Swydd Wag: Aelod Annibynnol o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae'n ofynnol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) sicrhau bod ganddo drefniadau effeithiol ar waith i ddarparu ffocws annibynnol lefel uchel ar ddigonolrwydd ei drefniadau llywodraethu, risg a rheoli. Mae Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Comisiwn (y Pwyllgor) yn gyfrifol am adolygu digonolrwydd y trefniadau llywodraethu, risg a rheoli hyn a darparu cyngor a sicrwydd priodol i'r Comisiwn ar y materion hyn.
Mae cwmpas y Pwyllgor yn cynnwys goruchwylio'r archwilwyr mewnol ac allanol, materion ariannol y Comisiwn, gan gynnwys yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Statudol, a'i drefniadau llywodraethu corfforaethol cyffredinol gyda'r bwriad o sicrhau rheolaeth ariannol gadarn, tryloywder a chynnal hyder y cyhoedd yng ngwaith y Comisiwn.
Disgrifiad o’r Rôl
1. Atebolrwydd
- Y Comisiwn
- Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
2. Pwrpas a gweithgaredd y rôl:
Cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a gwneud penderfyniadau
- Rhoi sicrwydd i'r Swyddog Cyfrifyddu, a sicrhau bod arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddefnyddio'n briodol at eu dibenion perthnasol, ac yn unol â gofynion polisïau Llywodraeth Cymru, ym mhob agwedd sylweddol.
- Dangos annibyniaeth, uniondeb a didueddrwydd wrth wneud penderfyniadau yn unol â gofynion cyfreithiol, cyfansoddiadol a pholisi.
- Rhoi sylw i ofynion Cadeirydd y Pwyllgor a chyngor proffesiynol uwch reolwyr y Comisiwn gan gynnwys y Prif Weithredwr, y Pennaeth Polisi a Rhaglenni, y Pennaeth Busnes a’r Pennaeth Iechyd Democrataidd.
- Cydymffurfio â Chod Ymddygiad y Comisiwn.
- Gweithio yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor.
- Cyfrannu at ddatblygu blaengynllun gwaith y Pwyllgor.
- Hyrwyddo rôl y Pwyllgor o fewn y Comisiwn.
- Ymateb i unrhyw argymhellion a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
- Cymryd rhan mewn unrhyw gwrs hyfforddi a datblygu sy'n ofynnol ar gyfer y rôl.
Cyfrannu at waith y Pwyllgor yn ei rôl yn:
Adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt
- Gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol y Comisiwn.
- Adolygu ac asesu gallu'r Comisiwn i adrodd ar ei wariant a sefyllfa'i gyllideb yn effeithiol
- Goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol y Comisiwn.
- Ymgysylltu'n effeithiol â'r archwilwyr mewnol ac allanol.
- Adolygu'r datganiadau ariannol a baratowyd gan yr awdurdod ac argymell bod y Comisiwn yn eu cymeradwyo.
Cyfrannu at berfformiad effeithiol y Comisiwn
- Adolygu ac asesu gallu’r Comisiwn i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol.
- Adolygu ac asesu gallu'r Comisiwn i ymdrin â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn effeithiol.
- Adolygu ac asesu effeithiolrwydd trefniadau diogelwch TGCh y Comisiwn.
Adolygu ac asesu materion Llywodraethu, Rheoli Risg a Rheoli'r Comisiwn
- Adolygu ac asesu trefniadau'r Comisiwn ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol.
- Gwneud argymhellion i'r Comisiwn ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny.
- Adolygu ac asesu datganiadau sicrwydd y Comisiwn, gan gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'n ddigonol yr amgylchedd gweithredu ac unrhyw weithgareddau datblygu sydd eu hangen i gryfhau trefniadau llywodraethu ymhellach.
Meini Prawf Person:
Ymrwymiad i werthoedd bywyd cyhoeddus
Ymrwymiad i 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Pwyllgor Nolan, gwerthoedd y Comisiwn a'r gwerthoedd canlynol mewn swyddi cyhoeddus:
- Anhunanoldeb
- Uniondeb
- Gwrthrychedd
- Atebolrwydd
- Bod yn agored
- Gonestrwydd
- Arweinyddiaeth
- Cydraddoldeb a chynhwysiant
Sgiliau/Profiad
Meini Prawf Hanfodol:
- Sgiliau dadansoddol mewn rheolaeth ariannol, risg a pherfformiad: Sgiliau dadansoddol cryf mewn risg, perfformiad, a rheoli ariannol, gyda'r gallu i nodi materion a goblygiadau allweddol.
- Adeiladu perthynas a hyder rhanddeiliaid Gallu profedig i feithrin a chynnal cyd-berthnasoedd llwyddiannus, darparu her ac ysbrydoli hyder gydag ystod eang o randdeiliaid.
- Heriau'r Sector Cyhoeddus: Gallu profedig i fynd i'r afael â heriau allweddol yn y sector cyhoeddus trwy brofiad ymarferol.
- Profiad o Bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio: O leiaf 3 blynedd o brofiad fel aelod o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (GAC) yn y sector cyhoeddus neu breifat.
Meini Prawf Dymunol:
- Gwybodaeth am Lywodraeth Leol yng Nghymru: Gwybodaeth am sut mae llywodraeth leol yn gweithredu yma yng Nghymru a phwysigrwydd iechyd democrataidd.
- Dealltwriaeth o'r fframwaith deddfwriaethol: Dealltwriaeth o'r fframwaith deddfwriaethol y mae'r Comisiwn yn gweithredu ynddo i sicrhau ein bod ni'n gwneud penderfyniadau effeithiol a chadarn.
Taliadau cydnabyddiaeth:
Mae hawl gan yr Aelod Annibynnol i hawlio tâl ar gyfradd o £282 y dydd. Byddwn yn talu costau teithio a chynhaliaeth yn ôl yr angen.
Bydd y penodiad am gyfnod penodol o 4 blynedd.
Pwynt cyswllt:
Shereen Williams, Prif Weithredwr, Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (Ffôn 029 2046 4819 E-bost: shereen.williams@cdffc.llyw.cymru