Arolygon o Ffiniau Tua'r Môr: Polisi ac Arfer

Hon yw ein dogfen Arolygon o Ffiniau Tua’r Môr: Polisi ac Arfer a luniwyd gan ragweld y bydd prosiectau ynni newydd o fewn dyfroedd tiriogaethol Cymru, sy’n golygu y byddai angen newid ffiniau tua’r môr i’w dod â nhw i mewn i ardaloedd prif gyngor.

Mae’r Comisiwn wedi cynhyrchu’r llyfryn hwn sy’n cadarnhau’r gweithdrefnau a’r fethodoleg yr ydym wedi’u mabwysiadu mewn perthynas ag arolygon o ffiniau tua’r môr y mae’r Comisiwn yn eu cynnal.

Gall y Comisiwn, er mwyn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, gynnal arolygon o ffiniau tua’r môr prif ardaloedd mewn ymateb i gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu o’i ddewis ei hun. Caiff y modd y cynhalia’r Comisiwn arolwg ei ddiffinio gan ddeddfwriaeth a gellir ei arwain gan gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Mae’r ddogfen hon Arolygon o Ffiniau Tua’r Môr: Polisi ac Arfer yn amlinellu polisïau a gweithdrefnau’r Comisiwn a fydd yn cael eu cymhwyso er mwyn bodloni’r rhwymedigaethau fel yr amlinellwyd mewn deddfwriaeth.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil:

Amser darllen amcangyfrifedig:

Rhannwch y post hwn: