Ffiniau Tua'r Môr Bae Abertawe

Ffiniau Tua'r Môr Bae Abertawe


Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal arolwg o Ffiniau Tua’r Môr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Cyngor Dinas a Sir Abertawe.

Penderfynodd y Comisiwn gynnal yr arolwg hwn yn dilyn cais gan Tidal Lagoon Swansea Bay PLC i ymestyn ffiniau tua’r môr Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe. Bydd hyn yn caniatáu'r Awdurdodau Lleol i fonitro, rheoleiddio ac (yn ôl yr angen) cynnal gweithgareddau gorfodi yn ymwneud ag adeiladu a gweithredu Prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Mae’r cynnig a gyflwynwyd i’r Comisiwn ar gyfer estyniad cychwynnol i’r ffiniau tua’r môr i gwmpasu cyfnod adeiladu’r prosiect. Wedi i’r gwaith adeiladu ddod i ben, caiff y ffin ei hadlinio i gwmpasu maint gweithredol y morlyn llanw.

Mae'r Comisiwn nawr yn gofyn am farnau ar y cynigion ffiniau drafft sy'n cael eu hargymell yn eu adroddiad. Pan fydd wedi derbyn y barnau hyn, bydd y Comisiwn yn ystyried y cynrychiolaethau ac yn gwneud cynigion terfynol i Lywodraeth Cymru.

Mae’r Comisiwn yn croesawu cynrychiolaethau’n seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau sy’n berthnasol i’r cynigion sy’n cael eu hystyried. Ni wnaiff y Comisiwn ystyried cynrychiolaethau, neu rannau o gynrychiolaethau, sy’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r datblygiadau arfaethedig eu hunain. Nid oes a wnelo arolwg y Comisiwn â rhinweddau, neu beidio, datblygiad arfaethedig. Rôl y Comisiwn yn syml yw ymestyn ffiniau i mewn i’r môr er mwyn hwyluso pŵer prif awdurdod i ystyried cynigion.

Mae'r cfnod ymgynghori 9 wythnos yn dechrau ar 20 Mehefin 2017 ac yn cau ar 21 Awst 2017. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn paratoi Adroddiad ar y Cynigion Terfynol.

Mae fersiynau wedi'u hargraffu o'r adroddiadau (gyda mapiau) ar gael ar gais drwy gysylltu a'r Comisiwn.

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 4.55 MB
  2. Maint ffeil: 1.47 MB
  3. Maint ffeil: 1.31 MB
  4. Maint ffeil: 2.19 MB
  5. Maint ffeil: 3.02 MB
  6. Maint ffeil: 1.44 MB

Amser darllen amcangyfrifedig:

Rhannwch y post hwn: