CDFfC yn ymateb i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cael Cydsyniad Brenhinol
Mae Cydsyniad Brenhinol wedi’i roi i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) heddiw (24 Mehefin).
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn gweld Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn mabwysiadu’r cyfrifoldeb i gynnal Arolygon cyfnodol o etholaethau Senedd Cymru, yn ogystal â’i gyfrifoldebau presennol yn ymwneud â Llywodraeth Leol. O hyn ymlaen, ailenwyd y Comisiwn yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Yr Arolwg cyntaf i’w gynnal gan y Comisiwn o dan y ddeddfwriaeth newydd fydd creu 16 o etholaethau’r Senedd drwy baru’r 32 o etholaethau seneddol a argymhellwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
Bydd yr etholaethau newydd yn dod i rym yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Wrth wneud sylw ar y Cydsyniad Brenhinol sy’n cael ei roi i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sydd newydd ei ffurfio:
“Mae’r Comisiwn yn falch o weld y bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid ar y cyfrifoldebau newydd a roddir i’r Comisiwn.
“Byddwn yn parhau â’r gwaith yr oeddem eisoes yn ei wneud fel Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gan gynnwys paratoi ar gyfer y Rhaglen Arolygon Etholiadol nesaf o awdurdodau lleol Cymru, yn ogystal â’r Arolygon Cymunedol sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
“Fodd bynnag, bydd y Comisiwn nawr hefyd yn troi ei ffocws at yr Arolwg sydd ar ddod o etholaethau’r Senedd, gyda chynlluniau ar waith i gyhoeddi Cynigion Cychwynnol ym mis Medi 2024.
“Hoffai’r Comisiwn gofnodi ei ddiolch i Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid eraill a gymerodd sylwadau’r Comisiwn yn ystod taith y Bil hwn.”