Hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd ar gyfer Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r wefan https://cdffc.llyw.cymru .
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe – fersiwn [2.1 neu 2.2] Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rheswm (rhesymau) canlynol:
- Nid oes gan rai tablau, yn y rhan cynnwys, benawdau rhes tabl pan fo angen. Mae hyn yn golygu na fydd technolegau cynorthwyol yn darllen y tablau yn gywir. Mae hyn yn methu Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 - maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd).
- Nid yw delweddau ar rai tudalennau bob amser yn cynnwys disgrifiadau delwedd addas. Efallai na fydd gan ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol fynediad at wybodaeth a gyflëwyd mewn delweddau. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 - maen prawf llwyddiant 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n destun).
- Mae gan rai tudalennau gyferbyniad lliw gwael. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 - maen prawf llwyddiant 1.4.1 (Defnydd o Liw).
- Mae llawer o ddogfennau mewn fformatau llai hygyrch, er enghraifft PDF. Rhaid i ddogfennau nad ydynt yn HTML a gyhoeddwyd ar neu ar ôl 23 Medi 2018 fod â fformat hygyrch.
Dogfennau PDF a di-HTML
Nid yw llawer o ddogfennau yn hygyrch mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys dewisiadau amgen testun coll a strwythur dogfennau coll.
Sut y gwnaethom brofi'r wefan hon
Rydym yn defnyddio Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We V2.1 lefel A a lefel AA i brofi pa mor hygyrch yw https://cdffc.llyw.cymru.
Mae hygyrchedd y wefan yn cael ei wirio o leiaf unwaith y flwyddyn gan ddefnyddio Microsoft Lighthouse.
Ym mis Hydref 2023, cynhaliodd y Swyddfa Ddigidol a Data Canolog archwiliad o sampl gynrychioliadol o dudalennau ar cffdl.llyw.cymru, a nodwyd a chywirwyd problemau hygyrchedd cyffredin ar draws y wefan.
Mae disgwyl i strwythur gwefan cffdl.llyw.cymru gael ei ddiwygio yn hanner cyntaf 2024. Yn dilyn y newid hwnnw, bydd gwerthusiad llawn o'r wefan yn cael ei gomisiynu gyda thrydydd parti.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
Cyswllt: Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu
E-bost: ymholiadau@cdffc.llyw.cymru
Ffonio: 02920 464819
Bydd y Comisiwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 20 diwrnod gwaith.
Mae'r Comisiwn bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy e-bost at sylw'r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu trwy ymholiadau@cdffc.llyw.cymru
Dylech gynnwys sgrinluniau o unrhyw faterion os yn bosibl.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) https://www.equalityadvisoryservice.com/
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 27/05/21. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 01/12/23.