Arolwg Cymunedol Rhondda Cynon Taf
Mae'r Comisiwn wedi derbyn hysbysiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei fod wedi cwblhau Arolwg Cymunedol ac wedi cyflwyno ei adroddiad.
Gallwch ddarllen mwy am Adran 25 Adolygiadau Cymunedol yma.
Mae’n rhaid i’r Comisiwn yn awr benderfynu a ddylid gwneud Gorchymyn i roi effaith i’r argymhellion yn yr adroddiad, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Rhaid i'r Comisiwn aros am gyfnod o 6 wythnos ar ôl derbyn yr adroddiad cyn gwneud Gorchymyn.
Bydd diweddariad pellach yn cael ei gyhoeddi ar y wefan hon maes o law.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf