Arolwg Cymunedol Caerffili yn dechrau

Heddiw (24 Mawrth) mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi agor ei Ymgynghoriad Cychwynnol wrth i’r Arolwg Cymunedol o Gaerffili ddechrau.

Rhennir Caerffili yn 28 o Gymunedau, ac mae gan sawl un ohonynt eu Cyngor Tref neu Gymuned eu hunain.

Bydd yr Arolwg Cymunedol yn edrych ar yr holl ffiniau Cymunedol yng Nghaerffili, gyda newidiadau posibl i'r ffiniau hynny lle nodir angen.

Gellid hefyd newid Ffiniau Wardiau Cymunedol, ynghyd â threfniadau etholiadol Cynghorau Tref neu Gymuned, er enghraifft nifer y Cynghorwyr sy'n cael eu hethol i gynghorau.

Mae newidiadau i Ffiniau Cymunedol yn fwyaf tebygol mewn ardaloedd lle bu newidiadau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft lle mae stad o dai newydd wedi'i hadeiladu sy'n croesi ffin Gymunedol bresennol.

Fodd bynnag, gellid gwneud newidiadau i unrhyw ffiniau Cymunedol yng Nghaerffilig os yw ymatebion i ymgynghoriad y Comisiwn yn nodi bod angen newid.

Mae ymgynghoriad y Comisiwn bellach ar agor ac yn dod i ben ar 18 Mai. Gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno eu barn ynghylch a ddylai fod unrhyw newidiadau i’w Cymunedau ai peidio, ac yn wir pa newidiadau y dylid eu gwneud, drwy anfon e-bost at ymgynghoriadau@ffiniau.cymru neu drwy ysgrifennu yn y post at Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Tŷ Hastings, Caerdydd. CF24 0BL.

Bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl gynrychiolaethau a ddaw i law yn ystod yr ymgynghoriad cyn cyhoeddi ei Gynigion Drafft. Yna bydd y cynigion yn destun cyfnod ymgynghori pellach.

Wrth wneud sylwadau ar agor yr ymgynghoriad, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:

“Cymunedau yw’r lefel o lywodraeth sydd agosaf at y bobl, ac mae’n hanfodol eu bod yn parhau i gynrychioli pobol yn gywir ym mhob rhan o Fro Morgannwg.

“Mae gwefan y Comisiwn yn llawn gwybodaeth am yr Arolwg, ac am Gymunedau yn gyffredinol felly byddwn yn annog pawb i ddarganfod mwy am yr hyn y gallai’r newidiadau ei olygu iddyn nhw, ac i gyflwyno eu barn cyn 18 May.”

Dewch o hyd i mwy o fanylion yma.

Amser darllen amcangyfrifedig:

4 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: