Arolwg 2026: Cynigion Cychwynnol

Porth Ymgynghori

Cliciwch yma i weld y map rhyngweithiol a gwneud sylwadau ar y porth ymgynghori.

Cynigion Cychwynnol

Rhagair

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (‘y Comisiwn’) yn gyfrifol am adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys cynigion cychwynnol y Comisiwn ar gyfer etholaethau’r Senedd yng Nghymru. Dyma ddechrau proses adolygu’r Comisiwn, nid ei diwedd. Dyma ein safbwyntiau cychwynnol. Yn ystod ein proses adolygu, rydym yn edrych ymlaen at glywed gan bobl Cymru ynghylch sut y gallai’r cynigion hyn gael eu diwygio a’u newid.

Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fil i ddiwygio etholaethau’r Senedd. Cafodd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei gyflwyno ar 18 Medi 2023, a chafodd gydsyniad brenhinol ar 24 Mehefin 2024. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd yn rhaid i’r Comisiwn ddychwelyd 16 o etholaethau’r Senedd, a ffurfir drwy gyfuno 2 o etholaethau seneddol y DU sy’n gyffiniol. Bydd pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan 6 Aelod o’r Senedd, a fydd yn dod â chyfanswm nifer yr aelodau i 96.

Rhaid i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn 1 Ebrill 2025, a bydd yn defnyddio 32 etholaeth seneddol newydd y DU i greu 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd. Bydd argymhellion y Comisiwn yn cael eu gweithredu gan y rheol ‘awtomatigrwydd’. Felly, ni fydd angen i’r argymhellion gael eu cymeradwyo gan y Senedd. Rhaid i’r penderfyniadau terfynol gael eu gweithredu fel y byddant wedi’u nodi yn adroddiad terfynol y Comisiwn.

Mae’r Comisiwn yn dechrau ar ei ymgynghoriad cychwynnol yn awr. Gall aelodau’r cyhoedd, grwpiau a sefydliadau gyflwyno ymatebion ysgrifenedig i’r cynigion cychwynnol a ddisgrifir yn y ddogfen hon o 3 Medi 2024 tan 30 Medi 2024.

Bydd y Comisiwn yn ystyried yn ofalus bob un o’r sylwadau a fydd yn dod i law, er mwyn gweld a ellir diwygio a gwella’r cynigion cychwynnol. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i’r Comisiwn gydbwyso’r materion a godir mewn sylwadau â’r holl ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried, yn ogystal â’r cyfyngiadau a nodir yn y ddeddfwriaeth.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r Comisiynwyr –Dianne Bevan, Frank Cuthbert, Michael Imperato a Ginger Wiegand – am eu cyfraniadau amhrisiadwy, a diolch hefyd i Brif Weithredwr a swyddogion eraill y Comisiwn am eu cymorth gyda’n gwaith.

Bev Smith

Beverley Smith

Cadeirydd

Pennod 1: Cyflwyniad

1. Ar 18 Gorffennaf 2024, cyhoeddodd y Comisiwn ddechrau adolygiad 2026 o etholaethau’r Senedd, yn unol â darpariaethau Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Mae crynodeb o’r fframwaith statudol perthnasol a dull cyffredinol y Comisiwn o ymdrin â’r adolygiad i’w weld mewn canllaw gan y Comisiwn, sef ‘Canllaw i Arolwg 2026’, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan y Comisiwn.

2. Mae’r Comisiwn yn gorff cyhoeddus anadrannol annibynnol a diduedd sy’n gyfrifol am adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd yng Nghymru. Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Cadeirydd, Beverley Smith, a 4 o gomisiynwyr eraill, sef Frank Cuthbert, Dianne Bevan, Michael Imperato a Ginger Wiegand. Caiff y Comisiwn ei gynorthwyo gan Brif Weithredwr, sef Mrs Shereen Williams MBE OStJ DL, a thîm ysgrifenyddiaeth. Mae’r Cadeirydd a’r Comisiynwyr wedi ystyried ac wedi cymeradwyo’r adroddiad hwn.

3. Mae’r Comisiwn yn cyhoeddi ei gynigion cychwynnol yn awr er mwyn ymgynghori â’r cyhoedd yn eu cylch. Mae’r cynigion hyn yn ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol yn ofalus. Er hynny, pwysleisir mai cynigion dros dro ydynt. Mae’n bwysig iawn bod pawb dan sylw yn cael cyfle’n awr i gyflwyno sylwadau i’r Comisiwn, p’un a ydynt yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r etholaethau a gynigir.

4. Caiff manylion ynghylch pryd a sut y dylid cyflwyno sylwadau eu rhoi yn nes ymlaen yn y ddogfen hon (gweler Pennod 5).

Pennod 2: Meini prawf ar gyfer adolygu etholaethau’r Senedd

Gweithredu darpariaethau Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024

5. Mae’r meini prawf a ddisgrifir yn y bennod hon yn berthnasol i’r adolygiad o etholaethau’r Senedd.

Cylch adolygu

6. Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (‘y ddeddf’) yn datgan bod yn rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad ar adolygiad o’r holl etholaethau yng Nghymru erbyn 1 Ebrill 2025, cyflwyno adroddiad arall erbyn 1 Rhagfyr 2028, a chyflwyno adroddiad bob 8 mlynedd wedi hynny.

Dosbarthiad yr etholaethau

7. Mae’r ddeddf yn datgan y bydd yna nifer benodol o etholaethau, sef 16, ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r ddeddf yn datgan hefyd y dylai’r Comisiwn, ar gyfer adolygiad 2026, baru 32 o etholaethau seneddol y DU sy’n gyffiniol i greu 16 o etholaethau ar gyfer y Senedd (rhaid bod y 2 etholaeth a gyfunir yn cyffwrdd â’i gilydd, h.y. rhaid bod ganddynt ffin a rennir).

Ffactorau statudol

8. Mae Atodlen 2 y ddeddf yn nodi nifer o ffactorau eraill y caiff y Comisiwn eu hystyried wrth iddo ddatblygu cynigion ac argymhellion ynghylch etholaethau’r Senedd. Yn benodol, caiff y Comisiwn ystyried:

  • ffiniau llywodraeth leol a oedd yn bodoli ar ddyddiad yr adolygiad
  • ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd etholaeth a gynigir ar gyfer y Senedd
  • unrhyw glymau lleol a fyddai’n cael eu torri gan y trefniadau paru a gynigir.

Ffiniau llywodraeth leol

9. Mae’r ddeddf yn datgan y caiff y Comisiwn ystyried ‘ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli ar ddyddiad yr adolygiad’ wrth ddatblygu ei gynigion ar gyfer etholaethau’r Senedd. Diffiniad y Comisiwn o ffiniau llywodraeth leol yng Nghymru yw ffiniau siroedd, bwrdeistrefi sirol, wardiau etholiadol, cymunedau a wardiau cymunedol. Fodd bynnag, at ddibenion Adolygiad 2026, dim ond etholaethau seneddol y DU sy’n bodoli y mae’r Comisiwn yn ymdrin â nhw.

Ystyriaethau daearyddol arbennig

10. Mae’r Comisiwn o’r farn y bydd yr ystyriaethau daearyddol arbennig a allai effeithio ar ffiniau etholaethau’r Senedd yn ymwneud yn bennaf â daearyddiaeth ffisegol – e.e. mynyddoedd, bryniau, llynnoedd, afonydd, aberoedd ac ynysoedd – yn hytrach na daearyddiaeth ddynol neu gymdeithasol. Mae materion sy’n ymwneud â diwylliant, hanes, economeg gymdeithasol ac agweddau posibl eraill ar ddaearyddiaeth anffisegol (e.e. cysylltiadau ffyrdd) yn fwy tebygol o godi wrth ystyried clymau lleol, sy’n ffactor ar wahân.

Clymau lleol

11. Mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn debygol bod ffiniau cymunedau sy’n bodoli wedi’u creu i gydnabod clymau lleol, a’i bod yn debygol felly eu bod yn adlewyrchu clymau lleol. O ganlyniad, polisi’r Comisiwn wrth ddatblygu cynigion ac argymhellion ar gyfer etholaethau’r Senedd yw peidio â hollti cymunedau sy’n bodoli, oni bai nad oes unrhyw ateb arall ar gael a fyddai’n ei gwneud yn bosibl cydymffurfio â’r amrediad etholwyr statudol. Fodd bynnag, at ddibenion Adolygiad 2026, dim ond etholaethau seneddol y DU sy’n bodoli y bydd y Comisiwn yn gallu eu hystyried.

Ffactorau nad yw’r Comisiwn yn eu hystyried

Effaith ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol

12. Mae’r Comisiwn yn gorff annibynnol a diduedd. Yn ystod adolygiad, felly, ni fydd yn ystyried patrymau pleidleisio sy’n bodoli nac yn ystyried ffawd bosibl ymgeiswyr gwleidyddol.

Enwi a dynodi etholaethau

13. Wrth i’r Comisiwn lunio ei gynigion a’i argymhellion, mae’r ddeddf yn mynnu hefyd ei fod yn nodi enw a dynodiad ar gyfer pob etholaeth a gynigir.

Enwi

14. Mae’r ddeddf yn datgan bod yn rhaid i bob etholaeth yng Nghymru gael un enw uniaith, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hynny’n annerbyniol. Os felly, rhaid iddo gynnig enwau gwahanol at ddibenion cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rhaid, felly, i’r Comisiwn ddarparu opsiynau amgen swyddogol yn Saesneg ar gyfer enwau etholaethau sydd yn Gymraeg, ac i’r gwrthwyneb (os yw’n briodol gwneud hynny). Fel hyn, bydd y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal. Os nad oes modd dod o hyd i unrhyw opsiwn amgen addas, mae’r Comisiwn wedi penderfynu yn y lle cyntaf y bydd etholaethau seneddol y DU yn cael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor gan ddilyn trefn yr enwau Cymraeg. Byddai’r Comisiwn yn croesawu sylwadau sy’n cynnig awgrymiadau amgen i’r enwau a gynigir.

Dynodi

15. Mae’r ddeddf yn mynnu hefyd bod pob etholaeth yn cael ei dynodi’n ‘etholaeth sirol’ neu’n ‘etholaeth fwrdeistrefol’. Os yw etholaethau’n cynnwys mwy nag elfen wledig fach mae’r Comisiwn o’r farn, fel egwyddor gyffredinol, y dylent gael eu dynodi fel rheol yn etholaethau sirol. Mewn achosion eraill, dylent gael eu dynodi’n etholaethau bwrdeistrefol. Caiff y dynodiad ei ychwanegu at enw’r etholaeth, a’i dalfyrru fel rheol: EF ar gyfer etholaeth fwrdeistrefol ac ES ar gyfer etholaeth sirol.

Pennod 3: Etholaethau’r Senedd

16. Mae mapiau manwl o’r etholaethau a gynigir ar gael ar wefan y Comisiwn (nodwch y rhybudd am hawlfraint sydd ym Mhennod 6 ynghylch y mapiau).

17. Tasg y Comisiwn oedd llunio cynigion ar gyfer yr 16 o etholaethau sy’n ofynnol. Mae’r Comisiwn wedi ceisio adnabod yr atebion mwyaf addas i anghenion lleol, ledled Cymru, y gellir darparu ar eu cyfer o fewn y rheolau statudol a eglurir yn y ddeddf. Mae map o etholaethau seneddol y DU yng Nghymru gyfan i’w weld ar y dudalen nesaf.

18. Yn dilyn y map o etholaethau seneddol y DU, gwelir map o’r Cynigion Cychwynnol ar gyfer Cymru gyfan, sy’n egluro cynigion cychwynnol y Comisiwn.

19. Hoffai’r Comisiwn bwysleisio bod y cynigion hyn yn cynrychioli safbwyntiau cychwynnol y Comisiwn. Byddai’r Comisiwn yn croesawu sylwadau gan y cyhoedd. Mae manylion ynghylch sut y dylid ymateb i gynigion y Comisiwn wedi’u nodi ym Mhennod 5.

Pennod 4: Y cynigion yn fanwl

Mae’r bennod hon yn disgrifio cynigion cychwynnol y Comisiwn yn fanwl. Ar gyfer pob etholaeth a gynigir, mae’r adroddiad yn nodi:

  • enw a dynodiad yr etholaeth a gynigir gan y Comisiwn, gan gynnwys yr enw amgen swyddogol a gynigir (os yn berthnasol)
  • prif resymau’r Comisiwn dros gynnig yr etholaeth
  • esboniad o’r enw a gynigir
  • map o’r etholaeth a gynigir.

Mewn rhai achosion, mae tudalen wag wedi’i mewnosod yn fwriadol er mwyn gallu gweld y disgrifiad a’r map ar gyfer pob cynnig ochr yn ochr â’i gilydd.

Mae’r dudalen ganlynol yn cyflwyno darlun cyffredinol o gynigion cychwynnol y Comisiwn. Mae allwedd y mapiau, a ddangosir isod, yn esbonio’r lliwiau a’r llinellau a ddefnyddiwyd ym mhob map yn y bennod hon.

1. Bangor Aberconwy Ynys Môn

1.1 Etholaeth seneddol y DU Bangor Aberconwy,

a:

Etholaeth seneddol y DU Ynys Môn.

1.2 Dim ond cysylltiadau ffyrdd sydd gan etholaeth seneddol y DU Ynys Môn â’r tir mawr, drwy etholaeth seneddol y DU Bangor Aberconwy. Mae’r ddeddf yn datgan bod yn rhaid i’r Comisiwn greu etholaethau sy’n cynnwys dwy etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol. Barn y Comisiwn yw bod cael cysylltiadau cyfathrebu a theithio clir yn rhan hanfodol o allu darparu ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol a chyfleus. Mae’r Comisiwn yn ystyried bod cyfuno’r ardaloedd fel y cynigir yn briodol oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da sydd o fewn yr etholaeth a gynigir. Felly, mae’r cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

1.3 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw uniaith Bangor Aberconwy Ynys Môn i gynrychioli’r etholaeth. Polisi’r Comisiwn yw rhestru enwau etholaethau seneddol y DU yn nhrefn yr wyddor gan ddilyn trefn yr enwau Cymraeg, er mwyn creu enw newydd etholaeth y Senedd. Mae’r Comisiwn yn teimlo ei bod yn briodol cynnig un enw yn yr achos hwn. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol Bangor Aberconwy Ynys Môn.

1.4 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar yr enw a gynigir ar gyfer yr etholaeth.

2. Clwyd

2.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Dwyrain Clwyd,

a:

Etholaeth seneddol y DU Gogledd Clwyd.

