Cadarnhau Diwygio Ffiniau Rhondda Cynon Taf
Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDL
Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Rhondda Cynon Taf yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gyda man newidiadau i’r argymhellion o ran enwau wardiau yn unig.
Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 25 Mawrth 2020 ac mae’r Gweinidog dros Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau heddiw bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.
Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Rhondda Cynon Taf yn cadw 75 o gynghorwyr, gyda 2,302 o bleidleiswyr ar gyfer bob aelod o’r cyngor ar gyfartaledd.
Fe fydd y nifer o wardiau yn lleihau o 52 i 46, gyda 26 ohonynt yn ethol mwy nag un cynghorydd.
Mi fydd 23 ward yn ethol 2 gynghorydd, a 3 yn ethol tri cynghorydd.
Ni fydd unrhyw newid i 20 ward yn sgil y diwygio yma.
Argymhellodd y Comisiwn wneud nifer o newidiadau i ffiniau yn Nhref Pontypridd a Chymunedau Llanilltud Faerdref, Pont-y-clun a Threhafod.
Ni dderbyniwyd nifer bach o argymhellion ar enwau wardiau gan Lywodraeth Cymru.
Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:
“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion gyda man newidiadau yn unig.
“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Rhondda Cynon Taf.
“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Rhondda Cynon Taf, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”
Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.
Y rhestr o wardiau Cadwedig:
Abercynon
- Dwyrain Aberdâr
- Gorllewin Aberdâr/Llwydcoed
- Cilfynydd
- Cwm Clydach
- Gilfach-goch
- Glyncoch
- Llanilltud Faerdref
- Penrhiwceibr
- Pentre
- Pen-y-Graig
- Pen-y-Waun
- Tref Pontypridd
- Porth
- Ffynnon Taf
- Trefforest
- Tonypandy
- Dwyrain Tonyrefail
- Trallwng
- Treherbert
Argymhellion na’u derbynnir gan Lywodraeth Cymru:
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Ynysybwl yr enw unigol Ynysybwl. Bydd yr enw Cymraeg Ynys-y-bwl a’r enw Saesneg Ynysybwl yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Llwynypia yr enw unigol Llwynypia. Bydd yr enw Cymraeg Llwynypia a’r enw Saesneg Llwyn-y-pia yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Cwmbach yr enw unigol Cwmbach. Bydd yr enw Cymraeg Cwm-bach a’r enw Saesneg Cwmbach yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y sillafiad unigol Pont-y-clun ar gyfer y wardiau etholiadol a’r wardiau cymunedol sy’n cynnwys Pont-y-clun yn eu henw. Bydd Pont-y-clun yn cael ei sillafu Pont-y-clun yn Gymraeg a Pontyclun yn Saesneg ar gyfer y wardiau etholiadol a’r wardiau cymunedol sy’n cynnwys yr enw lle hwn.
Dewch o hyd i'r Argymhellion Terfynol, yn ogystal a mapiau o'r wardiau cafwyd eu hargymell: https://cffdl.llyw.cymru/adolygiadau/03-20/argymhellion-terfynol-ar-gyfer-rhondda-cynon-taf