Arolygon Etholiadol
Bydd rhaglen bresennol yr arolygon etholiadol yn anelu at gyflwyno argymhellion ar gyfer pob un o’r 22 o ardaloedd y prif gynghorau i Lywodraeth Cymru er mwyn gweithredu’r rhain, â neu heb ddiwygiad, erbyn etholiadau llywodraeth leol 2022.
Nod arolwg etholiadol yw sicrhau, o fewn pob ardal awdurdod lleol, bod trefniadau etholiadol yn ceisio cyflawni cydraddoldeb. Trwy ddefnyddio strwythur cymunedol presennol awdurdod lleol, bydd arolwg etholiadol yn ystyried hunaniaeth gymunedol, cydraddoldeb etholiadol ac adborth o ymgynghoriadau er mwyn sicrhau bod ein cynigion yn cynnal buddion llywodraeth leol effeithiol a chyfleus ar gyfer etholwyr Cymru.
Mae’r Comisiwn wedi cynhyrchu dogfen Polisi ac Arfer i helpu i esbonio sut caiff proses yr arolygon etholiadol ei rhoi ar waith. Mae’r ddogfen yn cwmpasu beth mae’r gyfraith yn ei ddweud y mae’n rhaid i’r Comisiwn ei wneud fel rhan o’r broses, a materion lle mae’r Comisiwn wedi penderfynu – fel mater o bolisi o fewn ei ddisgresiwn ei hun – meithrin ymagwedd benodol.
Yn y ddogfen Polisi ac Arfer, mae’r Comisiwn wedi amlinellu rhaglen yr arolygon ar gyfer y 22 awdurdod a’r polisi ar Faint Cynghorau, felly nifer briodol y cynghorwyr ar gyfer pob awdurdod.
Mae’r Comisiwn yn gobeithio, trwy egluro’r broses a’r polisïau fel hyn, bydd y canllaw yn annog y rheiny sy’n ystyried lleisio eu barn ac yn helpu i sicrhau bod y rheiny sy’n dymuno lleisio barn yn gallu gwneud hynny mewn ffordd hyddysg ac effeithiol.
Mae dogfennau all weddol sy'n perthyn i'r rhaglen bresennol o arolygon etholiadol ar gael i'w lawrlwtho yma. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Polisi ac Arfer CFfDLC.
- Ein Rhaglen Arolygon Etholiadol 2017-2021.
- Polisi ar Faint Cynghorau.
Lawrlwytho Dogfen
-
Maint ffeil: 765.77 KB
-
Maint ffeil: 19.45 KB
-
Maint ffeil: 284.56 KB