2.2 O ganlyniad i’r cynnig i greu etholaeth Bangor Aberconwy Ynys Môn, yr unig etholaeth arall sy’n rhannu ffin ag etholaeth Gogledd Clwyd yw etholaeth Dwyrain Clwyd. Mae’r Comisiwn wedi nodi’n flaenorol ei bolisi ynglŷn â chreu etholaethau’r Senedd sy’n gyfuniad o 2 etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol, felly ni fyddai angen teithio y tu allan i’r etholaeth a gynigir er mwyn cyrraedd rhan arall o’r etholaeth honno. Barn y Comisiwn yw bod cysylltiadau trafnidiaeth yn cysylltu’r ardaloedd hyn yn dda â’i gilydd, a bod yr ardaloedd yn debyg i’w gilydd o ran cymeriad. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

2.3 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw uniaith Clwyd i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw hir a lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol Clwyd.

2.4 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar yr enw a gynigir ar gyfer yr etholaeth.

3. Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam (Alyn, Deeside and Wrexham)

3.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Alun a Glannau Dyfrdwy,

a:

Etholaeth seneddol y DU Wrecsam.

3.2 O ganlyniad i’r cynnig i greu etholaeth Clwyd, yr unig etholaeth arall sy’n rhannu ffin ag etholaeth Alun a Dyfrdwy yw etholaeth Wrecsam. Mae’r Comisiwn wedi nodi’n flaenorol ei bolisi ynglŷn â chreu etholaethau’r Senedd sy’n gyfuniad o 2 etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol, felly ni fyddai angen teithio y tu allan i’r etholaeth a gynigir er mwyn cyrraedd rhan arall o’r etholaeth honno. Barn y Comisiwn yw bod cysylltiadau trafnidiaeth yn cysylltu’r ardaloedd hyn yn dda â’i gilydd, a bod yr ardaloedd yn debyg i’w gilydd o ran cymeriad. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

3.3 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Alyn, Deeside and Wrexham. Polisi’r Comisiwn yw rhestru enwau etholaethau seneddol y DU yn nhrefn yr wyddor gan ddilyn trefn yr enwau Cymraeg, er mwyn creu enw newydd etholaeth y Senedd. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir, ond cynigiodd y dylid defnyddio un sillafiad o Alun.

3.4 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar yr enw a gynigir ar gyfer yr etholaeth.

4. Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr (Dwyfor Meirionnydd, Montgomeryshire and Glyndŵr)

4.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Dwyfor Meirionnydd,

a:

Etholaeth seneddol y DU Maldwyn a Glyndŵr.

4.2 Mae’r Comisiwn yn cynnig cyfuno’r etholaethau hyn. Gwnaeth ystyried opsiwn amgen, sef cyfuno Dwyfor Meirionnydd â Cheredigion Preseli a chyfuno Maldwyn a Glyndŵr ag Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe. Fodd bynnag, roedd y Comisiwn o’r farn y byddai’r opsiwn amgen yn creu 2 etholaeth Senedd a fyddai’n fawr iawn ac yn anhwylus. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd rhesymol rhwng ardaloedd yr etholaeth a gynigir, er enghraifft rhwng Machynlleth a Dolgellau. Er bod y Comisiwn o’r farn nad yw’n ddelfrydol cynnig etholaeth mor fawr, dyma’r opsiwn gorau o safbwynt cynnig cyfuniad o 2 etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol yn yr ardal.

4.3 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Dwyfor Meirionnydd, Montgomeryshire and Glyndŵr. Polisi’r Comisiwn yw rhestru enwau etholaethau seneddol y DU yn nhrefn yr wyddor gan ddilyn trefn yr enwau Cymraeg, er mwyn creu enw newydd etholaeth y Senedd. Fodd bynnag, roedd y Comisiwn yn teimlo ei bod yn briodol hepgor cysylltair yn yr achos hwn. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

4.4 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

5. Ceredigion a Sir Benfro (Ceredigion and Pembrokeshire)

5.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Ceredigion Preseli,

a:

Etholaeth seneddol y DU Canol a De Sir Benfro.

5.2 Byddai’r etholaeth a gynigir yn cyfuno ardaloedd prif gynghorau Ceredigion a Sir Benfro yn eu cyfanrwydd mewn 1 etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU dan sylw’n uno Sir Benfro mewn 1 etholaeth ac yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sydd rhwng etholaethau seneddol y DU Ceredigion Preseli a Chanol a De Sir Benfro. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

5.3 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Ceredigion a Sir Benfro i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Ceredigion and Pembrokeshire. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

5.4 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

6. Sir Gaerfyrddin (Carmarthenshire)

6.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Caerfyrddin,

a:

Etholaeth seneddol y DU Llanelli.

