Swydd Wag: Comisiynydd (x2)

Job Vacancy


Mae’r Comisiwn yn bwriadu penodi 2 Gomisiynydd wrth i ni wneud ein baratoadau terfynol ar gyfer Arolwg 2026 o etholaethau’r Senedd.

Mae gwybodaeth am y rolau ar gael isod. Gallwch wneud cais am un o'r rolau sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (a elwid gynt yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru)

Penodi Aelodau

Dyddiad cau: 29 Gorffennaf 2024

Gwneud cais

Diolch ichi am eich diddordeb yn swydd Aelod o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Mae'r atodiadau sydd ynghlwm yn rhoi manylion rôl yr Aelod a manyleb y person, rôl a chyfrifoldebau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a'r broses ddethol.

I wneud cais, ewch i dudalen swyddi gwag Llywodraeth Cymru.

https://cais.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-4/brand-7/xf- 3429277df081/candidate/jobboard/vacancy/6/adv/

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar y swydd wag ac yna clicio ar y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf y gwnewch chi gais am swydd, bydd angen ichi gofrestru ar system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y bydd angen ichi gofrestru. Gallwch wedyn gadw golwg ar hynt eich cais presennol, ac unrhyw geisiadau yn y dyfodol, drwy eich cyfrif cofrestredig ar-lein.

https://cais.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-4/brand-7/xf- 509f77e961d6/candidate/register

Ar ôl cofrestru, bydd modd ichi weld y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV gyda'ch ffurflen gais ar-lein.

Datganiad Personol

Y datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut yr ydych yn bodloni pob un o’r meini prawf a nodir ym manyleb y person. Eich dewis chi yw sut i gyflwyno'r wybodaeth. Serch hynny, dylech geisio darparu enghreifftiau manwl sy’n dangos sut mae’ch gwybodaeth a’ch profiad yn bodloni pob maen prawf, a'ch rôl chi wrth gyflawni canlyniad penodol.

Bydd o fudd i'r panel dethol os gallwch nodi'n glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i'r meini prawf. Mae'n arferol neilltuo paragraffau ar wahân ar gyfer pob maen prawf.

Ni ddylai'ch datganiad personol fod yn fwy na dwy dudalen. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwnnw.

Rydym yn recriwtio ar gyfer dwy swydd – mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un ohonynt ac yn ddymunol ar gyfer y llall. Cadarnhewch yn eich datganiad personol pa rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi.

CV

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion bras eich swydd bresennol neu'ch swydd ddiweddaraf, a'ch dyddiadau yn y rôl hon. Nodwch unrhyw benodiadau Gweinidogol blaenorol neu bresennol.

Amserlen fras

Dyddiad cau 16:00, 29 Gorffennaf 2024

Llunio rhestr fer yr wythnos yn dechrau 5 Awst 2024 Cyfweliadau yr wythnos yn dechrau 2 Medi 2024

Datganiad ar Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai aelodau byrddau cyrff cyhoeddus adlewyrchu cymdeithas Cymru – pobl o bob cefndir – er mwyn helpu’r byrddau i ddeall anghenion pobl ac i wneud penderfyniadau gwell. Dyma pam mae Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais.

Croesewir ceisiadau'n arbennig gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys

  • Menywod
  • Pobl o dan 30 oed
  • Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • Pobl anabl
  • Aelodau o'r gymuned LHDTCRh+

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gallu anablu pobl sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pob aelod o staff berfformio ar ei orau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd, sef “amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os yw ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae 'bodloni’r meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn gyffredinol yn

bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y rôl a’ch bod yn meddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai 'hanfodol'.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa. Os hoffech gael cyfweliad gwarantedig, rhowch wybod i Leighton Jones drwy e-bost yn (leighton.jones@llyw.cymru) neu dros y ffôn (0300 025 3038).

Os oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio, cysylltwch â Leighton Jones cyn gynted â phosibl i drafod eich gofynion ac unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cysylltiadau

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael gwybodaeth am Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, efallai yr hoffech edrych ar wefan y Comisiwn: Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru neu gysylltu â Phrif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams.

Rhif ffôn: 02921 052501

e-bost: shereen.williams@ffiniau.cymru.

Os oes arnoch angen rhagor o gymorth i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Atodiad A

Penodi Aelod o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (a elwid gynt yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru)

Disgrifiad o'r Rôl – beth y byddwch yn ei wneud

Mae'n bwysig nodi y bydd comisiynwyr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru yn gweithio ar draws ystod lawn swyddogaethau'r corff, ond y bydd pob un yn canolbwyntio’n benodol ar faes swyddogaethol. Yn achos yr ymarfer recriwtio hwn, y cyfrifoldeb swyddogaethol yw cydgysylltu’r broses o gynnal etholiadau datganoledig yng Nghymru, drwy ddarparu cyngor ac arweiniad i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Mae'r gweithgareddau penodol wedi’u nodi isod mewn teip trwm wedi’i danlinellu.

Swyddogaethau Strategol

Bydd yr aelodau yn:

  • Goruchwylio'r gwaith o gyflawni Adolygiadau Ffiniau Etholiadol Llywodraeth Leol, gan gynnwys un Aelod yn ysgwyddo rôl Comisiynydd Arweiniol ar gyfer pob adolygiad.
  • Goruchwylio'r gwaith o gyflawni Adolygiadau Ffiniau'r Senedd.
  • Pennu lefel y taliadau i aelodau etholedig a chyfetholedig Cynghorau Unedol, Cynghorau Tref a Chymuned, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.
  • Cydgysylltu'r broses o gynnal etholiadau datganoledig yng Nghymru, drwy ddarparu cyngor a chanllawiau i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol (fel rhan o’r Bwrdd Rheoli Etholiadol).

Presenoldeb a chyfranogiad yn y Bwrdd

  • Cadeirio a/neu gymryd rhan mewn is-bwyllgorau sy'n cyfrannu at gyflawni rhaglenni gwaith drwy'r is-bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio (Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn a dau Gomisiynydd), yr is-bwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol (o leiaf bedwar Comisiynydd) neu’r is-bwyllgor Adolygiadau Etholiadol (o leiaf bedwar Comisiynydd).
  • Cadeirio a/neu gymryd rhan yn y Bwrdd Rheoli Etholiadol (dau Gomisiynydd: un yn Gadeirydd, un yn Aelod o'r Bwrdd).

Rheoli Rhanddeiliaid

  • Sicrhau perthynas gref ac effeithiol â rhanddeiliaid allweddol.
  • Rolau Comisiynydd Arweiniol – Cymryd cyfrifoldeb dros ymgysylltu a chyfathrebu ag arweinwyr cynghorau, swyddogion a rhanddeiliaid allweddol eraill ar draws llywodraeth leol.· Rolau'r Bwrdd Rheoli Etholiadol – Sicrhau perthynas effeithiol gref â staff gweinyddu etholiadol, swyddogion canlyniadau a rhanddeiliaid ehangach megis y Comisiwn Etholiadol.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu

  • Sicrhau ymgynghori ac ymgysylltu effeithiol ar gynigion yn unol â strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu'r Comisiwn, gan sicrhau bod adborth yn cael ei ddefnyddio i gefnogi dysgu a gwella parhaus.
  • Sicrhau bod ymgynghori'n cydymffurfio'n llawn â’r fframwaith deddfwriaethol statudol ac yn cael ei ddefnyddio i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer pob adolygiad etholiadol a phenderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol.
  • Sicrhau bod penderfyniadau'r Comisiwn yn cael eu cyfleu'n glir a bod yr holl gyfathrebu'n hygyrch.
  • Dadansoddi gwybodaeth / defnyddio ymchwil a thystiolaeth i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol
  • Dadansoddi a dehongli gwybodaeth a gwneud defnydd effeithiol o dystiolaeth i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau panel ar opsiynau a chydnabyddiaeth ariannol Adolygu Ffiniau Etholiadol Llywodraeth Leol a'r Senedd.
  • Nodi tueddiadau ar draws pob agwedd ar raglenni'r Comisiwn i lywio cynllun ymchwil a thystiolaeth sy'n sicrhau bod y Comisiwn yn cyfrannu at iechyd democrataidd y genedl.
  • Defnyddio tystiolaeth ac ymchwil wrth ddarparu cyngor i Lywodraeth Cymru ar gyflwr iechyd democrataidd yng Nghymru.
  • Defnyddio ymchwil a thystiolaeth i gefnogi penderfyniadau effeithiol gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol.

