Etholaethau ar gyfer etholiad Senedd 2026 wedi’u cadarnhau

Llun gan Jonny Gios ar Unsplash

Heddiw (11 Mawrth 2025) mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei Benderfyniadau Terfynol ac wedi cadarnhau’r 16 etholaeth a fydd yn cael eu defnyddio i ethol Aelodau’r Senedd yn etholiad 2026.

Rhoddodd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gyfarwyddyd i’r Comisiwn wneud argymhellion ar gyfer 16 o etholaethau i ddisodli’r 40 etholaeth a 5 rhanbarth presennol.

Bydd yr etholaethau newydd hyn yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad y Senedd 2026, a bydd 6 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol o bob un, gan ddefnyddio’r dull D’Hondt a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer rhestrau rhanbarthol y Senedd.

Bu’n rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru greu 16 etholaeth drwy baru 32 o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru, gan sicrhau bod pob etholaeth yn ffinio â’r un y mae wedi’i pharu â hi.

Yr 16 etholaeth a gynigir gan y Comisiwn yw:

  1. Bangor Conwy Môn
  2. Clwyd
  3. Fflint Wrecsam
  4. Gwynedd Maldwyn
  5. Ceredigion Penfro
  6. Sir Gaerfyrddin
  7. Gŵyr Abertawe
  8. Brycheiniog Tawe Nedd
  9. Afan Ogwr Rhondda
  10. Pontypridd Cynon Merthyr
  11. Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
  12. Sir Fynwy Torfaen
  13. Casnewydd Islwyn
  14. Caerdydd Penarth
  15. Caerdydd Ffynnon Taf
  16. Pen-y-bont Bro Morgannwg

Mae’r Comisiwn wedi gwneud 2 newid i’r parau ers ei Gynigion Diwygiedig, gyda Caerdydd Penarth a Caerdydd Ffynnon Taf yn disodli’r etholaethau arfaethedig, De-ddwyrain Caerdydd Penarth, a Gogledd-orllewin Caerdydd a gynigiwyd yn flaenorol.

Mae’r cyfluniad terfynol yn gweld etholaethau seneddol Gogledd Caerdydd a Dwyrain Caerdydd yn paru gyda’i gilydd, ynghyd â’r pâr o Orllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth.

Cynigiodd y Comisiwn y cyfuniad hwn yn ei adroddiad Cynigion Cychwynnol cyn ei newid yn ei Gynigion Diwygiedig. Roedd sylwadau a dderbyniwyd gan y Comisiwn yn ystod y ddau ymgynghoriad yn hysbysu’r Comisiwn fod mwy o gefnogaeth ymhlith y cyhoedd i’r cyfuniad a wnaed yn ei Benderfyniadau Terfynol.

Mae’r Comisiwn o’r farn mai dim ond “cydgyffwrdd” yw etholaethau os oes modd teithio drwyddi heb orfod gadael yr etholaeth.

Er enghraifft, nid oedd y Comisiwn yn ystyried Ynys Môn a Dwyfor Meirionnydd yn bâr hyfyw gan nad oes modd teithio o un i'r llall ar y ffordd heb orfod mynd i mewn i Fangor Aberconwy.

Bu’r Comisiwn hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol, megis hanes a rennir, y Gymraeg, ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol mewn ymgais i greu etholaethau sy’n teimlo mor naturiol â phosibl i bobl ledled Cymru.

Fodd bynnag, nid yw'r Comisiwn yn ystyried effaith ei gynigion ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol.

Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn nodi bod yn rhaid i bob etholaeth Senedd gael un enw at ddibenion nodi’r etholaeth mewn cyfathrebiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn o’r farn y byddai hyn yn annerbyniol”.

Mae’r Comisiwn felly wedi neilltuo enwau i bob etholaeth y mae’n credu eu bod yn dderbyniol ac yn adnabyddadwy i bobl ledled Cymru.

Mewn llawer o achosion, megis “Clwyd”, nid oes unrhyw gyfieithiadau Saesneg o’r enwau lleoedd yn gyffredin. Mewn achosion eraill, megis “Caerdydd Penarth”, mae’r Comisiwn o’r farn y byddai trigolion Caerdydd yn adnabod ac yn deall yr enw Caerdydd a’r ardal y mae’n cyfeirio ati, gan wneud cyfieithiad o’r enw yn ddiangen.

Yn ystod ei gyfnod ymgynghori ar y Cynigion Diwygiedig, derbyniodd y Comisiwn nifer o sylwadau ar ei enwau arfaethedig a’i gonfensiynau enwi. Er bod y Comisiwn yn agored i syniadau ac awgrymiadau ynghylch enwau etholaethau unigol, ni allai ystyried sylwadau a oedd yn cynnig cyfieithiadau ar gyfer pob etholaeth, nac yn cynnig confensiynau enwi cwbl wahanol, oherwydd cyfyngiadau’r ddeddf.

Derbyniodd y Comisiwn dros 4,000 o ymatebion yn ystod ei gyfnodau ymgynghori. Dyma, o gryn dipyn, y nifer uchaf o ymatebion a dderbyniwyd naill ai gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, neu’r Comisiwn Ffiniau i Gymru, sy’n cyfateb iddo yn Senedd y DU, yn ystod proses adolygu.

Roedd llawer o’r ymatebion a ddaeth i law yn mynegi anghytundeb cyffredinol neu gytundeb â’r cynigion, a bu llawer yn trafod materion y tu allan i gwmpas yr Arolwg.

Fodd bynnag, derbyniodd y Comisiwn hefyd lawer o awgrymiadau gwerthfawr gan y cyhoedd a rhanddeiliaid sydd wedi helpu i lunio’r Cynigion Diwygiedig, a’r Penderfyniadau Terfynol.

Mae adroddiad Penderfyniadau Terfynol y Comisiwn wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a bydd yr 16 etholaeth a bennir gan y Comisiwn yn dod i rym yn awtomatig yn etholiad Senedd 2026.

Daw hyn ag Arolwg 2026 o etholaethau’r Senedd i ben.

Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi’r Penderfyniadau Terfynol, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Yr arolwg hwn oedd yr arolwg cyntaf ar etholaethau’r Senedd i’w gynnal gan y Comisiwn, a gyda system etholiadol newydd, a chynnydd yn nifer yr Aelodau o’r Senedd o 2026, mae’r newidiadau y bu’n rhaid i ni eu gwneud yn sylweddol iawn.

“Hoffai’r Comisiwn ddiolch i’w bartneriaid yn Llywodraeth Cymru, y Senedd, awdurdodau lleol, a chymuned etholiadol gyfan Cymru am eu hymwneud â’r arolwg hwn.

“Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn dymuno diolch yn bennaf i’r aelodau o’r cyhoedd sydd wedi ymateb mewn niferoedd uwch nag erioed o’r blaen i’w ymgynghoriadau.

“Mae’r ddadl dros barau ac enwau arfaethedig wedi bod yn gadarn, ond yn adeiladol iawn, ac mae’r etholaethau a argymhellwyd gan y Comisiwn wedi’u cryfhau’n sylweddol oherwydd y rhan a chwarwyd gan y cyhoedd yn y broses.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Amser darllen amcangyfrifedig:

7 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: