Dengys ymchwil fod Cynghorwyr yn gweithio 28 awr yr wythnos
Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn dangos bod Cynghorwyr Sir yng Nghymru yn neilltuo 28 awr yr wythnos ar gyfartaledd i’w rolau, gyda ffactorau fel amddifadedd, rolau cabinet a phwyllgorau, ac a oes gan eu hardal Gyngor Tref neu Gymuned i gyd yn effeithio ar eu llwyth gwaith.
Diben yr ymchwil oedd archwilio a yw rhai ffactorau’n cael effaith sylweddol ar lwythi gwaith Cynghorwyr, ac a ddylai Comisiwn Democractiaeth a Ffiniau Cymru ystyried y ffactorau ychwanegol hyn wrth iddo gynnal arolygon o ffiniau wardiau etholiadol yn y dyfodol.
Canfu’r sefydliad ymchwil, Opinion Research Services, mai’r ffactor a gafodd yr effaith fwyaf ar lwyth gwaith Cynghorwyr oedd a ydynt wedi cymryd cyfrifoldebau ychwanegol, megis swyddi cabinet neu bwyllgor, ond bod sawl ffactor yn cael effaith.
Mae cynghorwyr yn ystyried amddifadedd fel un o'r prif ffactorau sy'n effeithio ar eu llwyth gwaith, gyda 41% yn ei ystyried fel y ffactor sy'n cael yr effaith fwyaf.
Canfuwyd hefyd bod presenoldeb Cyngor Tref neu Gymuned yn cael effaith sylweddol ar lwyth gwaith, gyda 52% yn dweud ei fod yn effeithio arnynt.
Canfu ORS fod cynghorwyr ar y cyfan yn teimlo eu bod (Cynghorau Tref neu Gymuned) yn ychwanegiad cadarnhaol at y gymuned ond bod eu presenoldeb yn gyffredinol yn creu mwy o waith iddynt.
Roedd cyhrychioli ardal wledig hefyd yn ffactor arwyddocaol, gyda 32% o gynghorwyr yn dweud bod gwasanaethu ardal wledig yn cael effaith ar eu llwyth gwaith.
Er gwaethaf nifer yr oriau a weithir gan gynghorwyr, a’r nifer o ffactorau y nodwyd eu bod yn effeithio ar eu llwyth gwaith, dim ond 23% o gynghorwyr a ddywedodd eu bod wedi rhoi mesurau ar waith i liniaru effaith eu llwyth gwaith.
Mae canlyniadau’r arolwg yn awgrymu mai’r cynghorwyr mwyaf profiadol sy’n tueddu i weithio’r oriau hiraf, yn bennaf oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau ychwanegol a bod ganddynt fwy o welededd yn y gymuned.
Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau sy’n ymwneud â natur wardiau hefyd yn effeithio ar lwythi gwaith cynghorwyr. Yr amlycaf o’r rhain yw amddifadedd – gwledig a threfol, ac ymdrin â’i effeithiau ar boblogaeth y ward.
Mae rhai o’r materion mwyaf cyffredin sy’n ychwanegu at lwyth gwaith yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treisgar, pryderon tai, a’r amser sydd ei angen i weithio gydag asiantaethau allweddol eraill, o fewn a thu allan i’r awdurdod lleol.
Dywedodd llawer fod pryderon ynghylch amddifadedd a thlodi wedi cynyddu dros eu cyfnod fel cynghorwyr. Dywedir bod gan breswylwyr mewn wardiau difreintiedig fynediad gwael at wasanaethau, eu bod yn ansicr at ble i droi am gymorth a gallant ddibynnu ar y cynghorydd am unrhyw nifer o faterion, er nad yw bob amser yn rhan o'u cylch gwaith.
Nesaf yn nhrefn blaenoriaeth, dywedwyd mai effaith nifer yr ysgolion yn yr ardal, ac yn wir y gofyniad i fod yn llywodraethwr ysgol, yn ogystal â phresenoldeb Cynghorau Tref a Chymuned gweithgar o fewn y ward. Yn dilyn hyn, a yw maint y gwaith achos a gynhyrchir gan bryderon ynghylch seilwaith.
Mae’r ymchwil hwn wedi llywio Polisi ac Arfer drafft Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer ei Raglen Adolygu Etholiadol sydd ar ddod, lle bydd yn adolygu ffiniau wardiau etholiadol ledled Cymru.
Roedd argymhellion gan ORS yn cynnwys ystyried a ddylai fod cymhareb uwch o gynghorwyr i etholwyr mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ac a ddylid ystyried effaith Cynghorau Tref a Chymuned neu ysgolion ychwanegol mewn ardal.
Wrth wneud sylwadau ar y cyhoeddiad, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Hoffai’r Comisiwn ddiolch i ORS, cynghorwyr, a holl swyddogion cynghorau a roddodd o’u hamser i gymryd rhan yn yr ymchwil werthfawr hon.
“Wrth i ni edrych tuag at y Rhaglen Adolygu Etholiadol nesaf, rôl y Comisiwn yw sicrhau bod ffiniau wardiau etholiadol yn darparu’r gynrychiolaeth orau i etholwyr, a hefyd yn caniatáu i gynghorwyr a darpar gynghorwyr wasanaethu eu cymunedau hyd eithaf eu gallu.
“Rydym yn edrych ymlaen at drafodaethau gyda’n rhanddeiliaid ar y Polisi ac Arfer drafft ar gyfer ein Harolygon Etholiadol yn y dyfodol ac yn annog pawb sydd â diddordeb i ddarllen adroddiad ORS ar wefan y Comisiwn”.
Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei Bolisi ac Arferion drafft yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd rhanddeiliaid yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau arno.
Mae'r adroddiad llawn gan ORS ar gael i'w ddarllen ar wefan y Comisiwn.