Datblygu Polisi

  • Datblygu polisi, ymarfer a methodoleg gadarn i gefnogi gwneud penderfyniadau.
  • Darparu canllawiau a chyngor i randdeiliaid allweddol ar gynnal etholiadau datganoledig yng Nghymru yn effeithiol, polisi a phenderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol, ac adolygiadau etholiadol.
  • Trwy ddysgu ar y cyd, datblygu a gweithredu canllawiau ar gyfer cyflawni etholiadau ledled Cymru yn effeithiol.

Fframwaith Deddfwriaethol

  • Deall y fframwaith deddfwriaethol sy'n effeithio ar benderfyniadau a gwaith y Comisiwn.
  • Sicrhau bod y Comisiwn yn gweithio o fewn y fframwaith deddfwriaethol.
  • Sganio'r gorwel ar gyfer newidiadau i ddeddfwriaeth yn y dyfodol sy'n debygol o effeithio ar swyddogaethau'r Comisiwn.

Llywodraethiant Corfforaethol

  • Sicrhau bod y sefydliad yn addas i'r diben gyda threfniadau llywodraethiant corfforaethol effeithiol ar waith mewn perthynas â rheolaeth ariannol a risg a datblygu sefydliadol.
  • Sicrhau bod cynlluniau a pholisïau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd.
  • Darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i'r sefydliad a chefnogi'r Prif Weithredwr a'r uwch dîm arwain i gyflawni amcanion corfforaethol ac ysgogi diwylliant o welliant parhaus.
  • Sicrhau bod canlyniadau yn cael eu cyflawni yn erbyn strategaeth a chynllun sefydliadol y Comisiwn, bod amcanion Llywodraeth Cymru'n cael eu cyflawni a bod Llythyr Cylch Gwaith y Gweinidog yn cael ei gyflawni.

Rheoli Perfformiad a Sicrhau Ansawdd

  • Goruchwylio'r broses sicrhau ansawdd ar gyfer cynhyrchu adroddiadau drafft a therfynol.
  • Sicrhau bod perfformiad y Comisiwn yn cael ei fonitro'n effeithiol.

Manyleb y Person - Am bwy yr ydym yn chwilio

Mae'r sgiliau a'r profiadau rydym yn chwilio amdanynt wedi'u nodi isod. Wrth gyflwyno eich datganiad personol dylech ddangos sut y gallai eich sgiliau a'ch profiadau gael eu defnyddio yn y rôl hon.

Manyleb hanfodol

Dylai ymgeiswyr allu dangos y canlynol: -

Cyd-destun Cymreig

  • Dealltwriaeth o sut y mae llywodraeth leol yn gweithredu yng Nghymru a phwysigrwydd iechyd democrataidd.

Cyfathrebu

Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig ag unigolion ar bob lefel o'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig ac uwch arweinwyr.

  • Y gallu i arfer barn annibynnol – gwneud penderfyniadau ac esbonio sut y maent wedi cael eu gwneud.

Sgiliau dadansoddi a dehongli

Y gallu i werthuso ystod eang o wybodaeth, gan gynnwys data daearyddol a dod i gasgliad rhesymegol.

