Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn cymryd cyfrifoldebau cydnabyddiaeth
O 1 Ebrill 2025, cymerodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyfrifoldeb am gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer rhai rolau yng Nghymru.
Cyflawnwyd y swyddogaethau hyn yn flaenorol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Daw’r newid o ganlyniad i Ddeddf Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth ac ati 2013, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Cyhoeddwyd set derfynol y Panel o benderfyniadau ar 24 Chwefror 2025, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei set gyntaf o benderfyniadau blynyddol erbyn gwanwyn 2026.
Cyhoeddir rhagor o fanylion am waith y Comisiwn ar gydnabyddiaeth ariannol yn y dyfodol maes o law.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â’r Comisiwn ar cydnabyddiaeth@cdffc.llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am gydnabyddiaeth neu’r trosglwyddo o swyddogaethau.