Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer
Mae’r fersiwn hwn o’n dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer yn cynnwys nifer o newidiadau sydd wedi deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol, cyn cynnal yr arolwg, i’r Comisiwn ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynghylch y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ar gyfer yr arolwg, ac yn benodol, ynghylch sut mae’n bwriadu penderfynu ar y nifer briodol o aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu ardaloedd dan sylw.
Er mwyn bodloni’r gofyniad hwn, mae’r Comisiwn wedi llunio’r llyfryn hwn sy’n gosod allan y gweithdrefnau a’r fethodoleg y bwriadwn eu mabwysiadu mewn perthynas ag arolygon etholiadol. Mae’r llyfryn hefyd yn esbonio sut y byddwn yn ystyried mater y nifer briodol o aelodau etholedig a nodir ar gyfer pob prif gyngor.
Mae'r fersiwn diwygiedig hwn o'n dogfen Arolygon Etholiadol: polisi ac Arfer wedi cael ei ddiweddaru mewn paratoad o rhaglen newydd o adolygiadau etholiadol. Mae'r rhaglen newydd hyn yn sgil y datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 23 Mehefin 2016.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 765.77 KB