Gwybodaeth bwysig i ymgeiswyr Etholiadau Lleol
Mae Etholiadau Lleol yn cael eu cynnal yng Nghymru ar 5 Mai 2022.
Os ydych yn ddarpar ymgeisydd neu asiant, neu os oes gennych ddiddordeb yn yr etholiadau, gallwch ddod o hyd i wybodaeth werthfawr isod.
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi cwblhau ei Raglen Arolygon Etholiadol 10 mlynedd yn ddiweddar. O ganlyniad, mae llawer o Wardiau Etholiadol Cymru yn newid yn yr etholiad hwn.
Gallwch ddod o hyd i benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar Arolygon Etholiadol y Comisiwn yma.
Gallwch ddod o hyd i'n Hadroddiadau Argymhellion Terfynol ar gyfer holl Brif Gynghorau Cymru yma. Sylwch, mewn rhai achosion, bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud mân addasiadau i’r argymhellion.
Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am Arolygon Etholiadol, ac nid oes ganddo unrhyw rôl arall mewn Etholiadau Lleol. Os oes gennych gwestiynau ynghylch Wardiau Etholiadol, er enghraifft pa strydoedd sydd neu nad ydynt wedi'u cynnwys mewn Ward, neu os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i fapiau o Wardiau, cysylltwch â'r Comisiwn yn ymholiadau@ffiniau.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Etholiadau Lleol, ewch i’r gwefannau isod:
Newyddion y BBC (yn Saesneg yn unig)
Neu ewch i wefan eich Awdurdod Lleol.