Cyhoeddi manylion arolwg etholaethau y Senedd

Heddiw (19 Gorffennaf 2024) mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei Ganllaw i Arolwg 2026 o etholaethau’r Senedd.
Mae’r Canllaw yn nodi’r dyddiadau allweddol ar gyfer yr Arolwg, yn egluro’r ffordd y bydd y Comisiwn yn datblygu’r etholaethau newydd, ac yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut y gall aelodau’r cyhoedd lunio’r cynigion.
Bydd y Cynigion Cychwynnol ar gyfer 16 o etholaethau Senedd newydd Cymru yn cael eu cyhoeddi ar 3 Medi 2024, gyda chyfnod ymgynghori o 4 wythnos yn agor ar unwaith ac yn cau ar 30 Medi.
Bydd Cynigion Diwygiedig yn dilyn ym mis Rhagfyr, gydag ail ymgynghoriad 4 wythnos yn rhedeg tan ganol mis Ionawr.
Mae Penderfyniadau Terfynol y Comisiwn yn debygol o gael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2025, a byddant yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.
Rhaid ffurfio’r 16 etholaeth a gynigir gan y Comisiwn drwy baru 32 etholaeth seneddol (San Steffan) Cymru. Rhaid i bob pâr fod yn gyffiniol.
Bydd CDFfC yn ystyried daearyddiaeth fel mynyddoedd, afonydd ac aberoedd yn ei gynigion, gyda'r Comisiwn yn dehongli mai dim ond etholaethau â chysylltiadau ffordd uniongyrchol sy'n cydgyffwrdd mewn gwirionedd.
Nid yw etholaethau sy’n ffinio â’i gilydd ar fap ond y mae’n amhosibl teithio rhyngddynt heb basio trwy drydedd etholaeth yn cael eu hystyried yn gyffiniol ac felly ni fyddant yn cael eu paru gan y Comisiwn.
Bydd CDFfC hefyd yn ystyried ffiniau llywodraeth leol lle bo'n bosibl ac yn ceisio cynnal cysylltiadau lleol wrth iddo baru'r 32 etholaeth.
Fodd bynnag, ni fydd y Comisiwn yn ystyried yr effaith ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol wrth iddo ddatblygu ei gynigion.
Bydd DBCC hefyd yn cynnig enwau ar gyfer pob etholaeth, gydag un enw uniaith lle’n bosib, ac enwau Cymraeg a Saesneg ar wahân yn cael eu defnyddio lle nodir bod angen.
Bydd enwau ardaloedd sydd eisoes yn cael eu defnyddio’n gyffredin yn cael eu dewis lle bo’n briodol, a defnyddir enwau etholaethau presennol mewn mannau eraill.
Lle defnyddir enwau etholaethau seneddol presennol, bydd y Comisiwn yn rhestru'r enwau yn nhrefn yr wyddor yn ôl y Gymraeg.
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r Canllaw i Arolwg 2026, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae democratiaeth ddatblygol Cymru ar bwynt cyffrous yn ei hanes ac mae’n bleser gan y Comisiwn lansio’n swyddogol Arolwg 2026 o etholaethau’r Senedd.
“Mae adborth y cyhoedd yn ganolog i’n gwaith felly edrychwn ymlaen at weld ymatebion o bob rhan o Gymru nid yn unig ar yr ymarfer paru ar gyfer yr etholaethau newydd, ond ar gyfer eu henwau arfaethedig hefyd.
“Byddem yn annog pawb i ddarganfod mwy am yr Arolwg cyn i ni gyhoeddi ein Cynigion Cychwynnol drwy fynd i cdffc.llyw.cymru a darllen ein Canllaw i’r Arolwg.”