Safonau’r Gymraeg

Sut mae’r Comisiwn yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg

Prif Weithredwr y Comisiwn sy’n bennaf cyfrifol am gydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg.

  • Cynhelir ymarfer monitro cydymffurfiaeth bob chwarter fel rhan o’r gwaith cyffredinol o fonitro’r Cynllun Gweithredol. Caiff diweddariad ei ddarparu i fwrdd y Comisiwn.
  • Ar gyfer pob polisi neu brosiect newydd, cynhelir Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg er mwyn asesu’r effeithiau cadarnhaol neu niweidiol y byddai’n ei chael ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Caiff yr asesiad hwn ei ystyried gan fwrdd y Comisiwn fel rhan o’i broses gwneud penderfyniadau.
  • Mae’r Rheolwr Recriwtio yn cynnal asesiad o sgiliau Cymraeg ar gyfer pob swydd newydd neu swydd wag a chaiff yr asesiad hwnnw ei gyflwyno i’r Prif Weithredwr ar gyfer cymeradwyaeth derfynol. Mae’r Comisiwn yn ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys natur y rôl, capasiti siaradwyr Cymraeg yn y tîm, p’un a yw’r sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu a oes angen eu dysgu ar gyfer pob swydd. Caiff gwybodaeth ei chofnodi at ddibenion archwilio a chofnodi.
  • Fel rhan o’r broses gynefino gyda staff newydd, mae’n ofynnol i Reolwyr drafod gofynion y Safonau ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau corfforaethol eraill.
  • Mae’r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn sicrhau bod cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg a Safonau Digidol sydd hefyd yn cynnwys gofynion o ran y Gymraeg mewn perthynas â’n gwasanaethau digidol ac ar-lein. Caiff materion eu codi a’u trafod gyda’r Prif Weithredwr.
  • Mae gan y Comisiwn dîm system gofnodi penodedig sy’n cofnodi ac yn delio â phob cwyn a dderbynnir ac yn sicrhau yr ymdrinnir â nhw mewn ffordd amserol.
  • Caiff unrhyw risgiau y bydd methiant i gydymffurfio â’r safonau eu codi gyda’n Tîm Gweithredol i’w trafod â’u rheolwyr er mwyn sicrhau bod staff yn deall yr hyn sy’n ofynnol iddyn nhw ei wneud.

Sut mae’r Comisiwn yn hyrwyddo ei wasanaethau Cymraeg

  • Mae’r Comisiwn yn cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg bob blwyddyn, ac rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  • Caiff cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiwn eu gweithredu’n ddwyieithog gyda chefnogaeth y Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu.
  • Mae gwefan y Comisiwn yn darparu dewis iaith i’r defnyddiwr bob tro y bydd yn cyrchu ein gwefan.
  • Mae togl Cymraeg / Saesneg yng nghornel dde uchaf pob tudalen ar ein gwefan yn caniatáu i’r defnyddiwr newid o un iaith i’r llall yn hawdd, ac mae ein gwefan a’n gwybodaeth ar gael yn Gymraeg.
  • Caiff pob un o’n swyddi gwag eu hysbysebu yn Gymraeg a gall ymgeiswyr wneud cais yn Gymraeg os byddant yn dymuno gwneud hynny.
  • Mae’r Comisiwn yn cynnig gwasanaeth ffôn cwbl ddwyieithog ac mae ein gwasanaeth ateb awtomataidd yn cynnig dewis iaith i bob galwr.
  • Bydd aelodau o staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn neu linyn “Iaith Gwaith”.
  • Mae hysbysebion a deunydd hyrwyddo’r Comisiwn yn cael eu llunio’n ddwyieithog a chânt eu cyhoeddi yn unol ag iaith y ffynhonnell cyfryngau.

Sut mae’r Comisiwn yn hyrwyddo ei wasanaethau Cymraeg i staff

  • Caiff staff eu hatgoffa o’r Safonau yn ystod cyfarfodydd tîm a thrafodaethau ynghylch prosiectau.
  • Mae tudalen Gymraeg benodedig ar y fewnrwyd sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer staff.
  • Mae templedi dwyieithog ar gael ar Sharepoint i’r staff eu defnyddio wrth ohebu ag eraill, gan gynnwys paragraff ar ystyriaethau’n ymwneud â gofynion Cymraeg wrth ddrafftio gohebiaeth.
  • Mae templed Microsoft PowerPoint ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod cyflwyniadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
  • Mae polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer staff ar gael yn Gymraeg ar y fewnrwyd.
  • Mae’r weithdrefn gwyno yn cynnwys bod staff yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn ystod y broses.
  • Mae tudalen benodedig ar gyfer hyfforddiant Cymraeg ar y fewnrwyd, sy’n cynnwys gwybodaeth am gyrsiau, sut i archebu lle ar gwrs ac awgrymiadau defnyddiol i ddysgwyr.
  • Rhoddir arian ac amser i ffwrdd o’r gwaith i staff ymgymryd â chyrsiau Cymraeg.
  • Gall staff gael gwybodaeth sydd wedi’i chyfeirio atyn nhw’n bersonol yn Gymraeg.
  • Mae templed o lofnod corfforaethol ar gael i’r holl staff ei ddefnyddio sy’n cynnwys y llinell:
    “Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg, heb i hynny arwain at oedi. Correspondence in Welsh is welcomed, and we will respond in Welsh without it leading to a delay.​”

Amser darllen amcangyfrifedig:

7 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: