Amdanom ni
Cafodd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ei sefydlu ym 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cawsom ein hail-enwi'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn 2013 o dan Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (dolen allanol).
Cafodd y Comisiwn ei ailenwi ymhellach yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o dan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.
Corff annibynnol a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a’i brif ddiben yw cyhoeddi rhaglen waith sy’n cadw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y 22 prif gyngor dan arolwg, yn ogystal ag adolygu ffiniau etholaethau Senedd Cymru (Senedd).
Comisiynwyr
Bev Smith - Cadeirydd

Mae Bev yn was cyhoeddus angerddol ac ymroddedig ers 32 mlynedd gan ddechrau ei gyrfa yn Heddlu Swydd Lincoln a gweithio mewn ystod eang o Gynghorau Dosbarth a Bwrdeistref yn Lloegr. Mae ei gyrfa wedi cynnwys Prif Weithredwr dau awdurdod lleol yn Nwyrain Canolbarth Lloegr gyda ffocws ar adfywio economaidd a rhaglenni adnewyddu canol trefi.
Hi yw Dyfarnwr Annibynnol Awdurdodau Lleol yng Nghymru ac mae’n parhau i gefnogi’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr fel adolygydd cymheiriaid arweiniol, gan gefnogi gwella llywodraeth leol ac mae’n gadeirydd ac yn aelod bwrdd profiadol mewn ystod eang o sectorau gan gynnwys yr aelod bwrdd arweiniol ar gyfer Cymru ar yr Awdurdod Adfer Mwyngloddio.Mae hi’n credu’n gryf yng nghryfder gweithio mewn partneriaeth ac mae wedi meithrin perthnasoedd rhagorol gyda chydweithwyr llywodraethau rhanbarthol, cenedlaethol a lleol.
Fel swyddog canlyniadau profiadol mae hi wedi rheoli etholiadau Seneddol, Maer, Rhanbarth a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac mae hefyd yn hyrwyddwr democratiaeth gynhwysol a hygyrch. Gan gyfrannu at ymchwil ar y cynlluniau peilot ID pleidleiswyr mae hi'n credu'n gryf mewn sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei annog a'i glywed i ddylanwadu ar lunio lle a pholisi lleol a chenedlaethol.
‘Cefais fy ngeni a’m magu yng nghwm Rhondda ac er bod llawer o’m gyrfa wedi bod yn gwasanaethu’r cymunedau yn Lloegr mae fy nghalon wedi bod yng Nghymru erioed ac rwy’n gyffrous ac yn falch o fod wedi cael y cyfle i ddefnyddio fy mhrofiad a’m sgiliau i weithio gyda’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau yng Nghymru yn ystod ei gyfnod nesaf’.
Frank Cuthbert - Aelod

Mae Frank wedi byw yn ne Cymru ar hyd ei oes, naill ai yng Nghaerdydd neu yng Nghaerffili. Mae’n briod gydag un ferch. Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd a Phrifysgol Caerdydd, ac mae ganddo radd Meistr mewn Methodoleg Ymchwil.
Mae gyrfa Frank wedi bod yn amrywiol, gan gynnwys cyfnodau yn y gwasanaeth sifil ond hefyd cyfnod fel ymgynghorydd gwleidyddol a rheolwr ymchwil gyda Chynghorau Hyfforddiant a Menter a Chyngor Sir Swydd Gaerloyw. Fodd bynnag, yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio i Lywodraeth Cymru am 18 mlynedd yn arwain tîm yn yr Is-adran Democratiaeth Leol.
Yn ystod ei gyfnod yn Llywodraeth Cymru, bu’n gyfrifol am gysylltu â’r Comisiwn Ffiniau a chynghori Gweinidogion Cymru ar gynigion polisi a deddfwriaethol yn ymwneud â’r Comisiwn.
Ymddeolodd yn 2018.
Michael Imperato - Aelod

Mae Michael yn gyfreithiwr gyda'r cyfreithwyr Watkins a Gunn yn Ne Cymru. Mae wedi gweithredu dros bobl fregus, undebau llafur, elusennau a grwpiau ymgyrchu ers blynyddoedd lawer ac mae wedi bod yn gysylltiedig â nifer o’r achosion cyfreithiol uchaf eu proffil yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Mae Michael yn gyn-lywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr Caerdydd a’r Cylch ac mae wedi gwasanaethu ar sawl pwyllgor Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Mae Michael yn dal nifer o rolau cyhoeddus. Mae’n aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn aelod o banel cadeiryddion Tribiwnlys Prisio Lloegr, yn ysgolhaig gwadd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ymddiriedolwr Sefydliad Bevan. Mae'n llywodraethwr ysgol ers tro.
Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, gan fynychu Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd cyn graddio o Brifysgol Reading. Mae Michael yn ddilynwr brwd o’r rhan fwyaf o chwaraeon ac yn mwynhau ceisio peidio â mynd ar goll ar deithiau cerdded gyda’i wraig yng nghefn gwlad Cymru.
Dianne Bevan - Aelod

Ganwyd Dianne yn Cumbria a threuliodd ei phlentyndod yng ngogledd Lloegr. Symudodd i Gaerdydd ym 1985 ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd yn byw yng Nghymru. Mae hi’n briod â Chymro ac mae ganddi ddau blentyn mewn oed.
Gweithiodd fel cyfreithiwr am 20 mlynedd mewn llywodraeth leol, yn ne Cymru yn bennaf. Ar ôl deng mlynedd fel cyfarwyddwr gyda Chynghorau De Morgannwg a Chaerdydd, lle y gweithredodd hefyd fel swyddog canlyniadau ar gyfer nifer o etholiadau ochr yn ochr â’i dyletswyddau fel uwch gyfreithiwr y Cyngor, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Glerc yr hyn a oedd yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny, gan ddod yn Brif Swyddog Gweithredu’r Cynulliad yn ddiweddarach. Yn y rôl hon, gweithiodd gyda chynrychiolwyr etholedig o bob plaid i gefnogi gwaith deddfwriaethol y Cynulliad a’i swyddogaeth craffu ar Lywodraeth Cymru.
Ers iddi ymddeol o gyflogaeth amser llawn yn 2012, mae Dianne wedi dangos ei diddordeb brwd mewn democratiaeth gynrychioliadol a gwasanaethau lleol, gan weithio gyda sefydliadau gan gynnwys Cynulliad Gogledd Iwerddon, Pwyllgor Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a Chymdeithas Dai Taf. Fel Cydymaith gyda Global Partners Governance, sy’n helpu i ddatblygu democratiaethau effeithiol ar draws y byd, roedd Dianne yn rhan o brosiect a roddodd gyngor a hyfforddiant i Senedd ac Ardaloedd Llywodraethol Jordan.
Mae’n rhannu ei hamser sbâr rhwng teithio, cerdded, rygbi (gan gefnogi Caerdydd a Chymru), rhandir y teulu a helpu i ofalu am ei dau ŵyr.
Ginger Wiegand - Aelod

Mae Ginger Wiegand yn Uwch Gydymaith Polisi ar Dîm Cymru yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar flaenoriaeth strategol newydd y Comisiwn i fynd i’r afael ag effeithiau allgáu digidol a thechnolegau newydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae gan Ginger brofiad blaenorol helaeth o ddarparu gwasanaethau, ymgysylltu a chyfranogiad cymunedol, a rheoli prosiectau yn y trydydd sector yng Nghymru. Cyn hynny, hi oedd Rheolwr Rhaglen Cymru Gyfan, Rhaglen Ymgysylltu Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae hi wedi byw yng Nghaerdydd ers 15 mlynedd, mae’n rhiant lywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Cathays, ac mae’n gyfranogwr brwd mewn dosbarthiadau cymunedol No Fit State Circus.
Andrew Blackmore - Aelod Annibynnol Pwyllgor Archwilio ac Atal Risg

Mae Andrew wedi treulio ei yrfa mewn gwasanaethau ariannol a bu ganddo nifer o rolau uwch reoli risg a chyfalaf â ffocws ar drawsnewid busnes strategol a chryfhau trefniadau llywodraethu Bwrdd sefydliad.
O 2020 ymlaen, mae Andrew wedi ymgymryd â gyrfa portffolio ac, erbyn hyn, mae ganddo nifer o rolau fel cyfarwyddwr anweithredol ac aelod annibynnol yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, yn ogystal ag eistedd fel ynad. Yn ei amser hamdden, mae Andrew yn mwynhau cerdded mynyddoedd (rhedeg mynyddoedd gynt) ac mae wedi cwblhau nifer o lwybrau hirbell yn y DU ac Ewrop.
Kalwant Grewal - Aelod Annibynnol Pwyllgor Archwilio ac Atal Risg

Mae Kalwant Grewal yn sefyll allan fel arweinydd amlwg sy’n enwog am ei arddull arweinyddiaeth sydd wedi’i lywio gan werthoedd ac sy’n canolbwyntio ar bobl. Mae ganddo arbenigedd mewn mewnwelediadau strategol a masnachol ac mae’n hen law ar feithrin lleoedd arloesol, rhyngweithio’n fedrus â rhanddeiliaid ac arwain trawsffurfiadau hollbwysig. Mae hyfedredd Kalwant mewn ymresymu dadansoddol, ynghyd â’i ymrwymiad i amrywiaeth ac arloesi digidol, yn ei nodi’n arweinydd dynamig a hyblyg sy’n gallu rheoli tirweddau gweithredol cymhleth yn fedrus.
Trwy wasanaethu mewn sawl swydd fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor ar amrywiaeth o fyrddau, mae Kalwant wedi chwarae rôl hollbwysig mewn llunio gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd a nodau strategol nifer o sefydliadau ar draws sectorau amrywiol. Bu ei arbenigedd mewn rheoli cyllid, asesu risg a llywodraethu yn hollbwysig yn y rolau hyn. Ar hyn o bryd, fel y Prif Swyddog Cyllid ac Ysgrifennydd Cwmni, mae Kalwant yn allweddol o ran llywio cynllunio strategol, llywodraethu a thrawsnewid busnes, gan gyfuno ei arbenigedd ariannol yn fedrus ag ymagwedd gynhwysfawr at arweinyddiaeth sefydliadol.
Cofrestr o Fuddiannau
Cofrestr o Fuddiannau Comisiynwyr 2024-25