6.2 Byddai’r etholaeth a gynigir yn cyfuno ardal prif gyngor Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd mewn 1 etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU dan sylw’n adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sydd o fewn ardal y prif gyngor. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

6.3 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Sir Gaerfyrddin i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Carmarthenshire. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen gan fod ardal y prif gyngor, sef Sir Gaerfyrddin, wedi’i chynnwys yn ei chyfanrwydd yn yr etholaeth a gynigir. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

6.4 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

7. Gorllewin Abertawe a Gŵyr (Swansea West and Gower)

7.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Gŵyr:

a:

Etholaeth seneddol y DU Gorllewin Abertawe.

7.2 Byddai’r etholaeth a gynigir yn cyfuno 2 etholaeth seneddol y DU sy’n perthyn i ardal prif gyngor Abertawe mewn 1 etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU dan sylw’n adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sydd o fewn ardal y prif gyngor. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

7.3 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol Clydach yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021.

7.4 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Gorllewin Abertawe a Gŵyr i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Swansea West and Gower. Polisi’r Comisiwn yw rhestru enwau etholaethau seneddol y DU yn nhrefn yr wyddor gan ddilyn trefn yr enwau Cymraeg, er mwyn creu enw newydd etholaeth y Senedd. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

7.5 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

8. Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe (Brecon, Radnor, Neath and Swansea East)

8.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe,

a:

Etholaeth seneddol y DU Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.

8.2 Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU dan sylw’n uno ardaloedd sy’n rhan o ardal prif gyngor Castell-nedd Port Talbot mewn 1 etholaeth ac yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sy’n bodoli. Roedd etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yn un o’r etholaethau seneddol y DU mwy dadleuol, ac awgrymodd llawer y dylai ardal Cwm Tawe fod wedi’i chynnwys mewn etholaeth seneddol y DU gydag ardaloedd o Gastell-nedd neu Abertawe. Byddai’r cynnig hwn yn golygu bod ardal Cwm Tawe yn cael ei chyfuno ag ardaloedd o Gastell-nedd ac Abertawe. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

8.3 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol Clydach yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Gorllewin Abertawe a Gŵyr, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021.

8.4 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol Cimla a Phelenna yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021.

8.5 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Brecon, Radnor, Neath and Swansea East. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

8.6 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

9. Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr (Aberafan Maesteg, Rhondda and Ogmore)

9.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Aberafan Maesteg,

a:

Etholaeth seneddol y DU Rhondda ac Ogwr.

9.2 Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU dan sylw’n uno ardaloedd sy’n rhan o ardal prif gyngor Pen-y-bont ar Ogwr mewn 1 etholaeth ac yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sy’n bodoli. Mae’r Comisiwn yn credu bod cymunedau Maesteg, Pontycymer ac Ogwr yn y cymoedd yn rhannu’r un ymdeimlad o gymeriad. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

9.3 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol Cimla a Phelenna yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021.

9.4 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol y Pîl, Cynffig a Chefn Cribwr yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Bro Morgannwg a Phen-y-bont, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021.

9.5 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Aberafan Maesteg, Rhondda and Ogmore. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

9.6 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

10. Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd (Merthyr Tydfil, Aberdare and Pontypridd)

10.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Merthyr Tudful ac Aberdâr,

a:

Etholaeth seneddol y DU Pontypridd.

10.2 Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU dan sylw’n uno ardaloedd sy’n rhan o ardal prif gyngor Rhondda Cynon Taf mewn 1 etholaeth ac yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sy’n bodoli. Drwy baru’r etholaethau hyn â’i gilydd, bydd y Comisiwn yn gallu ailuno ardal hanesyddol Cwm Cynon o fewn 1 etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

10.3 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol Gorllewin Pont-y-clun yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Gorllewin Caerdydd, De a Phenarth, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021.

10.4 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Merthyr Tydfil, Aberdare and Pontypridd. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

10.5 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

11. Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili (Blaenau Gwent, Rhymney and Caerphilly)

11.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Blaenau Gwent a Rhymni,

a:

Etholaeth seneddol y DU Caerffili.

11.2 Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU dan sylw’n uno ardaloedd sy’n rhan o ardal prif gyngor Caerffili mewn 1 etholaeth ac yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sy’n bodoli. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

11.3 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol Cefn Fforest a Phengam yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Casnewydd ac Islwyn, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021.

11.4 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Blaenau Gwent, Rhymney and Caerphilly. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

11.5 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

12. Sir Fynwy a Thorfaen (Monmouthshire and Torfaen)

12.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Sir Fynwy,

a:

Etholaeth seneddol y DU Torfaen.

12.2 Byddai’r etholaeth a gynigir yn cyfuno ardaloedd prif gynghorau Sir Fynwy a Thorfaen yn eu cyfanrwydd mewn 1 etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sydd rhwng y 2 ardal. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

12.3 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Sir Fynwy a Thorfaen i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Monmouthshire and Torfaen. Polisi’r Comisiwn yw rhestru enwau etholaethau seneddol y DU yn nhrefn yr wyddor gan ddilyn trefn yr enwau Cymraeg, er mwyn creu enw newydd etholaeth y Senedd. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

12.4 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

13. Casnewydd ac Islwyn (Newport and Islwyn)

13.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Dwyrain Casnewydd,

a:

Etholaeth seneddol y DU Gorllewin Casnewydd ac Islwyn.

13.2 Byddai’r etholaeth a gynigir yn cyfuno ardal prif gyngor Casnewydd yn ei chyfanrwydd mewn 1 etholaeth. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol yn uno Dinas Casnewydd mewn 1 etholaeth ac yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sydd rhwng etholaethau seneddol y DU Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd ac Islwyn. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

13.3 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol Cefn Fforest a Phengam yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021.

13.4 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Casnewydd ac Islwyn i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Newport and Islwyn. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

14. Dwyrain a Gogledd Caerdydd (Cardiff East and North)

14.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Dwyrain Caerdydd,

a:

Etholaeth seneddol y DU Gogledd Caerdydd.

14.2 Byddai’r etholaeth a gynigir yn cyfuno’r 2 etholaeth seneddol y DU sydd yng ngogledd-ddwyrain ardal prif gyngor Caerdydd mewn 1 etholaeth, ac yn cynnwys ward etholiadol Ffynnon Taf o ardal prif gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd a chyfathrebu da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol yn uno 2 o’r 4 etholaeth seneddol y DU sydd yn Ninas Caerdydd mewn 1 etholaeth ac yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sydd yn yr ardal. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

14.3 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Dwyrain a Gogledd Caerdydd i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Cardiff East and North. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

14.4 Byddai’r Comisiwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar y pâr o etholaethau a gynigir ar gyfer yr etholaeth hon ac ar yr enw a gynigir.

15. Gorllewin Caerdydd, De a Phenarth (Cardiff West, South and Penarth)

15.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU De Caerdydd a Phenarth,

a:

Etholaeth seneddol y DU Gorllewin Caerdydd.

15.2 Byddai’r etholaeth a gynigir yn cyfuno’r 2 etholaeth seneddol y DU sydd yn ne-orllewin ardal prif gyngor Caerdydd mewn 1 etholaeth, ac yn cynnwys ardal Pont-y-clun o ardal prif gyngor Rhondda Cynon Taf ac yn cynnwys ardal Penarth o ardal prif gyngor Bro Morgannwg. Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd a chyfathrebu da rhwng yr ardaloedd, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol yn uno 2 o’r 4 etholaeth seneddol y DU sydd yn Ninas Caerdydd mewn 1 etholaeth ac yn adeiladu ar y cysylltiadau wedi’u sefydlu sydd yn yr ardal. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

15.3 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol Gorllewin Pont-y-clun yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021.

15.4 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Gorllewin Caerdydd, De a Phenarth i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Cardiff West, South and Penarth. Mae’r Comisiwn yn credu bod hwn yn enw amgen addas yn lle cyfuno enwau etholaethau seneddol y DU, a fyddai’n creu enw lletchwith yn ddiangen. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw a gynigir.

16. Bro Morgannwg a Phen-y-bont (Vale of Glamorgan and Bridgend)

16.1 Mae’r Comisiwn yn cynnig bod etholaeth sirol yn cael ei chreu o:

Etholaeth seneddol y DU Pen-y-bont ar Ogwr,

a:

Etholaeth seneddol y DU Bro Morgannwg.

16.2 Mae’r Comisiwn o’r farn bod cysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal, ac y byddai’r Comisiwn drwy baru’r 2 etholaeth seneddol y DU sy’n gyffiniol yn uno ardaloedd sy’n rhannu’r un ymdeimlad o gymeriad. Mae’r Comisiwn o’r farn, felly, bod y cyfuniad a gynigir yn creu etholaeth gydlynus.

16.3 Hoffai’r Comisiwn nodi y bydd ward etholiadol y Pîl, Cynffig a Chefn Cribwr yn cael ei hollti rhwng yr etholaeth hon a gynigir ac etholaeth arall a gynigir, sef Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr, o ganlyniad i newidiadau a wnaed yn rhan o Orchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021.

16.4 Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Cymraeg Bro Morgannwg a Phen-y-bont i gynrychioli’r etholaeth. Mae’r Comisiwn wedi cynnig yr enw Saesneg Vale of Glamorgan and Bridgend. Polisi’r Comisiwn yw rhestru enwau etholaethau seneddol y DU yn nhrefn yr wyddor gan ddilyn trefn yr enwau Cymraeg er mwyn creu enw newydd etholaeth y Senedd. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw, ond mae wedi cynnig y dylid defnyddio Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o’r enw Cymraeg.

Pennod 5: Y cyfnod ymgynghori cychwynnol: O 3 Medi 2024 tan 30 Medi 2024

1. Mae’r cynigion a’r mapiau yn yr adroddiad hwn wedi’u cyhoeddi ar wefan y Comisiwn ac ar borth ymgynghori’r Comisiwn.

2. Mae’r Comisiwn yn dechrau’n awr ar ei ymgynghoriad cyntaf ynghylch ei gynigion cychwynnol. Bydd y cyfnod ymgynghori cychwynnol yn dechrau ar 3 Medi 2024 ac yn gorffen ar 30 Medi 2024.

3. Yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol, gall aelodau’r cyhoedd, grwpiau a sefydliadau roi eu safbwyntiau’n ysgrifenedig (‘sylwadau ysgrifenedig’) ar unrhyw un neu bob un o gynigion cychwynnol y Comisiwn. Gellir rhoi sylwadau ysgrifenedig yn Gymraeg neu yn Saesneg, a gellir eu rhoi i’r Comisiwn gan ddefnyddio un o’r ffyrdd canlynol:

4. Bydd y Comisiwn yn cydnabod ei fod wedi cael pob sylw ysgrifenedig a gyflwynir gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau hyn.

5. Mae’r Comisiwn yn gofyn am i bob sylw ysgrifenedig nodi’n glir pa ardal neu ardaloedd o Gymru y mae’n ymwneud â hi/nhw. Mae’r Comisiwn hefyd yn gofyn i unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig nodi’n glir a ydynt yn cymeradwyo neu’n gwrthwynebu cynigion cychwynnol y Comisiwn, ac yn gofyn iddynt roi eu rhesymau dros gymeradwyo neu wrthwynebu’r cynigion.

6. Os bydd unigolion, grwpiau neu sefydliadau’n cyflwyno sylwadau ysgrifenedig sy’n gwrthwynebu cynigion y Comisiwn, mae’r Comisiwn yn argymell y dylai’r sylwadau hynny gynnwys gwrthgynigion. Mae gwrthwynebiad y mae gwrthgynnig ymarferol wedi’i gyflwyno gydag ef yn debygol o gael mwy o ddylanwad na datganiad syml o wrthwynebiad. At hynny, bydd newidiadau mewn 1 etholaeth yn effeithio ar etholaethau eraill. Yn gyffredinol, felly, bydd y Comisiwn yn ystyried bod gwrthgynnig sy’n ymdrin â chyfansoddiad pob etholaeth yr effeithir arni’n fwy argyhoeddiadol na gwrthgynnig sy’n ymdrin â chyfansoddiad 1 etholaeth yn unig, heb ymdrin ag unrhyw ganlyniadau i etholaethau eraill.

7. Hoffai’r Comisiwn bwysleisio bod ei gynigion cychwynnol yn ymwneud ag etholaethau’r Senedd yng Nghymru yn unig. Nid ydynt yn effeithio ar etholaethau seneddol y DU, ac nid ydynt chwaith yn effeithio ar ffiniau, trethi na gwasanaethau prif gynghorau, wardiau etholiadol na chymunedau. Ni fydd y Comisiwn, felly, yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir ar y materion hynny. Yn ogystal, hoffai’r Comisiwn bwysleisio na fydd yn ystyried unrhyw sylwadau, nac unrhyw rannau o sylwadau, sy’n mynegi safbwynt ar ddiwygio’r Senedd gan gynnwys nifer seddi’r Senedd. Mae’r diwygiadau hyn wedi’u pennu gan y Senedd, a chylch gorchwyl y Comisiwn yw cyfuno 2 o etholaethau seneddol y DU i greu etholaethau newydd ar gyfer y Senedd.

8. Ni fydd y Comisiwn yn ystyried sylwadau a fydd yn dod i law y tu allan i’r cyfnod ymgynghori cychwynnol, oni chaiff y sylwadau hynny eu cyflwyno yn ystod camau dilynol adolygiad 2026. Felly, mae’r Comisiwn yn gofyn am i bob sylw ysgrifenedig mewn ymateb i ymgynghoriad cychwynnol y Comisiwn gael ei gyflwyno o fewn y cyfnod o 4 wythnos rhwng 3 Medi 2024 a 30 Medi 2024.

9. Caiff camau dilynol adolygiad 2026 eu disgrifio yng nghanllaw’r Comisiwn, sef ‘Canllaw i Arolwg 2026’, sydd ar gael ar wefan y Comisiwn.

Cyhoeddi sylwadau

10. Mae’r ddeddf yn mynnu bod y Comisiwn yn cyhoeddi’r sylwadau a gaiff yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol (ac yn ystod camau dilynol adolygiad 2026).

11. I ddiogelu preifatrwydd unigolion sy’n cymryd rhan yn adolygiad 2026, bydd y Comisiwn yn mabwysiadu’r dull canlynol o hepgor unrhyw wybodaeth bersonol sydd yn y sylwadau ysgrifenedig a gyhoeddir gan y Comisiwn.

12. Sylwadau gan ffigyrau cyhoeddus a swyddogion (megis cynghorwyr, Aelodau Seneddol neu Aelodau’r Senedd) sy’n gweithredu yn rhinwedd eu swydd:

  • bydd y Comisiwn yn cyhoeddi enw unrhyw ffigwr cyhoeddus neu swyddog sy’n ysgrifennu yn rhinwedd ei swydd
  • fodd bynnag, bydd pob cyfeiriad post ac ebost, rhif ffôn a llofnod yn cael eu hepgor.

13. Sylwadau gan aelodau’r cyhoedd a gan ffigyrau cyhoeddus neu swyddogion sy’n ysgrifennu i fynegi eu safbwyntiau personol:

  • bydd y Comisiwn yn hepgor enw a chyfeiriad post unigolion sy’n cyflwyno sylwadau, ond bydd yn cyhoeddi lleoliad bras cyfeiriad post yr unigolyn – hynny yw, drwy gyfeirio at y pentref, y dref neu’r ddinas a nodwyd
  • bydd pob cyfeiriad ebost, rhif ffôn a llofnod yn cael eu hepgor.

14. Bydd y Comisiwn hefyd yn hepgor unrhyw beth mewn sylw a allai fod yn anghyfreithlon, yn enllibus, neu’n anghyfreithlon ac yn enllibus.

15. Mae ‘Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd’ y Comisiwn yn darparu gwybodaeth am y modd y bydd y Comisiwn yn prosesu data personol unigolion sy’n cymryd rhan yn adolygiad 2026. Gellir gweld y wybodaeth honno ar wefan y Comisiwn.

Y Gymraeg

16. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal, ac mae’n croesawu gohebiaeth yn y naill iaith neu’r llall.

17. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi pob un o’i ddogfennau arweiniad a’i adroddiadau, a’r holl sylwadau a gaiff drwy gydol adolygiad 2026, yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ei wefan.

Pennod 6: Gwybodaeth ychwanegol

Hawlfraint y Goron

18. Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi darparu mapiau manwl dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans. Mae’r mapiau manwl hynny sy’n rhan o’r ddogfen hon yn rhwym wrth (H) Hawlfraint y Goron. Bydd eu hatgynhyrchu heb ganiatâd yn torri hawlfraint y Goron, a gellid erlyn unrhyw un sy’n gwneud hynny neu gellid dwyn achos sifil yn ei erbyn. Dylai unrhyw olygydd papur newydd sydd am ddefnyddio’r mapiau yn rhan o erthygl am y cynigion cychwynnol gysylltu’n gyntaf â Swyddfa Hawlfraint yr Arolwg Ordnans.

Ymholiadau

19. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am gynigion cychwynnol y Comisiwn neu am agweddau eraill ar waith y Comisiwn, cysylltwch â:

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

Ffôn: 029 2046 4819

Ebost: ymholiadau@cdffc.llyw.cymru

Gwefan: www.cdffc.llyw.cymru

Atodiad 1

Cynigion cychwynnol: etholaethau

Enw Cymraeg

Enw Saesneg

Bangor Aberconwy Ynys Môn

Bangor Aberconwy Ynys Môn

Clwyd

Clwyd

Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam

Alyn, Deeside and Wrexham

Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr

Dwyfor Meirionnydd, Montgomeryshire and Glyndŵr

Ceredigion a Sir Benfro

Ceredigion and Pembrokeshire

Sir Gaerfyrddin

Carmarthenshire

Gorllewin Abertawe a Gŵyr

Swansea West and Gower

Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe

Brecon, Radnor, Neath and Swansea East

Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr

Aberafan Maesteg, Rhondda and Ogmore

Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd

Merthyr Tydfil, Aberdare and Pontypridd

Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili

Blaenau Gwent, Rhymney and Caerphilly

Sir Fynwy a Thorfaen

Monmouthshire and Torfaen

Casnewydd ac Islwyn

Newport and Islwyn

Dwyrain a Gogledd Caerdydd

Cardiff East and North

Gorllewin Caerdydd, De a Phenarth

Cardiff West, South and Penarth

Bro Morgannwg a Phen-y-bont

Vale of Glamorgan and Bridgend

(H) Hawlfraint y Goron 2024

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 5.24 MB
  2. Maint ffeil: 1.75 MB

  1. Maint ffeil: 3.04 MB
  2. KML
    Maint ffeil: 12.15 MB

  1. Maint ffeil: 475.04 KB
  2. Maint ffeil: 545.02 KB
  3. Maint ffeil: 462.47 KB
  4. Maint ffeil: 575.8 KB
  5. Maint ffeil: 441.82 KB
  6. Maint ffeil: 558.51 KB
  7. Maint ffeil: 564.8 KB
  8. Maint ffeil: 574.87 KB
  9. Maint ffeil: 338.1 KB
  10. Maint ffeil: 297.73 KB
  11. Maint ffeil: 431.3 KB
  12. Maint ffeil: 511.38 KB
  13. Maint ffeil: 530.73 KB
  14. Maint ffeil: 362.29 KB
  15. Maint ffeil: 325.67 KB
  16. Maint ffeil: 454.18 KB
  17. Maint ffeil: 581.18 KB
  18. Maint ffeil: 447.27 KB

Amser darllen amcangyfrifedig:

38 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: