Cynigion Drafft Caerffili

Mae'r cyfnod ymgynghori ar gyfer yr arolwg hwn wedi ailddechrau.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 7 Gorffennaf 2020

Gwelwch yr hysbysiad isod am fwy o wybodaeth.

Mae sylw’r Comisiwn wedi cael ei dynnu tuag at camddealltwriaeth dros yr arolwg rydym yn cynnal yn Caerffili a’r effaith y gall ein Cynigion Drafft eu gael ar yr awdurdod.

Mae’r Comisiwn wedi cynnig fod y ward trefol Dwyrain Cefn Fforest o Dref Coed-duon yn cael ei gynrhychioli mewn ward gyda Chymuned Cefn Fforest am bwrpas cynrhychiolaeth cynghorwyr sir yn unig. Ni fydd yna unrhyw newid i’r trefniadau cymunedol presenol. Fydd ward trefol Dwyrain Cefn Fforest yn aros fel rhan pwysig o Dref Coed-duon.

Ni fydd unrhyw drosglwyddiant o dir, gwasanaethau neu mwynderau o ganlyn cynigion y Comisiwn. Mae’r Comisiwn ond yn cynnig ardaloedd bydd cynghorwyr sir yn ei gynrhychioli.

Mae’r Comisiwn yn obeithiol fod y neges hon wedi egluro’r safbwynt a fod unrhyw wybodaeth darparwyd gan y Cynghor tref i’w Cymunedau yn adlewyrchu’r gwybodaeth yn y neges uchod.

Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Caerffili.

Gallwch weld y cynigion ar y porth y Comisiwn, eu cymharu â'r trefniadau presennol a gwneud unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud.

Mae'r cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn dechrau ar 23 Ionawr 2020 ac yn cau ar 15 Ebrill 2020.

Ar ôl y dyddiad hwn bydd y Comisiwn yn ystyried yr holl sylwadau derbyniwyd, yn paratoi Argymhellion Terfynol ac yn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal â'r porth ymgynghori, gellir anfon sylwadau yn ystod y cyfnod hwn at:

ymholiadau@ffiniau.cymru

neu

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Tŷ Hastings

Caerdydd

CF24 0BL

Lawrlwytho Dogfen

  1. Maint ffeil: 216.42 KB
  2. Maint ffeil: 9.97 MB
  3. Maint ffeil: 2.09 MB
  4. Maint ffeil: 1.74 MB
  5. Maint ffeil: 1.97 MB
  6. Maint ffeil: 2.2 MB
  7. Maint ffeil: 1.89 MB
  8. Maint ffeil: 1.44 MB
  9. Maint ffeil: 2.42 MB
  10. Maint ffeil: 1.91 MB
  11. Maint ffeil: 2.33 MB
  12. Maint ffeil: 2.21 MB
  13. Maint ffeil: 1.32 MB
  14. Maint ffeil: 2.56 MB
  15. Maint ffeil: 2.03 MB
  16. Maint ffeil: 1.84 MB
  17. Maint ffeil: 1.26 MB
  18. Maint ffeil: 1.67 MB
  19. Maint ffeil: 2.73 MB
  20. Maint ffeil: 4.46 MB

Amser darllen amcangyfrifedig:

Rhannwch y post hwn: