Cadarnhau Diwygio Ffiniau Cyngor Abertawe
Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion CFfDL
Bu cadarnhad heddiw y bydd newidiadau i ffiniau wardiau cyngor Abertawe yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru penderfynu derbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, gyda man newidiadau i’r argymhellion o ran enwau wardiau yn unig.
Anfonwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru ar 3 Mawrth 2020 ac mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cadarnhau heddiw bod y penderfyniad wedi ei gwneud i dderbyn yr argymhellion.
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol sydd fel arfer yn gwneud penderfyniadau ar newid ffiniau cynghorau, ond gan fod y gweinidog presennol, Rebecca Evans AS, yn cynrychioli etholaeth o fewn Dinas a Sir Abertawe, gofynnwyd i’r Prif Weinidog gwneud y penderfyniad yn yr achos hwn.
Mae’r newidiadau a’u cytunwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd Abertawe yn ennill 3 o gynghorwyr newydd, gan gynyddu maint y cyngor o 72 i 75 aelod.
Er hynny, fe fydd y nifer o wardiau yn lleihau o’r 36 presennol i 32, gyda 21 ohonynt yn ethol mwy nag un cynghorydd.
Mi fydd chwe ward yn ethol 2 gynghorydd, de gyn ethol 3 cynghorydd, tri yn ethol 4 cynghorydd, a dau bellach yn ethol 5 cynghorydd.
Ni fydd unrhyw newid i 15 ward yn sgil y diwygio yma.
Mi fydd wardiau Dyfnant, Gogledd Cilâ, a De Cilâ yn cyfuno er mwyn ffurfio ward newydd 3-aelod, ac mi fydd ward newydd, Y Glannau, yn cael ei greu er mwyn cynnwys ardaloedd y marina ac SA1.
Ni dderbyniwyd nifer bach o argymhellion ar enwau wardiau gan Lywodraeth Cymru.
Yn ymateb i benderfyniad y Llywodraeth, dywedodd Shereen Williams MBE OStJ, Prif Weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol:
“Dwi’n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion gyda man newidiadau yn unig.
“Mi fydd y newidiadau yma yn dod a gwell cydraddoldeb etholiadol i bobl Abertawe.
“Hoffaf ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r arolwg, yr aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyr, cyngor Abertawe, ac unrhyw un a anfonodd gynrychiolaeth neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”
Mi fydd y newidiadau yn dod i rym ar gyfer etholiadau lleol 2022.
Y rhestr o wardiau Cadwedig:
- Llandeilo Ferwallt
- Bonymaen
- Cwmbwrla
- Fairwood
- Landore
- Llansamlet
- Mayals
- Treforys
- Mynyddbach
- Penclawdd
- Penderi
- Penllergaer
- Sgeti
- Townhill
- Uplands
Argymhellion na’u derbynnir gan Lywodraeth Cymru:
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Fairwood yr enw Cymraeg Llwynteg a’r enw Saesneg Fairwood. Bydd yr enw unigol Fairwood yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol St Thomas yr enw Cymraeg Sain Tomos a’r enw Saesneg St Thomas. Bydd yr enw unigol St Thomas yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Townhill yr enw Cymraeg Pen y Graig a’r enw Saesneg Townhill. Bydd yr enw unigol Townhill yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Uplands yr enw Cymraeg Tir Uchel a’r enw Saesneg Uplands. Bydd yr enw unigol Uplands yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol West Cross yr enw Cymraeg Y Groesffordd a’r enw Saesneg West Cross. Bydd yr enw unigol West Cross yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
- Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Pontlliw a Thircoed yr enw Cymraeg Pontlliw a Thir-coed a’r enw Saesneg Pontlliw and Tircoed. Bydd yr enw Cymraeg Pont-lliw a Thir-coed a’r enw Saesneg Pontlliw and Tircoed yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
Dewch o hyd i'r Argymhellion Terfynol, yn ogystal a mapiau o'r wardiau cafwyd eu hargymell: https://cffdl.llyw.cymru/adolygiadau/03-20/argymhellion-terfynol-ar-gyfer-abertawe