Canllaw i Arolwg 2026

Hawdd ei Ddeall

Rydym wedi gwneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r ddogfen hon.

Gallwch ddarllen fersiwn Hawdd ei Ddarllen y ddogfen hon drwy glicio yma.

PDF

I weld y ddogfen hon fel PDF, cliciwch yma.


Pennod 1: Cyflwyniad

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

1.1 Corff annibynnol a diduedd a noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (‘y Comisiwn’), a’n haelodaeth bresennol yw:

Cadeirydd

Beverley Smith

Dirprwy Gadeirydd

Michael Imperato

Comisiynwyr

Dianne Bevan

Frank Cuthbert

Ginger Wiegand

Prif Weithredwr

Shereen Williams MBE OStJ DL

1.2 Rydym yn gyfrifol am adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd yng Nghymru ar sail rheolau a osodwyd gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 ac y mae’n ofynnol inni gyflwyno adroddiad ffurfiol gyda’n penderfyniadau terfynol cyn 1 Ebrill 2025.

1.3 Er mwyn paratoi ein hadroddiad byddwn yn cynnal proses adolygu a bydd hyn yn golygu newid sylweddol yn etholaethau presennol y Senedd ledled Cymru. Rydym yn cyfeirio at y broses hon fel 'Arolwg 2026'.

1.4 Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn Arolwg 2026. Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi cynigion cychwynnol yn nodi’r 16 etholaeth newydd yn y Senedd y credwn eu bod yn briodol gydag enwau Cymraeg a Saesneg neu, lle bo’n briodol, un enw, yn ogystal â dynodiad ar gyfer pob etholaeth ledled Cymru naill ai fel etholaeth sirol neu etholaeth fwrdeistrefol. Bydd yr etholaethau hyn yn cael eu ffurfio drwy gyfuno 2 etholaeth seneddol gyffiniol y DU (rhaid i 2 etholaeth fod yn cyffwrdd h.y. yn rhannu ffin). Yna byddwn yn ystyried sylwadau ysgrifenedig gan y cyhoedd am ein cynigion a gaiff eu derbyn yn ystod cyfnod ymgynghori o 4 wythnos. Ar ôl ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, bydd y Comisiwn, os yw'n briodol, yn cyhoeddi cyfres ddiwygiedig o gynigion. Bydd y rhain hefyd yn destun cyfnod ymgynghori ysgrifenedig o 4 wythnos. Ar ôl ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd ar draws y 2 gyfnod ymgynghori, bydd y Comisiwn wedyn yn paratoi adroddiad terfynol. Bydd y penderfyniadau a nodir yn ein hadroddiad terfynol yn cael eu gweithredu drwy broses ddilynol fel sydd wedi’i hamlinellu yn y Ddeddf.

1.5 Rydym wedi cynhyrchu’r canllaw hwn i helpu i egluro’n fanylach sut y bydd y broses ar gyfer Arolwg 2026 yn gweithio. Nid y bwriad yw i’r canllaw hwn fod yn ddatganiad llawn o’r gyfraith ynghylch yr arolwg. Yn hytrach, mae’n ymdrin â’r hyn y mae deddfwriaeth yn ei ddweud y mae’n rhaid i’r Comisiwn ei wneud a’r polisïau y mae’r Comisiwn wedi penderfynu eu mabwysiadu wrth ddatblygu ei gynigion a’i benderfyniadau terfynol.

1.6 Gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn egluro ein prosesau a'n polisïau. Gobeithiwn hefyd y bydd yn annog y rhai a all fod yn ystyried lleisio eu barn i wneud hynny mewn modd gwybodus ac effeithiol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai unigolion ddymuno gofyn cwestiynau a byddem yn gofyn i’r rhain gael eu cyfeirio atom yn:

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

Ffôn: 029 2046 4819

Ffacs: 029 2046 4823

E-bost: ymholiadau@cdffc.llyw.cymru

Gwefan: www.cdffc.llyw.cymru

Byddwn yn diweddaru gwybodaeth ar ein gwefan drwy gydol ein proses adolygu a bydd dogfennau allweddol ar gael drwy'r wefan.

1.7 Hoffem bwysleisio bod yr arolwg hwn yn ymwneud ag etholaethau’r Senedd yn unig ac nad yw’n effeithio ar etholaethau seneddol; ffiniau prif gynghorau, wardiau etholiadol neu gymunedau; trethi; na gwasanaethau.

Pennod 2: Datblygu cynigion – gofynion a pholisi

Gofynion y Ddeddf

2.1 Mae’r Ddeddf yn nodi 3 gofyniad sy’n berthnasol i ddatblygu cynigion ar gyfer etholaethau unigol. Y gofynion hyn yw bod yn rhaid i’r Comisiwn gynnal arolwg i bennu:

  • pa etholaethau seneddol cyffiniol y DU yng Nghymru sydd i'w cyfuno i greu ardaloedd 16 etholaeth y Senedd;
  • enwau etholaethau'r Senedd; ac
  • a yw pob etholaeth yn y Senedd wedi’i dynodi’n etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol. (Ceir rhagor o wybodaeth ym mharagraff 2.13 isod.)

Ffactorau statudol eraill

2.2 Mae’r Ddeddf yn pennu nifer o ffactorau eraill y gallai’r Comisiwn eu hystyried wrth iddo ddatblygu cynigion ac argymhellion ar gyfer etholaethau’r Senedd, yn benodol:

  • ffiniau llywodraeth leol sy'n bodoli ar ddyddiad yr arolwg;
  • ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys, yn benodol, maint, siâp a hygyrchedd etholaeth arfaethedig yn y Senedd;
  • unrhyw gysylltiadau lleol (gan gynnwys cysylltiadau lleol sy'n ymwneud â'r defnydd o'r Gymraeg) a fyddai'n cael eu torri gan y parau arfaethedig.

Ffiniau llywodraeth leol a chysylltiadau lleol

2.3 Gallai’r Comisiwn ystyried ffiniau llywodraeth leol wrth ddatblygu ei gynigion a’i argymhellion ar gyfer etholaethau’r Senedd. Mae'r rhain yn cynnwys ffiniau allanol prif gynghorau, a ffiniau mewnol eu wardiau etholiadol, cymunedau neu wardiau cymunedol. Wedi dweud hynny mae'n rhaid i'r Comisiwn ddefnyddio etholaethau seneddol y DU i greu etholaethau newydd y Senedd. Mae materion yr iaith Gymraeg, diwylliant, hanes, ffactorau economaidd-gymdeithasol, i gyd yn agweddau y gellir eu hystyried o dan ffactor cysylltiadau lleol.

Ystyriaethau daearyddol arbennig

2.4 Mae'r Comisiwn o'r farn y bydd ystyriaethau daearyddol arbennig a allai gael effaith ar ffiniau etholaethau yn ymwneud yn bennaf â daearyddiaeth ffisegol fel mynyddoedd, bryniau, llynnoedd, afonydd, aberoedd ac ynysoedd, yn hytrach na daearyddiaeth ddynol neu gymdeithasol.

2.5 Er y bydd y Comisiwn yn ceisio ystyried ffiniau allanol prif gynghorau cyn belled ag y bo’n ymarferol, yn aml efallai y bydd angen croesi’r ffiniau hyn i ffurfio etholaethau gan ei bod yn ofynnol i’r Comisiwn gyfuno etholaethau seneddol presennol y DU.

2.6 Mae'r Comisiwn o'r farn bod ffiniau cymunedol presennol yn debygol o fod wedi'u creu i gydnabod cysylltiadau lleol ac felly'n debygol o adlewyrchu cysylltiadau lleol. Polisi’r Comisiwn felly yw peidio â rhannu cymunedau presennol pan fydd yn datblygu cynigion ac argymhellion ar gyfer etholaethau’r Senedd, oni bai nad oes ateb arall ar gael.

2.7 Polisi’r Comisiwn yw ystyried yr holl ffactorau sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf cyn belled ag y bo modd.

Ffactorau na fydd y Comisiwn yn eu hystyried

Effaith ar ganlyniadau etholiadau yn y dyfodol

2.8 Mae’r Comisiwn yn gorff annibynnol a diduedd. O’r herwydd, nid yw patrymau pleidleisio presennol a ffawd y pleidiau gwleidyddol yn cael eu hystyried yn ystod arolwg.

Enwi a dynodi etholaethau

2.9 Wrth wneud ei argymhellion, mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn bennu enw a dynodiad ar gyfer pob etholaeth arfaethedig.

Enwi

2.10 Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i bob etholaeth yng Nghymru fod ag un enw, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai gwneud hynny’n annerbyniol, ac os felly rhaid iddynt gynnig enwau gwahanol ar gyfer cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y Comisiwn yn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enwau arfaethedig.

2.11 Ar gyfer ei gynigion cychwynnol, bydd y Comisiwn yn defnyddio enw sy’n adlewyrchu etholaethau seneddol cyffiniol y DU sydd wedi’u cyfuno. Bydd y Comisiwn yn rhestru etholaethau seneddol y DU yn nhrefn yr wyddor (yn seiliedig ar yr iaith Gymraeg) ac yn defnyddio cysylltair fel 'a' os oes angen. Bydd y Comisiwn yn ystyried sylwadau ar enwau fel rhan o Arolwg 2026.

Dynodi

2.13 Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob etholaeth gael ei dynodi naill ai’n etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol. Mae’r Comisiwn yn ystyried, fel egwyddor gyffredinol, lle mae etholaethau’n cynnwys mwy nag elfen wledig fach, y dylent fel arfer gael eu dynodi’n etholaethau sirol. Mewn achosion eraill, dylid eu dynodi'n etholaethau bwrdeistrefol. Mae’r dynodiad yn cael ei ôl-ddodi i enw’r etholaeth ac fel arfer caiff ei dalfyrru: EF ar gyfer etholaeth fwrdeistrefol ac ES ar gyfer etholaeth sirol.

Y Gymraeg

2.14 Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ac mae’n croesawu gohebiaeth yn y naill iaith neu’r llall.

2.15 Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei holl ddogfennau canllaw, adroddiadau a’r sylwadau y mae’n eu derbyn drwy gydol Arolwg 2026 yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ei wefan.

Effaith y ddeddfwriaeth

2.16 Bydd y Ddeddf yn golygu y bydd nifer etholaethau’r Senedd yng Nghymru yn gostwng o 40 i 16, a bydd pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan 6 aelod. Ni fydd yr 20 sedd ranbarthol bresennol y Senedd yn bodoli mwyach. Bydd hyn yn golygu y bydd 96 o aelodau’r Senedd ledled Cymru. Bydd etholaethau newydd y Senedd yn cael eu ffurfio drwy gyfuno ardaloedd 2 etholaeth seneddol gyffiniol y DU. Bydd y canlyniad yn newid sylfaenol i batrwm presennol etholaethau’r Senedd yng Nghymru.

2.17 Mae’r Comisiwn yn dymuno ei gwneud yn glir o’r cychwyn cyntaf nad oes ganddo’r gallu i newid unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth ac felly ni fydd yn gallu ystyried sylwadau ar nifer yr aelodau nac unrhyw ffactorau eraill sydd wedi’u nodi yn y ddeddfwriaeth. Rôl y Comisiwn yw pennu etholaethau newydd y Senedd fel sydd wedi’i nodi yn y ddeddfwriaeth.

Pennod 3: Datblygu cynigion

3.1 Bydd Arolwg 2026 yn dilyn proses fanwl a osodwyd gan y Ddeddf. Mae'r broses honno'n cynnwys datblygu cynigion gan y Comisiwn, ac yna cyfleoedd i unigolion a sefydliadau gyflwyno sylwadau ysgrifenedig.

3.2 Ar ddiwedd y broses, bydd y Comisiwn yn paratoi adroddiad terfynol yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer etholaethau’r Senedd yng Nghymru. Bydd yr argymhellion hynny wedyn yn cael eu gweithredu drwy broses yn y Senedd.

Pwysigrwydd cyfranogiad

3.3 Mae’r Comisiwn yn dymuno annog unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb yn ei gynigion ar gyfer eu hardal i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Comisiwn, boed o blaid neu yn erbyn y cynigion.

3.4 Gofynnir i'r rhai sy'n rhoi eu barn ddweud a ydynt yn cymeradwyo neu'n gwrthwynebu cynigion y Comisiwn. Caiff gwrthwynebwyr eu cynghori’n benodol i ddweud yr hyn y maen nhw’n ei gynnig yn lle cynigion y Comisiwn. Mae gwrthwynebiad ynghyd â gwrthgynnig dichonadwy yn debygol o fod â mwy o ddylanwad na datganiad syml o wrthwynebiad. Yn hyn o beth, bydd gwrthgynnig sy’n mynd i’r afael â chyfansoddiad pob etholaeth mewn ardal yn gyffredinol yn cael ei ystyried yn fwy perswadiol na chynnig ar gyfer cyfansoddiad un etholaeth yn unig nad yw’n mynd i’r afael ag unrhyw sgil-effeithiau ar yr etholaethau eraill.

3.5 Caiff unigolion a sefydliadau eu hannog yn arbennig i gyflwyno sylwadau ar y cam priodol o'r broses statudol. Er enghraifft, efallai y bydd pobl nad ydynt yn cyflwyno sylwadau i gefnogi cynigion cychwynnol y Comisiwn yn gweld bod y Comisiwn wedi hynny, yng ngoleuni gwrthwynebiadau a dderbyniwyd oddi wrth eraill, yn cyhoeddi cynigion diwygiedig neu benderfyniadau terfynol nad ydynt yn eu cefnogi. Mae'n bwysig felly (er enghraifft) bod pobl sy'n cefnogi cynigion cychwynnol y Comisiwn yn dweud hynny yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol (sy’n cael ei ddisgrifio ymhellach isod).

3.6 Bydd cyfranogiad llawn ac amserol yn Arolwg 2026 yn helpu’r Comisiwn i ddeall y farn leol ar ei gynigion yn fwy cywir. Bydd hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd penderfyniadau terfynol y Comisiwn yn gyffredinol dderbyniol i'r mwyafrif o'r rhai a fydd yn gorfod byw a gweithio gyda nhw.

3.7 Os hoffech gael gwybod pryd y bydd y Comisiwn yn cyhoeddi dogfennaeth mewn perthynas ag Arolwg 2026, gallwch gofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan.

Paratoi cynigion cychwynnol

3.8 Ar ddechrau’r broses statudol, bydd y Comisiwn yn paratoi ei gynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau’r Senedd yng Nghymru.

3.9 Bydd y Comisiwn yn datblygu ei gynigion cychwynnol yng ngoleuni'r rheolau a'r ffactorau y cyfeirir atynt ym Mhennod 2 y canllaw hwn. Ni fydd y Comisiwn yn defnyddio un man cychwyn daearyddol wedi’i bennu ymlaen llaw ar gyfer datblygu ei gynigion. Yn hytrach, bydd ystod eang o opsiynau yn cael eu hystyried. Dim ond ar ôl ystyried nifer o gynlluniau etholaethau ar gyfer Cymru gyfan y bydd y Comisiwn yn penderfynu ar gynigion cychwynnol.

Cyhoeddi cynigion cychwynnol

3.10 Pan fydd y Comisiwn wedi penderfynu ar ei gynigion cychwynnol, bydd yn cyhoeddi’r cynigion ac adroddiad ategol ar ei wefan, ynghyd â gwybodaeth fanwl am sut a phryd y gellir cyflwyno barn ar y cynigion hynny.

3.11 Yn ogystal â’r cynigion cychwynnol a’i adroddiad arnynt, bydd y Comisiwn yn darparu mapiau manwl ar ei wefan yn dangos, ymhlith gwybodaeth arall, enw, dynodiad a ffin arfaethedig pob etholaeth arfaethedig, er mwyn helpu’r cyhoedd i ddeall y cynigion yn well.

3.12 Er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r cynigion cychwynnol, bydd y Comisiwn yn cychwyn ar ymarferiad cyhoeddusrwydd sy'n canolbwyntio ar ddod â'r cynigion a'r cyfle i gyflwyno barn ar y cynigion i sylw'r cyhoedd. Bydd y Comisiwn hefyd yn anfon dolenni i’w gynigion drwy e-bost i bartïon â diddordeb.

Cyfnod ymgynghori cychwynnol

3.13 Yn dilyn cyhoeddi cynigion cychwynnol y Comisiwn, bydd cyfnod o 4 wythnos pryd y gellir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Comisiwn mewn perthynas â'r cynigion cychwynnol. Gelwir hyn yn gyfnod ymgynghori cychwynnol.

3.14 Bydd manylion ynghylch sut y gall unigolion a sefydliadau gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol, gan gynnwys y dyddiad olaf ar gyfer derbyn sylwadau, yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r cynigion cychwynnol eu hunain. Mae'n hanfodol bod sylwadau'n cael eu cyflwyno mewn digon o amser i sicrhau eu bod yn cael eu derbyn o fewn y cyfnod ymgynghori cychwynnol.

3.15 Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori cychwynnol, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi’r holl sylwadau y bydd yn eu derbyn yn ystod y cyfnod hwnnw ar ei wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ystyried sylwadau a chynigion diwygiedig

3.16 Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori cychwynnol bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd.

3.17 Bydd y Comisiwn yn ystyried a ddylid ac i ba raddau y dylid diwygio ei gynigion cychwynnol, gan gynnwys enwau etholaethau.

3.18 Os bydd y Comisiwn, yn dilyn ei ystyriaethau, yn penderfynu adolygu ei gynigion cychwynnol, bydd hefyd yn cyhoeddi ei gynigion diwygiedig, ynghyd ag adroddiad ategol, cyn dechrau ail gyfnod ymgynghori o 4 wythnos. Bydd unrhyw gynigion diwygiedig a deunyddiau cysylltiedig yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn. Bydd y Comisiwn hefyd yn anfon dolenni i unrhyw gynigion diwygiedig drwy e-bost i bartïon â diddordeb.

3.19 Gellir cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag unrhyw gynigion diwygiedig yn ystod 4 wythnos yr ail gyfnod ymgynghori.

3.20 Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi'r holl sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd yn ystod yr ail gyfnod ymgynghori mewn perthynas ag unrhyw gynigion diwygiedig yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan y Comisiwn ar yr un pryd ag y bydd yn cyhoeddi ei benderfyniadau terfynol.

Penderfyniadau terfynol ac adroddiad

3.21 Ar ôl diwedd yr ail gyfnod ymgynghori, bydd y Comisiwn yn ystyried pa benderfyniadau terfynol i’w gwneud ar gyfer etholaethau’r Senedd yng Nghymru. Bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau ysgrifenedig a ddaw i law yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol a’r ail gyfnod ymgynghori (gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion diwygiedig a gyhoeddwyd gan y Comisiwn cyn yr ail gyfnod ymgynghori).

3.22 Unwaith y bydd y Comisiwn wedi gwneud ei benderfyniadau terfynol ar gyfer Cymru, bydd wedyn yn paratoi ac yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig ffurfiol i Weinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2025. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan y Comisiwn ar ei wefan. Bydd y Comisiwn hefyd yn anfon dolenni i’w benderfyniadau drwy e-bost i bartïon â diddordeb. Bydd yr adroddiad yn cynnwys disgrifiad o arolwg y Comisiwn, disgrifiad o benderfyniadau terfynol y Comisiwn gan gynnwys enwau a dynodiadau pob un o'r etholaethau, a chyfres o fapiau i ddangos ffiniau'r etholaethau.

3.23 Bydd cyflwyno'r adroddiad terfynol ffurfiol yn cloi rôl y Comisiwn yn y broses adolygu. Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw’r weithdrefn ar gyfer gweithredu etholaethau ac mae wedi’i nodi yn y Ddeddf.

Pennod 4: Cyhoeddusrwydd

Cyhoeddusrwydd i’r arolwg

4.1 Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i hysbysu unrhyw berson y mae’n ei ystyried yn briodol sut i gael mynediad at ei adroddiadau, gwahodd sylwadau ar ei adroddiadau a hysbysu unrhyw berson y mae’n ei ystyried yn briodol am y cyfnodau ymgynghori.

4.2 Er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r cynigion cychwynnol, bydd y Comisiwn yn cychwyn ar ymarferiad cyhoeddusrwydd sy'n canolbwyntio ar ddod â'r cynigion a'r cyfle i gyflwyno barn ar y cynigion i sylw'r cyhoedd.

4.3 Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi strategaeth gyfathrebu ar wahân sy’n amlinellu’r camau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i roi cyhoeddusrwydd i’r arolwg a’i gynigion a’i benderfyniadau. Mae’r ddogfen hon i’w gweld ar wefan y Comisiwn.

Pennod 5: Ar ôl yr adroddiad terfynol

Gweithredu

5.1 Ar ôl i Weinidogion Cymru gael adroddiad terfynol y Comisiwn, rhaid i’r adroddiad gael ei osod gerbron y Senedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gweithredu’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r adroddiad gael ei osod gerbron y Senedd a beth bynnag o fewn 14 wythnos i osod yr adroddiad gerbron y Senedd.

5.2 Ni chaiff Gweinidogion Cymru addasu penderfyniadau’r Comisiwn, oni bai bod y Comisiwn wedi gofyn yn benodol iddo wneud hynny (yn ysgrifenedig a chyda rhesymau).

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 217.07 KB

Amser darllen amcangyfrifedig:

Rhannwch y post hwn: