Arolwg 2026

Bydd Arolwg 2026 o etholaethau’r Senedd yn cael ei gynnal yn unol â Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.

Mae Rheolau’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i’r Comisiwn greu 16 o etholaethau’r Senedd drwy baru 32 o etholaethau seneddol (San Steffan) cyffiniol.

Dyddiadau allweddol

Ymgynghoriadau

Yn dilyn cyhoeddi'r Cynigion Cychwynnol a'r Cynigion Diwygiedig, bydd cyfnodau ymgynghori o 4 wythnos.

Mae'r Comisiwn yn gwahodd sylwadau ar y paru, yr enwi, a dynodi etholaethau yn ystod y cyfnodau ymgynghori hyn. Ni all y Comisiwn ystyried unrhyw sylwadau a wneir y tu allan i'r cyfnodau ymgynghori.

Ni all y Comisiwn ychwaith effeithio ar nifer yr Aelodau o’r Senedd sydd i’w hethol na’r system etholiadol a ddefnyddir i’w hethol ac ni ellir ystyried cynrychiolaethau ar y materion hyn.

Dylid gwneud sylwadau yn ysgrifenedig, ar borth ymgynghori ar-lein y Comisiwn, drwy e-bost, neu yn y post. Cyhoeddir rhagor o fanylion am yr ymgynghoriadau fel rhan o'r adroddiad Cynigion Cychwynnol.

Yn dilyn cyhoeddi’r Penderfyniadau Terfynol, bydd yr etholaethau newydd yn dod i rym yn etholiad y Senedd 2026.

Y Comisiwn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Comisiwn, gan gynnwys ei aelodaeth bresennol, yma.

Os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom i ymholiadau@cdffc.llyw.cymru neu ffoniwch 029 2046 4819.

Amser darllen amcangyfrifedig:

5 minutes amser darllen

Rhannwch y post hwn: