Newid Ffiniau Sir Caerfyrddin wedi eu cadarnhau
Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDLC
Mae diwygiadau i ffiniau wardiau Cyngor Sir Gaerfyrddin yn parhau ar ôl i lywodraeth Cymru penderfynu derbyn a chadarnhau argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gyda man newidiadau i enwau wardiau yn unig.
Cafodd argymhellion terfynol y Comisiwn eu danfon i Lywodraeth Cymru ar 21 Awst 2019, a heddiw mae’r gweinidog cyllid a llywodraeth leol, Rebecca Evans AS, wedi cadarnhau ei bod wedi derbyn yr argymhellion.
Golygir y newidiadau y bydd Sir Gaerfyrddin yn gweld cynnydd o 1 gynghorydd, wrth i faint y cyngor gynyddu o 74 i 75 aelod. Mi fydd yna 1 aelod i bob 1,1915 o etholwyr ar gyfartaledd.
Yn y cyfamser, mi fydd nifer y wardiau yn lleihau o 58 i 51, gyda 22 ohonynt yn ethol mwy nag un aelod.
Bydd 20 ward yn ethol 2 cynghorydd, tra bydd 2 ward, sef Bigyn a Gogledd a De Tre Caerfyrddin, yn ethol 3 cynghorydd.
Ni fydd unrhyw newid i 34 ward yn sgil yr argymhellion yma.
Ni dderbyniwyd nifer fach o argymhellion ar enwau wardiau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru:
"Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn gyda man newidiadau yn unig.
"Bydd y newidiadau yn golygu gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Sir Gaerfyrddin.
"Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr adolygiad. Gan gynnwys aelodau'r cyhoedd, cynghorwyr, Cyngor Sir Caerfyrddin, a phawb arall a anfonodd gynrychiolaethau i’r Comisiwn. "
Disgwylir i'r newidiadau ffiniau ddigwydd ar gyfer etholiadau lleol 2022.
Y rhestr llawn o wardiau a gedwir yw:
- Abergwili
- Betws
- Porth Tywyn
- Gorllewin Tref Caerfyrddin
- Garnant
- Glanaman
- Glanymôr
- Glyn
- Gors-las
- Hengoed
- Talacharn
- Llanboidy
- Llanddarog
- Llandeilo
- Llanymddyfri
- Llandybie
- Llanegwad
- Llanfihangel
- Aberbythych
- Llanfihangel-ar-Arth
- Llangadog
- Llangennech
- Llangynnwr
- Llannon
- Llanybydder
- Lliedi
- Llwynhendy
- Pen-bre
- Penygroes
- Pontyberem
- Cwarter Bach
- Saron
- Swiss Valley
- Trimsaran
- Hendy-gwyn ar Daf
Argymhellion ni dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Betws yr enw unigol Betws. Bydd yr enw Cymraeg Y Betws yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Dafen a Felinfoel yr enw Cymraeg Dafen a Felinfoel. Bydd yr enw Cymraeg Dafen a Felin-foel yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Garnant yr enw unigol Garnant. Bydd yr enw Cymraeg Y Garnant yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Gorslas yr enw unigol Gorslas. Bydd yr enw Cymraeg Gors-las yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Penygroes yr enw unigol Penygroes. Bydd yr enw Cymraeg Pen-y-groes yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Trelech yr enw unigol Trelech. Bydd yr enw Cymraeg Tre-lech yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Tycroes yr enw unigol Tycroes. Bydd yr enw Cymraeg Tŷ-croes yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Hendy-gwyn ar Daf yr enw Cymraeg Hendy-Gwyn. Bydd yr enw Cymraeg Hendy-gwyn ar Daf yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
Mae’r adroddiad yr Argymhellion Terfynol ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin i'w weld gan glicio yma, ynghyd â mapiau o bob ward arfaethedig.
Mae Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r penderfyniad i'w weld gan glicio yma.