Cyhoeddi Cynigion Drafft Arolwg Cymunedol Abertawe

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cyhoeddi (16 Mai) ei Gynigion Drafft ar gyfer y trefniadau Cymunedol newydd yn Abertawe.

Rhennir Abertawe yn 41 o Gymunedau, y mae gan 24 ohonynt Gyngor Tref neu Gymuned.

Mae'r Arolwg Cymunedol yn archwilio'r holl ffiniau Cymunedol yn Abertawe, a chynigir newidiadau i'r ffiniau hynny lle nodir angen.

Mae Ffiniau Wardiau Cymunedol hefyd yn agored i newid, ynghyd â threfniadau etholiadol Cynghorau Tref neu Gymuned, er enghraifft nifer y Cynghorwyr sy'n cael eu hethol i gynghorau.

Mae newidiadau i Ffiniau Cymunedol yn fwyaf tebygol mewn ardaloedd lle bu newidiadau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft lle mae stad o dai newydd wedi'i hadeiladu sy'n croesi ffin Gymunedol bresennol.

Fodd bynnag, mae newidiadau hefyd wedi'u cynnig i ffiniau cymunedol yn Abertawe mewn ymateb i'r cynrychiolaethau a dderbyniwyd yn ystod ymgynghoriad cychwynnol y Comisiwn.

Mae ymgynghoriad y Comisiwn bellach ar agor ac yn dod i ben ar 10 Gorffennaf. Gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno eu barn ar y Cynigion Drafft drwy e-bostio ymgynghoriadau@ffiniau.cymru neu drwy ysgrifennu yn y post i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Tŷ Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.

Bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl gynrychiolaethau a ddaw i law yn ystod yr ymgynghoriad cyn cyhoeddi ei Gynigion Terfynol.

Wrth wneud sylwadau ar agor yr ymgynghoriad, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Cymunedau yw'r lefel o lywodraeth sydd agosaf at y bobl, ac mae'n hanfodol eu bod yn parhau i gynrychioli pobl yn gywir ym mhob rhan o Abertawe.

“Mae’r Comisiwn wedi ystyried y dirwedd dai newidiol, ffiniau naturiol, cysylltiadau cymunedol, ac iechyd democrataidd cynghorau tref a chymuned ar draws Abertawe wrth ddatblygu ei gynigion.

“Fodd bynnag, mae angen i ni nawr glywed gan bobl Abertawe fel ein bod ni yn y sefyllfa orau bosib i gynhyrchu argymhellion terfynol sy’n cwrdd ag anghenion trigolion y sir.

“Mae gwefan y Comisiwn yn llawn gwybodaeth am yr Arolwg, ac am Gymunedau yn gyffredinol felly byddwn yn annog pawb i ddarganfod mwy am yr hyn y gallai’r newidiadau ei olygu iddyn nhw, ac i gyflwyno eu barn cyn 10 Gorffennaf.”

Darllenwch y cynigion yn llawn yma.

Amser darllen amcangyfrifedig:

4 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: