Cyhoeddi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio newydd

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi penodi Andrew Blackmore yn Gadeirydd ei Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio newydd.

Mae Andrew wedi treulio ei yrfa mewn gwasanaethau ariannol a bu ganddo nifer o rolau uwch reoli risg a chyfalaf â ffocws ar drawsnewid busnes strategol a chryfhau trefniadau llywodraethu Bwrdd sefydliad.

O 2020 ymlaen, mae Andrew wedi ymgymryd â gyrfa portffolio ac, erbyn hyn, mae ganddo nifer o rolau fel cyfarwyddwr anweithredol ac aelod annibynnol yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, yn ogystal ag eistedd fel ynad. Yn ei amser hamdden, mae Andrew yn mwynhau cerdded mynyddoedd (rhedeg mynyddoedd gynt) ac mae wedi cwblhau nifer o lwybrau hirbell yn y DU ac Ewrop.

Bydd Andrew Blackmore yn cael ffi ddyddiol o £311 y dydd.

Amser darllen amcangyfrifedig:

3 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: