Cyhoeddi Argymhellion Terfynol yn Arolwg Cymunedol Bro Morgannwg
Heddiw (16 Ebrill) mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cyhoeddi ei argymhellion terfynol ar gyfer Cymunedau wedi’u diweddaru ym Mro Morgannwg.
Rhennir Bro Morgannwg yn 27 o Gymunedau, ac mae gan bob un ohonynt eu Cyngor Tref neu Gymuned eu hunain, ar wahân i Gymuned y Rhws.
Edrychodd yr Arolwg Cymunedol ar yr holl ffiniau Cymunedol ym Mro Morgannwg, gan argymell newidiadau i ffiniau lle nodwyd bod angen.
Argymhellir hefyd newid Ffiniau Wardiau Cymunedol, ynghyd â threfniadau etholiadol Cynghorau Tref neu Gymuned.
Cynhaliodd y Comisiwn ddau gyfnod ymgynghori ar wahân yn ystod yr Arolwg, gan arwain at gyflwyno 259 o gynrychiolaethau gan y cyhoedd.
Gall y rhai sydd am wneud sylwadau ar argymhellion terfynol y Comisiwn wneud hynny drwy ysgrifennu at y Tîm Democratiaeth Llywodraeth Leol, Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, neu drwy e-bost at: LGPolicy.Correspondence@gov.wales.
Ymhlith y newidiadau a argymhellir gan y Comisiwn mae:
- gostyngiad cyffredinol yn nifer yr ardaloedd cymunedol ym Mro Morgannwg o'r 27 i 19 presennol (gostyngiad o 8 ardal gymunedol).
- gostyngiad cyffredinol yn nifer y cynghorwyr tref a chymuned o 269 i 205 (gostyngiad o 64 cynghorydd cymuned).
- 2 gymuned heb eu newid (Y Rhws a Sain Tathan).
- Creu saith ward gymunedol newydd : Y Glannau (Y Barri), Cosmeston (Penarth), Parc Gwenfô (Gwenfô), Dyffryn (St Nicholas a Thresimwn), Gogledd y Bont-faen (Y Bont-faen), Canol y Bont-faen (Y Bont-faen) a Llanfleiddan (Y Bont-faen).
- Uchafswm Maint Cyngor o 23 cynghorydd (Y Barri) ac o leiaf 7 cynghorydd (Tregolwyn a Llanganna, Llancarfan, Llanbedr-y-fro a San Siorys, Sili a Larnog, a Gwenfô)
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r argymhellion terfynol, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’n partneriaid yng nghyngor Bro Morgannwg, cynghorau tref a chymuned, ac aelodau’r cyhoedd a gyflwynodd eu barn ar eu cymunedau drwy gydol yr adolygiad hwn.“Mae cymunedau’n rhan hanfodol o ddemocratiaeth leol Cymru ac mae’n hanfodol eu bod yn parhau i gynrychioli pobl Bro Morgannwg yn gywir, ac y gallwn sicrhau iechyd democrataidd da ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru.
“Bydd yr argymhellion hyn yn helpu i sicrhau bod gan Fro Morgannwg gynghorau cymuned hyfyw a chadarn dros y blynyddoedd i ddod yn ogystal â darparu’r blociau adeiladu mwyaf priodol ar gyfer arolygon etholiadol y Comisiwn o wardiau cyngor sir Bro Morgannwg yn y dyfodol.”
Mater i Lywodraeth Cymru a’i Gweinidogion yn awr yw penderfynu sut i symud ymlaen. Fel arfer byddant yn gwneud Gorchymyn i roi effaith i'r argymhellion.