyw newid i 11 ward yn sgil y diwygio yma.
Cafodd un o’r argymhellion yn ymwneud â enw Cymraeg ar gyfer ward eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru.
Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:
“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion gyda man-newidiadau yn unig.
“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Casnewydd.
“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Casnewydd, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”
Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.
Y rhestr o wardiau Cadwedig:
- Allt-yr-ynn
- Alway
- Beechwood
- Betws
- Caerllion
- Y Gaer
- Malpas
- Ringland
- Shaftesbury
- Sain Silian
- Victoria
Argymhellion ni dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r penderfyniad i'w weld yma.