Arolygon Etholiadol: Polisi Meintiau Cynghorau
Mae’n ofynnol bod y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal arolygon cyfnodol o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd yng Nghymru. Caiff y modd y mae’r Comisiwn yn cynnal arolwg etholiadol ei ddiffinio gan ddeddfwriaeth, ein dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer a chan Gyfarwyddiadau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.
Gweithwyd y Comisiwn gydag Uned Ddata ~ Cymru i ystyried methodoleg ar gyfer pennu maint cynghorau, cyhoeddwyd y fethodoleg a ffefrir mewn papur ymgynghori ar 27 Mawrth 2013. Cawsom ymatebion gan dros hanner y prif gynghorau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), dwy blaid wleidyddol ac unigolion. Roedd yr ymateb cyffredinol o blaid y fethodoleg a’i bod yn briodol i sicrhau darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ar gyfer cynghorau.
Wrth ystyried methodoleg ar gyfer pennu maint cynghorau, mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu’r egwyddor y dylai’r ymagwedd at fodelu niferoedd cynghorwyr fod yn wrthrychol, yn dryloyw ac yn seiliedig ar fethodoleg gadarn.
Mae’r fethodoleg yn ein polisi yn defnyddio gwybodaeth yn ymwneud â dosbarthiad poblogaeth mewn cynghorau, gan alluogi dod i gasgliad ynglŷn â natur drefol a / neu natur wledig cymharol eu hardaloedd, mewn termau demograffig. Mae defnyddio’r data i gategoreiddio’r cynghorau wedyn yn rhoi ymagwedd dryloyw a chadarn a fydd yn cynnig dull cynaliadwy ar gyfer dyrannu yn y dyfodol. Mae’n sicrhau bod cynghorau sy’n rhannu nodweddion tebyg yn cael eu trin yn yr un ffordd.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 284.56 KB