Arolygon y Senedd

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ('y Comisiwn') yn gorff cyhoeddus anadrannol annibynnol a diduedd.

Rydym yn gyfrifol am adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd yng Nghymru ar sail rheolau a osodwyd gan y Senedd.

Ar hyn o bryd mae’n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad ffurfiol erbyn 1 Ebrill 2025 yn seiliedig ar reolau a nodir yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.

Bydd hyn yn golygu newid sylweddol yn etholaethau presennol y Senedd ledled Cymru.

Er mwyn paratoi ein hadroddiad byddwn yn cynnal proses adolygu. Cyfeiriwn at y broses hon fel Arolwg 2026.

Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi cynigion cychwynnol sy’n nodi’r 16 etholaeth newydd yn y Senedd y credwn eu bod yn briodol gydag enwau Cymraeg a Saesneg neu, lle bo’n briodol, enw un iaith, yn ogystal â dynodiad ar gyfer pob etholaeth ledled Cymru fel unai etholaeth sir neu etholaeth fwrdeistref.

Bydd yr etholaethau hyn yn cael eu ffurfio drwy gyfuno 2 etholaeth senedd San Steffan gyfagos.

Yna byddwn yn ystyried sylwadau ysgrifenedig gan y cyhoedd ar ein cynigion yn ystod cyfnod ymgynghori o bedair wythnos.

Ar ôl ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd os yn briodol, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi set ddiwygiedig o gynigion.

Bydd y rhain hefyd yn destun cyfnod ymgynghori ysgrifenedig o bedair wythnos.

Ar ôl ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnodau ymgynghori, bydd y Comisiwn wedyn yn paratoi penderfyniadau i’w cynnwys yn ein hadroddiad terfynol a fydd yn cael ei baratoi ar gyfer y Senedd.

Bydd yr penderfyniadau yn ein hadroddiad yn cael eu rhoi ar waith drwy broses ddilynol yn y Senedd.