Penderfyniadau Presennol

Rhestr gyfunol o benderfyniadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol a fydd mewn grym o 1 Ebrill 2025 ymlaen

Cyflwyniad

Dyma restr o’r holl benderfyniadau y mae’r Panel wedi’u gwneud am gyflogau a lwfansau a fydd ar waith ar gyfer y flwyddyn 2025 i 2026. Mae’r wybodaeth gefndir ynglŷn â’r penderfyniadau hyn i’w gweld yn Adroddiadau Blynyddol y Panel ar gyfer 2022, 2023, 2024 a 2025.

Prif gynghorau

Cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif gynghorau

Penderfynodd y Panel, ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, ei bod yn briodol cadw’r cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Bydd y cyflog sylfaenol yn gyson â thair rhan o bump o ASHE 2023 Cymru gyfan, sef y ffigur diweddaraf sydd ar gael adeg drafftio’r adroddiad hwn. Y ffigur fydd £19,771. (Penderfyniad 1, 2025)

Cyflogau sy’n daladwy i uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol prif gynghorau

Mae’r Panel wedi penderfynu ar uchafswm nifer y cyflogau sy’n daladwy i’r categori hwn o gynghorwyr ym mhob prif gyngor. Caiff hynny ei egluro yn Atodiad 1, sy’n rhestru’r ffigurau diweddaraf.

Cyflogau i uwch-aelodau prif gynghorau

Caiff y cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol prif gynghorau eu hegluro yn Atodiad 2 (Penderfyniad 2, 2025). Felly, cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £74,141. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill drwy gyfeirio at y cyflog hwn.

Cyfyngiadau ar gydnabyddiaeth ariannol uwch-swyddi

Swyddi yn y prif gyngor (Penderfyniad 7, 2022):

  • Ni ddylai aelod etholedig gael cydnabyddiaeth ariannol am fwy nag un uwch-swydd o fewn ei awdurdod.
  • Ni ddylid talu uwch-gyflog a chyflog dinesig i aelod etholedig.
  • Mae’r cyflog sylfaenol wedi’i gynnwys ym mhob uwch-gyflog a chyflog dinesig a delir.
  • Os yw cyngor yn dewis bod â mwy nag un dirprwy arweinydd sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol, dylid rhannu’r gwahaniaeth rhwng uwch-gyflog y dirprwy arweinydd ac aelodau gweithredol eraill â nifer y dirprwy arweinwyr, a’i ychwanegu at yr uwch-gyflog ar gyfer aelodau gweithredol eraill er mwyn cyfrifo’r uwch-gyflog sy’n daladwy i bob dirprwy arweinydd.

Cyfyngiadau ar dalu am swyddi y tu allan i’r prif gyngor

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gael cyflog gan unrhyw Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Awdurdod Tân ac Achub y maent wedi’u penodi iddo.

Maent yn gymwys o hyd i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu’r Awdurdod Tân ac Achub. (Penderfyniad 8, 2022)

Ni all aelodau sy’n cael cyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gael unrhyw dâl gan gyngor cymuned neu dref y maent yn aelod ohono. Maent yn gymwys o hyd i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan y cyngor cymuned neu’r cyngor tref. Pan fo’r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 9, 2022)

Cefnogi aelodau etholedig prif gynghorau

Rhaid i bob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fod ei holl aelodau etholedig yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai pob aelod etholedig gael cyfleusterau ffôn, e-bost a rhyngrwyd digonol i’w galluogi i gael mynediad electronig at wybodaeth briodol. (Penderfyniad 10, 2022)

Dylid rhoi cymorth o’r fath heb gostau i’r aelod unigol. Ni ddylai’r priod awdurdod ddidynnu symiau o gyflogau aelodau fel cyfraniad tuag at gostau’r cymorth y mae’r awdurdod wedi penderfynu ei fod yn angenrheidiol ar gyfer effeithlonrwydd a/neu effeithiolrwydd aelodau. (Penderfyniad 11, 2022)

Uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol a chynorthwywyr y weithrediaeth

Gall prif gynghorau wneud cais am uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol nad ydynt yn syrthio o fewn y Fframwaith presennol. (Penderfyniad 12, 2022)

Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos ar yr uwch-gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer cynorthwywyr y weithrediaeth. (Penderfyniad 13, 2022)

Cyhoeddwyd canllawiau i awdurdodau lleol ar y broses gwneud cais ym mis Ebrill 2014.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Bydd yr hawl i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gymwys i holl aelodau etholedig cymwys prif gynghorau. (Penderfyniad 16, 2022)

Darpariaethau absenoldeb teuluol i aelodau etholedig prif gynghorau

Yn yr adran hon, mae “absenoldeb teuluol” yn cyfeirio at absenoldeb mamolaeth, absenoldeb newydd-anedig, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant o fusnes swyddogol.

Mae gan aelod etholedig hawl i gadw cyflog sylfaenol wrth gymryd absenoldeb teuluol dan y rheoliadau gwreiddiol neu unrhyw ddiwygiad i’r rheoliadau, ni waeth beth oedd ei hanes o ran presenoldeb yn union cyn dechrau’r absenoldeb teuluol. (Penderfyniad 17, 2022)

Pan fo deiliad uwch-gyflog yn gymwys i gael absenoldeb teuluol, bydd yn dal i gael y cyflog tra pery’r absenoldeb. (Penderfyniad 18, 2022)

Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol. Bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo ar ran deiliad uwch-gyflog sy’n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i gael uwch-gyflog, os yw’r awdurdod yn penderfynu hynny. (Penderfyniad 19, 2022)

Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo yn golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i uchafswm nifer yr uwch-gyflogau sy’n berthnasol iddo, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol y Panel, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod nifer yr uwch-gyflogau’n uwch na hanner cant y cant o aelodaeth y Cyngor. Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth benodol gan Weinidogion Cymru dan amgylchiadau o’r fath. (Penderfyniad 20, 2022)

Cafodd Cyngor Sir Ynys Môn ei gynnwys ym Mhenderfyniad 20, 2022 ond, o ganlyniad i newidiadau dilynol i nifer cynghorwyr Cyngor Sir Ynys Môn, nid oedd angen ei gynnwys yn yr eithriad hwn.

Pan fo Cyngor yn cytuno i dalu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo yn ystod absenoldeb teuluol, rhaid hysbysu’r Panel, o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd y trefniant dirprwyo. (Penderfyniad 21, 2022)

Rhaid diwygio rhestr cydnabyddiaeth ariannol y Cyngor i adlewyrchu goblygiadau’r absenoldeb teuluol. (Penderfyniad 22, 2022)

Taliadau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer deiliaid uwch-gyflogau mewn prif gynghorau

Mae fframwaith y Panel yn darparu trefniadau ar gyfer absenoldeb hirdymor oherwydd salwch unrhyw ddeiliad uwch-gyflog. Nodir y trefniadau hyn yn Atodiad 4.

Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £9,886. (Penderfyniad 3, 2025)

Cyflog is-gadeirydd fydd £4,943. (Penderfyniad 3, 2025)

Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 Gyd-bwyllgorau Corfforedig sy’n cynnwys grwpiau o brif gynghorau. Mae gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig swyddogaethau penodol sydd wedi’u nodi mewn rheoliadau. Mae paragraff 4 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) yn berthnasol i’r Panel.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi’i ddiwygio i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel awdurdodau perthnasol ar gyfer swyddogaethau’r Panel. Felly, bydd yn rhaid i unrhyw daliadau a wneir i aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig gael eu pennu gan y Panel.

Mae talu cyfraniad at gostau gofal a theithio a chynhaliaeth ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Chyd-bwyllgorau Corfforedig wedi bod yn berthnasol i holl aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig ers 2022.

Ymdrinnir â thaliadau i aelodau lleyg cyfetholedig Cyd-bwyllgorau Corfforedig isod o dan y pennawd ‘Aelodau cyfetholedig prif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub ac aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig’.

Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub

Cynyddwyd cyflog aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yn unol ag ASHE. Caiff yr holl daliadau eu nodi yn y tabl canlynol. (Penderfyniad 4, 2025)

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Swm

Cyflog sylfaenol i aelod cyffredin £5,576

Cadeirydd £15,462

Dirprwy Gadeirydd (os penodir un) £9,531

Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall £9,531

Awdurdodau Tân ac Achub Swm

Cyflog sylfaenol i aelod cyffredin £2,788

Cadeirydd £12,674

Dirprwy Gadeirydd (os penodir un) £6,743

Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall £6,743

Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan Awdurdod Parc Cenedlaethol. (Penderfyniad 27, 2022)

Caiff uwch-gyflog Awdurdod Parc Cenedlaethol ei dalu gan gynnwys cyflog sylfaenol Awdurdod Parc Cenedlaethol. (Penderfyniad 28, 2022)

Ni chaiff aelodau prif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw Awdurdod Parc Cenedlaethol y maent wedi’u penodi iddo. Pan fo’r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 29, 2022)

Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan Awdurdod Tân ac Achub. (Penderfyniad 34, 2022)

Caiff uwch-gyflog Awdurdod Tân ac Achub ei dalu gan gynnwys cyflog sylfaenol Awdurdod Tân ac Achub a rhaid iddo adlewyrchu cyfrifoldeb sylweddol a pharhaus. (Penderfyniad 35, 2022)

Ni chaiff aelodau prif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw Awdurdod Tân ac Achub y maent wedi’u henwebu iddo. Pan fo’r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 36, 2022)

Aelodau cyfetholedig prif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub ac aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Rhaid i brif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub dalu ffioedd ar y cyfraddau isod i’w haelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio. (Penderfyniad 37, 2022)

Bydd pob penderfyniad yn yr adran hon, sy’n ymwneud ag aelodau cyfetholedig, yn berthnasol i’r un graddau i aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig sydd â hawliau pleidleisio o 31 Gorffennaf 2024 ymlaen. (Adolygiad o dâl i aelodau lleyg ar gyd-bwyllgorau corfforedig - adroddiad atodol 2024).

Rhaid i’r swyddog priodol yn yr awdurdod nodi ymlaen llaw a yw cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn neu hanner diwrnod. Pan fydd cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn, fe delir y ffi ar sail hynny, hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn gorffen o fewn pedair awr. (Penderfyniad 40, 2022)

Mae’r Panel wedi penderfynu y dylai fod hyblygrwydd lleol i’r swyddog priodol benderfynu pryd y bydd yn briodol defnyddio cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae’n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr. Nodir y symiau ym Mhenderfyniadau 5 a 6, 2025.

Ffïoedd ar gyfer aelodau cyfetholedig ac aelodau lleyg (sydd â hawliau pleidleisio)

Rôl

Taliad gan ddefnyddio cyfradd yr awr

Cyfradd taliadau am hyd at 4 awr

Cyfradd taliadau am 4 awr a throsodd

Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau ac Archwilio a chadeiryddion lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig

£33.50

£134

£268

Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref, ac aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig sydd â hawliau pleidleisio

£29.75

£119

£238

Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu Addysg; Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anhrefn a Phwyllgor Archwilio

£26.25

£105

£210

Cynghorwyr Cymuned a Thref sy’n aelodau o Bwyllgorau Safonau Prif Gynghorau

£26.25

£105

£210

Gellir cynnwys amser teithio i’r cyfarfod ac oddi yno yn yr hawliadau am daliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol). (Penderfyniad 39, 2022)

Rhaid talu ffïoedd am gyfarfodydd a gweithgareddau eraill gan gynnwys pwyllgorau a gweithgorau eraill (gan gynnwys grwpiau gorchwyl a gorffen), cyfarfodydd rhagarweiniol gyda swyddogion, hyfforddiant a phresenoldeb mewn cynadleddau neu unrhyw gyfarfod ffurfiol arall y gofynnir i aelodau cyfetholedig ei fynychu. (Penderfyniad 41, 2022)

Mae amser rhesymol i baratoi cyn cyfarfodydd i’w gynnwys mewn hawliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig; gall y swyddog priodol benderfynu cyn y cyfarfod faint o amser a ganiateir i baratoi. (Penderfyniad 5, 2023).

Dylai pob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu bwyllgor priodol arall, fod ei holl aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai cymorth o’r fath fod heb gostau i’r aelod unigol. (Penderfyniad 42, 2022)

Gall aelodau cyfetholedig a lleyg awdurdodau perthnasol, sydd â hawliau pleidleisio, hefyd hawlio taliadau teithio, cynhaliaeth, gofal a chymorth personol fel y’u nodir yn yr adrannau isod.

Cynghorau cymuned a thref

Bydd aelodau o gynghorau cymuned a thref yn cael taliad o £156 y flwyddyn (sy’n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at y treuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (sy’n cynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref.

Mae’n rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i’w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall ei gwneud yn bosibl i’w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost nwyddau traul swyddfa. (Penderfyniad 46, 2023)

Caiff y taliad i aelodau sy’n ymgymryd ag uwch-rôl ei nodi yn Atodiad 3. (Penderfyniad 4, 2023)

Gall cynghorau cymuned a thref dalu iawndal fel a ganlyn am golled ariannol i bob un o’u haelodau, lle mae colled o’r fath wedi cael ei hysgwyddo, o ganlyniad i fod yn bresennol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy (Penderfyniad 8, 2025):-

  • hyd at £63.37 am bob cyfnod nad yw’n fwy na 4 awr
  • hyd at £126.74 am bob cyfnod sy’n fwy na 4 awr ond nad yw’n fwy na 24 awr.

Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans mynychu i’r aelodau, yn amodol ar ofynion ffurfiol a nodir yn y Canllawiau. Ni ddylai swm pob taliad fod yn fwy na £30. Ni fydd gan aelod sy’n cael iawndal am golled ariannol hawl i gael lwfans mynychu ar gyfer yr un digwyddiad. (Penderfyniad 49, 2022)

Gall cynghorau cymuned a thref ddarparu taliad i faer neu gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £1,500. Mae’r taliad hwn yn ychwanegol at y cyfraniad o £156 at gost gweithio gartref a’r swm sefydlog o £52 ar gyfer nwyddau traul swyddfa a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain. (Penderfyniad 50, 2022, fel y’i diweddarwyd gan Adroddiad 2023)

Gall cynghorau cymuned a thref ddarparu taliad i ddirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £500. Mae’r taliad hwn yn ychwanegol at y cyfraniad o £156 at gost gweithio gartref a’r swm sefydlog o £52 ar gyfer nwyddau traul swyddfa a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain. (Penderfyniad 51, 2022, fel y’i diweddarwyd gan Adroddiad 2023)

Mae’r ffordd y cymhwysir y Fframwaith Cydnabyddiaeth Ariannol yn ôl Grŵp perthnasol wedi’i nodi yn Atodiad 3. (Penderfyniad 52, 2022)

Mae’r Panel wedi penderfynu, o fis Medi 2024 ymlaen, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas â’r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen eu dangos yn y datganiadau y mae’n ofynnol i bob cyngor cymuned a thref eu cyflwyno, sef y cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a’r gyfradd benodedig o £52 ar gyfer lwfans nwyddau traul a’r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd. Mae’n golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adroddiadau ynghylch costau lwfansau gofal a chymorth personol. (Penderfyniad 8, 2024)

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gan brif gyngor (hynny yw yr arweinydd, dirprwy arweinydd neu aelod gweithredol) gael unrhyw daliad gan gyngor cymuned neu dref, ac eithrio treuliau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol. (Penderfyniad 53, 2022)

Gall cynghorau cymuned a thref benderfynu ad-dalu costau teithio a/neu gynhaliaeth sy’n gysylltiedig â chyflawni dyletswyddau cymeradwy i’w haelodau. Os bydd yr opsiwn i ad-dalu costau o’r fath wedi’i ddewis, rhaid dilyn y canllawiau ar dreuliau teithio a chynhaliaeth. (Penderfyniadau 46 a 47, 2022)


Treuliau teithio a chynhaliaeth

Nodir isod y cyfraddau ad-dalu costau milltiroedd, costau teithio eraill a chostau cynhaliaeth a all gael eu hawlio gan aelodau prif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub a’u haelodau cyfetholedig, a gan aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig a’u haelodau lleyg.

Gall cynghorau cymuned a thref ddewis ad-dalu costau teithio a/neu gynhaliaeth. Os bydd yr opsiwn i ad-dalu costau o’r fath wedi’i ddewis, rhaid i hyn fod fel y nodir yn y canllawiau ar dreuliau teithio a chynhaliaeth.

Costau milltiroedd

Rhaid i gostau milltiroedd gael eu had-dalu ar gyfraddau cyfredol Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Costau teithio eraill

Ar gyfer pob hawliad arall am gostau teithio, gan gynnwys mewn tacsi os dyma’r unig ddull teithio neu’r dull teithio mwyaf priodol, dim ond y gost wirioneddol a ddangosir ar dderbynebau y dylid ei had-dalu.

Costau cynhaliaeth

Nodir isod y cyfraddau uchaf ar gyfer taliadau cynhaliaeth ar sail hawliadau gyda derbynebau:

  • lwfans o £28 fesul cyfnod o 24 awr ar gyfer prydau bwyd, gan gynnwys brecwast os na chaiff ei ddarparu
  • £200, Llundain dros nos
  • £95, rhywle arall dros nos
  • £30, aros gyda ffrindiau a/neu deulu dros nos.

Taliadau am gostau gofal a chymorth personol

Mae’n rhaid i’r holl awdurdodau perthnasol ddarparu taliad tuag at gostau angenrheidiol gofalu am blant ac oedolion dibynnol (sy’n cynnwys gofal a ddarperir gan ofalwyr ffurfiol ac anffurfiol) a thuag at gostau anghenion o ran cymorth personol fel a ganlyn:

Rhaid i hynny fod am y costau ychwanegol a ysgwyddwyd gan aelodau i’w galluogi i gyflawni busnes swyddogol neu ddyletswyddau cymeradwy. Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir yn gysylltiedig â busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy, fel sy’n briodol. Ni ddylid gwneud taliadau nes bydd derbynebau gan y darparwr gofal wedi’u darparu. (Penderfyniad 43, 2022)

Atodiad 1: Uchafswm nifer y cyflogau sy’n daladwy i’r categori hwn o gynghorwyr ym mhob prif gyngor

Uchafswm yr aelodau cynghorau sy’n gymwys i gael uwch-gyflog

Cyngor

Poblogaeth

Nifer y cynghorwyr

Uchafswm nifer yr uwch-gyflogau sy’n daladwy

Abertawe

Grŵp A

75

19

Caerdydd

Grŵp A

79

19

Rhondda Cynon Taf

Grŵp A

75

19

Bro Morgannwg

Grŵp B

54

18

Caerffili

Grŵp B

69

18

Casnewydd

Grŵp B

51

18

Castell-nedd Port Talbot

Grŵp B

60

18

Conwy

Grŵp B

55

18

Gwynedd

Grŵp B

69

18

Pen-y-bont ar Ogwr

Grŵp B

51

18

Powys

Grŵp B

68

18

Sir Benfro

Grŵp B

60

18

Sir Gaerfyrddin

Grŵp B

75

18

Sir y Fflint

Grŵp B

66

18

Wrecsam

Grŵp B

56

18

Blaenau Gwent

Grŵp C

33

16

Ceredigion

Grŵp C

38

17

Cyngor Sir Ynys Môn

Grŵp C

35

17

Merthyr Tudful

Grŵp C

30

15

Sir Ddinbych

Grŵp C

48

17

Sir Fynwy

Grŵp C

46

17

Torfaen

Grŵp C

40

17

Cynghorau Grŵp A: poblogaeth o fwy na 200,000
Cynghorau Grŵp B: poblogaeth rhwng 100,000 a 200,000
Cynghorau Grŵp C: poblogaeth hyd at 100,000

Atodiad 2: Cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol prif gynghorau


Grŵp A

  • Abertawe
  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf

Cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol prif gynghorau (Grŵp A)

Disgrifiad Swm

Cyflog sylfaenol £19,771

Band 1, arweinydd £74,141

Band 1, dirprwy arweinydd £51,899

Band 2, aelodau gweithredol £44,485

Band 3, cadeiryddion pwyllgorau (os y’u telir) £29,657

Band 4, arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf £29,657

Band 5, arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y’i telir) £23,726
a dirprwy bennaeth dinesig

Pennaeth dinesig (os y’i telir) £29,657

Dirprwy bennaeth dinesig (os y’i telir) £23,726

Aelod llywyddol (os y’i telir) £29,657

Dirprwy aelod llywyddol (sylfaenol yn unig) £19,771


Grŵp B

  • Bro Morgannwg
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol prif gynghorau (Grŵp B)

Disgrifiad Swm

Cyflog sylfaenol £19,771

Band 1, arweinydd £66,727

Band 1, dirprwy arweinydd £46,709

Band 2, aelodau gweithredol £40,036

Band 3, cadeiryddion pwyllgorau (os y’u telir) £29,657

Band 4, arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf £29,657

Band 5, arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y’i telir) £23,726
a dirprwy bennaeth dinesig

Pennaeth dinesig (os y’i telir) £29,657

Dirprwy bennaeth dinesig (os y’i telir) £23,726

Aelod llywyddol (os y’i telir) £29,657

Dirprwy aelod llywyddol (sylfaenol yn unig) £19,771

Grŵp C

  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Torfaen
  • Ynys Môn


Cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol prif gynghorau (Grŵp C)

Disgrifiad Swm

Cyflog sylfaenol £19,771

Band 1, arweinydd £63,020

Band 1, dirprwy arweinydd £44,114

Band 2, aelodau gweithredol £37,812

Band 3, cadeiryddion pwyllgorau (os y’u telir) £29,657

Band 4, arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf £29,657

Band 5, arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y’i telir) £23,726
a dirprwy bennaeth dinesig

Pennaeth dinesig (os y’i telir) £29,657

Dirprwy bennaeth dinesig (os y’i telir) £23,726

Aelod llywyddol (os y’i telir) £29,657

Dirprwy aelod llywyddol (sylfaenol yn unig) £19,771

Atodiad 3: Taliad costau ychwanegol (fesul grŵp) sy’n orfodol i holl aelodau cynghorau cymuned a thref

Taliadau i gynghorau cymuned a thref

Math o daliad

Grŵp

Gofyniad

Taliad costau ychwanegol

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Gorfodol i bob aelod

Uwch-rôl

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

£500 gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at saith aelod

Maer neu gadeirydd

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans mynychu

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Dewisol

Colled ariannol

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Dewisol

Costau gofal neu gymorth personol

1 (Dros 14,000 o etholwyr)

Gorfodol

Taliad costau ychwanegol

2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)

Gorfodol i bob aelod

Uwch-rôl

2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)

Gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at bum aelod

Maer neu gadeirydd

2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd

2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans mynychu

2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)

Dewisol

Colled ariannol

2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)

Dewisol

Costau gofal neu gymorth personol

2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)

Gorfodol

Taliad costau ychwanegol

3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)

Gorfodol i bob aelod

Uwch-rôl

3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)

Dewisol i hyd at dri aelod

Maer neu gadeirydd

3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd

3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans mynychu

3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)

Dewisol

Colled ariannol

3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)

Dewisol

Costau gofal neu gymorth personol

3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)

Gorfodol

Taliad costau ychwanegol

4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)

Gorfodol i bob aelod

Uwch-rôl

4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)

Dewisol i hyd at dri aelod

Maer neu gadeirydd

4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd

4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans mynychu

4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)

Dewisol

Colled ariannol

4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)

Dewisol

Costau gofal neu gymorth personol

4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)

Gorfodol

Taliad costau ychwanegol

5 (Llai na 1,000 o etholwyr)

Gorfodol i bob aelod

Uwch-rôl

5 (Llai na 1,000 o etholwyr)

Dewisol i hyd at dri aelod

Maer neu gadeirydd

5 (Llai na 1,000 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd

5 (Llai na 1,000 o etholwyr)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans mynychu

5 (Llai na 1,000 o etholwyr)

Dewisol

Colled ariannol

5 (Llai na 1,000 o etholwyr)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

5 (Llai na 1,000 o etholwyr)

Dewisol

Costau gofal neu gymorth personol

5 (Llai na 1,000 o etholwyr)

Gorfodol

Atodiad 4: Taliadau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer deiliaid uwch-gyflogau mewn prif gynghorau

Mae fframwaith y Panel yn darparu trefniadau fel a ganlyn ar gyfer absenoldeb hirdymor oherwydd salwch unrhyw ddeiliad uwch-gyflogau:

  • Caiff salwch hirdymor ei ddiffinio fel absenoldebau ardystiedig y tu hwnt i 4 wythnos.
  • Uchafswm hyd absenoldeb oherwydd salwch yn y cynigion hyn yw 26 wythnos neu nes bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, pa un bynnag sydd gyntaf (ond os bydd yn cael ei ailbenodi bydd unrhyw ran o’r 26 wythnos sy’n weddill yn cael ei chynnwys).
  • O fewn y terfynau hyn gall deiliad uwch-gyflog sydd ar absenoldeb hirdymor oherwydd salwch barhau i gael cydnabyddiaeth ariannol am y swydd a ddelir os yw’r awdurdod yn penderfynu hynny.
  • Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol ond bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo yn gymwys i gael yr uwch-gyflog sy’n briodol i’r swydd.
  • Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo yn golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i uchafswm nifer yr uwch-gyflogau sy’n daladwy ar gyfer yr awdurdod hwnnw, fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. (Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod mwy na 50% o’r aelodaeth yn cael uwch-gyflog. Ni fyddai'n berthnasol ychwaith mewn perthynas ag aelod o weithrediaeth cyngor pe bai’n golygu bod y cabinet yn mynd y tu hwnt i 10 swydd, sef yr uchafswm statudol.)
  • Pan fo awdurdod yn cytuno i dalu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo, rhaid hysbysu’r Panel, o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd disgwyliedig y trefniant dirprwyo. Rhaid diwygio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol yr awdurdodau yn unol â hynny.
  • Nid yw’n berthnasol i aelodau etholedig prif gynghorau nad ydynt yn ddeiliaid uwch-swyddi gan eu bod yn parhau i gael cyflog sylfaenol am o leiaf chwe mis, ni waeth beth fo’u presenoldeb, a mater i’r awdurdod yw unrhyw estyniad y tu hwnt i’r amserlen hon.