Profiad o ddefnyddio ymchwil a dadansoddi i gefnogi penderfyniadau effeithiol

  • Y gallu i asesu opsiynau, nodi a llunio atebion gan ddefnyddio dull trefnus a dadansoddol.


Fframwaith deddfwriaethol

  • Dealltwriaeth o'r fframwaith deddfwriaethol y mae'r Comisiwn yn gweithredu o'i fewn er mwyn sicrhau y caiff penderfyniadau cadarn ac effeithiol eu gwneud.

Didueddrwydd

Y gallu i aros yn ddiduedd ac yn wrthrychol wrth gynnig cyngor a sylwadau adeiladol.

  • Hanes blaenorol cryf o gyflawni canlyniadau gyda'r gallu i fyfyrio ar brofiadau bywyd eu hunain a dysgu ohonynt

Amhleidioldeb gwleidyddol

  • Y gallu i weithio ar sail amhleidioldeb gwleidyddol llym.
  • Deall egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan ac ymrwymo iddynt

Llywodraethiant Corfforaethol

Dealltwriaeth o bwysigrwydd llywodraethiant corfforaethol ac ariannol effeithiol

Gwybodaeth, sgiliau neu brofiad mewn rheoli ariannol, cyfrifyddu, rheoli risg archwilio a strwythurau atebolrwydd

Etholiadau

Manyleb Ddymunol

Profiad o gydgysylltu neu gynnal etholiadau llywodraeth leol, etholiadau’r Senedd, etholiadau seneddol neu etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Profiad dadansoddi

  • Profiad o weithio gyda data gofodol, daearyddol neu rifiadol i gefnogi gwneud penderfyniadau

Ymchwil

  • Profiad o gomisiynu a dadansoddi ymchwil

Y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un swydd ac yn ddymunol ar gyfer un swydd, ond nid ydynt yn rhagofyniad ar gyfer penodi. Er hynny, disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi tuag at yr iaith.

Hanfodol

Deall - Yn gallu deall pob sgwrs sy’n ymwneud â'r gwaith

Darllen - Yn deall yn llawn pob deunydd sy’n ymwneud â’r gwaith Siarad - Rhugl

Ysgrifennu - Yn gallu paratoi deunydd ysgrifenedig am bopeth sy’n ymwneud â'r gwaith

Dymunol

Deall - yn gallu deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd

Darllen - Yn gallu darllen deunydd syml am bynciau pob dydd a'u deall Siarad - Yn gallu cynnal sgyrsiau syml yn ymwneud â'r gwaith Ysgrifennu - Yn gallu ysgrifennu gohebiaeth syml yn ymwneud â'r gwaith

Ffeithiau allweddol am y swydd

Lleoliad: Caerdydd neu'n rhithwir drwy MS Teams Ymrwymiad Amser: O leiaf 1-2 diwrnod y mis

Hyd y penodiad: 4 blynedd a 6 mis, hyd at 31 Mawrth 2029.

Cydnabyddiaeth ariannol: £282 y diwrnod llawn, £141 yr hanner diwrnod

Pwy sy'n gymwys

Nid oes unrhyw unigolyn sy'n dal un neu ragor o'r swyddi isod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon, oherwydd Adran 4(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 sy'n datgan na chaiff Gweinidogion Cymru benodi unigolyn sydd ag unrhyw un o'r swyddi hyn:

Ni chaiff aelod fod -

  • yn aelod Seneddol; yn aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;
  • yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
  • yn berson a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
  • yn berson a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
  • yn gynghorydd arbennig;
  • yn aelod neu aelod o staff awdurdod lleol;
  • yn aelod neu aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
  • yn aelod neu aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
  • yn aelod neu aelod o staff awdurdod tân ac achub a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y 15 Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
  • yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
  • yn aelod o staff y Comisiwn.

(mae’r rhai mewn lliw du wedi'u heithrio ar hyn o bryd, mae’r rhai mewn lliw coch yn ddiwygiadau/ychwanegiadau gan Fil Senedd Cymru (Aelod ac Etholiadau), mae'r rhai mewn lliw gwyrdd yn ddiwygiadau/ychwanegiadau gan y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

Dylai ymgeiswyr nodi hefyd y bydd bod yn aelod o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn golygu na fyddant yn gymwys i fod yn aelod o Senedd Cymru o dan Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020.

Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 (legislation.gov.uk)

Gwrthdaro Buddiannau

Gofynnir ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai wrthdaro, neu y gellid dehongli eu bod yn gwrthdaro â'r rôl a'r cyfrifoldebau fel Aelod o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a swyddi o awdurdod y tu allan i'r rôl yng Nghomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Trafodir unrhyw wrthdaro buddiannau yn y cyfweliad. Os cewch eich penodi, bydd yn ofynnol ichi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.

Diwydrwydd Dyladwy

Bydd Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliadau diwydrwydd dyladwy ar bob ymgeisydd sy'n cael ei ddewis i gyfweliad. Bydd y gwiriadau hynny'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, chwiliadau ar y cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd. O ganlyniad, gallem ofyn cwestiynau ichi yn y cyfweliad mewn perthynas ag unrhyw ganfyddiadau diwydrwydd dyladwy.

Safonau mewn bywyd cyhoeddus

Bydd disgwyl ichi ddangos safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd yn ofynnol i'r holl ymgeiswyr llwyddiannus gydymffurfio â Chod Ymddygiad Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus. Mae'r ddogfen honno i'w gweld yma:

Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus (gov.uk)

Ni chaiff gweision sifil gamddefnyddio eu safle swyddogol na gwybodaeth y maent yn ei chael drwy eu dyletswyddau swyddogol er mwyn eu buddiannau preifat neu fuddiannau preifat pobl eraill. Gall gwrthdaro buddiannau godi o fuddiannau ariannol, ac yn fwy eang o ymwneud swyddogol ag unigolion sy'n rhannu buddiannau preifat gwas sifil (e.e. seiri rhyddion, aelodaeth o gymdeithasau, clybiau, sefydliadau a theulu), neu benderfyniadau ynglŷn â'r unigolion hynny.

Pan fo gwrthdaro buddiannau yn codi, rhaid i weision sifil ddatgan eu buddiant i uwch-reolwyr, er mwyn iddyn nhw benderfynu ar y ffordd orau o fwrw ymlaen.

Atodiad B

Rôl a chyfrifoldebau'r Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (a elwid gynt yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru yn gorff annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae ei ddyletswyddau statudol wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (legislation.gov.uk)

Bydd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sy'n cwblhau eu taith drwy'r Senedd ar hyn o bryd, yn ehangu swyddogaethau'r Comisiwn. Bydd yr ystod o ddyletswyddau, yn amodol ar basio'r ddeddfwriaeth yn llwyddiannus, yn cynnwys:

  • Sicrhau bod ffiniau'r Senedd yn addas i'r diben, gan gynnwys yr adolygiad rheolaidd o drefniadau etholiadol.
  • Sicrhau bod trefniadau etholiadol prif ardaloedd yn addas i'r diben – datblygu a chyflwyno rhaglen dreigl 12 mlynedd o adolygiadau etholiadol.
  • Gwneud Gorchmynion mewn perthynas â chynigion gan brif gynghorau ar gyfer newidiadau i ardaloedd cymunedol yn dilyn eu hadolygiadau o ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol.
  • Fel y bo'n briodol, sicrhau bod ffiniau ardaloedd y prif gynghorau yn addas i'r diben.

Creu a chynnal Bwrdd Rheoli Etholiadol ar gyfer etholiadau datganoledig.

  • Cyfrifoldeb am benderfynu ar y fframwaith cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau prif gynghorau, cynghorwyr tref a chymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a chyd-bwyllgorau corfforedig ledled Cymru.
  • Cynnal lefel uchel o lywodraethiant corfforaethol i'r Comisiwn.

Yn ogystal â'i ddyletswyddau statudol, gall y Comisiwn gynnal adolygiadau neu ddarparu cyngor a gwybodaeth ar gais yr awdurdodau lleol neu fel y cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

O ran trefniadau prif ardaloedd, mae'r Comisiwn yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sydd yn ei farn ef budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Bydd yr aelodau yn cydgysylltu'r broses o gynnal etholiadau datganoledig yng Nghymru, drwy ddarparu cyngor a chanllawiau i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol (fel rhan o'r Bwrdd Rheoli Etholiadol).

Bydd yr aelodau hefyd yn cyfrannu at y set ehangach o swyddogaethau, sy'n cynnwys cyflawni Adolygiadau Ffiniau Etholiadol Llywodraeth Leol ac Adolygiadau Ffiniau'r Senedd, yn ogystal â phennu lefel y taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig o Gynghorau Unedol, Cynghorau Tref a Chymuned, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Cynhelir cyfarfodydd y Comisiwn yn fisol. Fel arfer, mae'r rôl yn golygu un i ddau ddiwrnod y mis ond gallai fod rhwng tri a phedwar diwrnod y mis yn ystod y rhaglen adolygu. Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ogystal â thrwy fideogynadledda.

Caiff Gweinidogion Cymru benodi hyd at naw aelod i'r Comisiwn, sy'n cynnwys Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a hyd at saith aelod arall. Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yw tri.

Darperir ysgrifenyddiaeth y Comisiwn gan brif weithredwr ac 17 o aelodau staff. Mae'r strwythur staffio yn newid yn unol â rhaglenni gwaith y Comisiwn.

Mae'r Comisiwn yn cynnal cyfarfodydd hybrid a gall aelodau ddewis dod iddynt yn bersonol yn swyddfa'r Comisiwn yn Nhŷ Hastings, Caerdydd (bydd hynny’n newid i Barc Cathays, Caerdydd yn ystod y misoedd nesaf) neu gall aelodau ymuno’n rhithwir drwy MS Teams. Mae pob Comisiynydd yn cael offer TGCh a chymorth i'w galluogi i fynychu cyfarfodydd. Oherwydd natur gwaith y Comisiwn, efallai y bydd angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Cymru ar adegau.

Bydd swydd yr aelodau yn cael ei thalu ar gyfradd o £282 y diwrnod llawn, £141 yr hanner diwrnod.

Mae aelodau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn cael eu hystyried yn ddeiliaid swydd at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. Mae'r ffioedd a delir yn drethadwy o dan Atodlen E o'r Ddeddf Drethi, ac yn destun cyfraniadau Dosbarth 1 Yswiriant Gwladol ac fe'u telir drwy gyflogres y Comisiwn. Nid oes rhaid talu TAW ar y ffioedd.

Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill sy'n codi wrth wneud gwaith ar ran y Comisiwn yn unol â chyfraddau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n bosibl hefyd y bydd Aelodau yn gymwys i hawlio ad-daliadau am gostau sy’n gysylltiedig â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, wrth gyflawni gwaith ar ran y Comisiwn.

Gwneir pob ymdrech i ddarparu pa gymorth rhesymol bynnag sydd ei angen ar aelodau sydd ag anabledd er mwyn eu helpu i gyflawni eu dyletswyddau.

Bydd y Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn darparu sesiynau sefydlu ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Dyddiad dechrau

I'w gadarnhau

Y broses ddethol

Atodiad C


Bydd y panel cyf-weld yn asesu CV a datganiad personol ymgeiswyr i benderfynu pwy sy'n bodloni orau'r meini prawf ar gyfer y rôl, a phwy fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd y panel yn dibynnu ar y wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich CV a'r datganiad i asesu a ydych yn meddu ar y sgiliau a'r profiad gofynnol.

Sicrhewch eich bod yn darparu tystiolaeth i ddangos sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol.

Bydd y panel dethol yn cael ei gadeirio gan Michael Kay, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is- adran Etholiadau, Llywodraeth Cymru a bydd hefyd yn cynnwys Beverley Smith, Cadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Bydd yr Aelod Annibynnol o’r Panel yn cael ei gadarnhau.

Gan ddibynnu ar nifer y ceisiadau a ddaw i law, efallai y bydd eich cais yn cael ei roi ar restr hir cyn cael ei roi i'r panel dethol i'w ystyried. Sylwch ei bod yn bosibl na fydd eich cais yn cael ei ystyried yn llawn gan y panel cyfan mewn sefyllfa fel hon.

Rydym yn rhag-weld y bydd y panel wedi penderfynu yn ystod mis Awst 2024 pwy fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad ym mis Medi 2024. Ein bwriad yw cynnal y cyfweliadau drwy Microsoft Teams.

Dim ond yr ymgeiswyr cryfaf ym marn y panel sydd wedi dangos orau eu bod yn bodloni'r meini prawf a nodwyd yn adran manyleb y person fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Fodd bynnag, os ydych wedi gwneud cais o dan y cynllun gwarantu cyfweliad a'ch bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, cewch chithau hefyd eich gwahodd i gyfweliad.

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad ac os nad yw dyddiad y cyfweliad wedi'i nodi eisoes yn y pecyn gwybodaeth hwn, byddwn yn ceisio rhoi cymaint o rybudd â phosibl ichi o ddyddiad y cyfweliad. Os na allwch fod yn bresennol ar y dyddiad hwnnw, fe wnawn ymdrechu i aildrefnu ond efallai na fydd hyn yn bosibl oherwydd cyfyngiadau amser o fewn yr amserlen benodi neu argaeledd y panel dethol.

Fe gewch e-bost gan ganolfan ymgeisio Llywodraeth Cymru i roi gwybod ichi os ydych wedi eich gwahodd i gyfweliad.

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd y panel yn eich holi am eich sgiliau a’ch profiad, gan ofyn cwestiynau penodol i asesu a ydych yn bodloni meini prawf y swydd.

Bydd yr ymgeiswyr y bydd y panel yn credu eu bod yn addas i'w penodi yn cael eu hargymell i'r Gweinidog, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gall y Gweinidog ddewis cyfarfod â'r ymgeiswyr hyn cyn gwneud penderfyniad. Os felly, bydd yn cyfarfod â'r holl ymgeiswyr ym mhresenoldeb cadeirydd y panel neu ei gynrychiolydd enwebedig. Bydd bwlch amser rhwng y cyfweliad a'r penderfyniad penodi terfynol.

Bydd yr ymgeiswyr a fydd wedi'u cyf-weld yn cael gwybod hynt y broses honno.


Os byddwch yn llwyddiannus, cewch lythyr yn eich penodi'n Aelod o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, a bydd y llythyr hwnnw hefyd yn cadarnhau o dan ba amodau y caiff y cynigir y penodiad ichi.

Os na fyddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwch yn cael gwybod drwy ganolfan ymgeisio Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi bod angen llawer o amser ac ymdrech i ymgeisio am swyddi, a bod rhoi adborth yn rhan werthfawr o'r broses. Felly, bydd y llythyr yn nodi â phwy y gallwch gysylltu i gael adborth ar eich cais a'ch cyfweliad, os dymunwch wneud hynny.

Cwestiynau

Os oes gennych gwestiynau am eich cais, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

Os nad ydych yn hollol fodlon

Nod Llywodraeth Cymru yw prosesu pob cais mor gyflym â phosibl a thrin pob ymgeisydd yn deg ac yn gwrtais. Os oes gennych unrhyw gwynion am y ffordd y deliwyd â'ch cais, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

Yn ogystal, gallwch ysgrifennu at Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau

Cyhoeddus, Office of the Commissioner for Public Appointments, Ground Floor, 1 Horse Guards Road, London, SW1A 2HQ, neu e-bostio publicappointments@csc.gov.uk

Amser darllen amcangyfrifedig:

22 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: